Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Mae prosiect peilot newydd, sy’n ceisio hybu proffidioldeb a chynaliadwyedd sector Cig Eidion Cymru, wedi derbyn grant o £100,000, meddai cyhoeddiad gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Bydd y prosiect – Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru PGI – yn gwerthuso effaith amrywio oedran pesgi gwartheg cig eidion ar enillion economaidd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.

HCC sy’n arwain y gwaith hwn, ac ar hyn o bryd mae’n recriwtio cyfanswm o 50 o ffermwyr – 25 o Geredigion a 25 o Sir Gaerfyrddin – i gymryd rhan yn y prosiect sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Her ARFOR. Mae’r manteision i’r rhai sy’n ymwneud â’r prosiect yn cynnwys archwiliadau carbon a dadansoddiad ariannol rhad ac am ddim, a allai arwain at fwy o elw i fusnesau.

Nod Cronfa Her ARFOR yw cryfhau’r berthynas rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru. Mae’n gronfa ariannol sy’n dyfarnu grantiau ar gyfer atebion arloesol i heriau cymunedol yn ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Russ Thomas, Arweinydd Datblygu Polisi HCC: “Roeddem yn falch bod ein cais am y grant hwn yn llwyddiannus ac edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda ffermwyr cig eidion i ddatblygu effeithlonrwydd eu busnesau tra hefyd yn mesur yr effaith bosibl ar yr amgylchedd.

“Wrth i’r sector cig coch ddod o dan bwysau cynyddol i leihau allyriadau carbon a methan, mae’n bwysig bod y sector yng Nghymru yn ystyried sut mae ei ffermwyr yn gweithredu ac yn rheoli eu harferion ffermio, yn economaidd ac yn amgylcheddol.

“Bydd y prosiect hwn yn defnyddio gwybodaeth hanesyddol a chyfredol am y farchnad, ynghyd â data perfformiad ffermydd unigol. Bydd yn canolbwyntio ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar newid ymddygiad er mwyn hybu ac annog pesgi gwartheg cig eidion o fewn cyfnod magu byrrach, trwy ddangos tystiolaeth o effeithlonrwydd economaidd ynghyd â allyriadau methan.”

Drwy weithio gyda grŵp o 50 o ffermwyr, bydd y gwaith yn cynhyrchu gwybodaeth a chanlyniadau a fydd yn fanteisiol i’r diwydiant ehangach ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchu mwy o gig eidion Cymreig o’r ansawdd gorau gyda llai o wartheg ac allyriadau, gwella brand Cig Eidion Cymru PGI gyda thystiolaeth o gynaliadwyedd, a gwneud defnyddwyr yn fwy hyderus ynghylch y sector cig eidion.

Bydd y gwaith yn cefnogi’r iaith Gymraeg a’r sector ffermio – dwy elfen bwysig sydd â chysylltiadau cynhenid ac sy’n asgwrn cefn i’r Gymru wledig.

Dywedodd Sara Davies, Rheolwr Prosiectau Arloesedd a Thwf Busnes ym Menter a Busnes: “Nod Cronfa Her ARFOR yw sicrhau datrysiadau arloesol i’r heriau sy’n bodoli ar draws ARFOR gan ganolbwyntio ar gryfhau’r berthynas rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg.
“Mae’r gronfa yn annog sefydliadau i gydweithio yn drawsffiniol ac i ddefnyddio’r iaith Gymraeg i sbarduno twf economaidd, a fydd yn ei dro, yn arwain at fudd i’r gymuned yn ehangach.

“Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r ystod eang o gynlluniau ar draws y pedair sir yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Ychwanegodd Russ: “Mae sector Cig Eidion Cymru PGI yn parhau i wneud cyfraniad cynaliadwy, cadarnhaol a chyfrifol i her diogelwch bwyd yn fyd-eang. Mae mentrau fel hyn yn amlygu ymrwymiad y diwydiant i wneud popeth o fewn ei allu i liniaru newid yn yr hinsawdd ym mhob ffordd y gall.

“Os hoffech chi weithio gyda HCC i wneud y mwyaf o fantais naturiol Cymru wrth gynhyrchu cig coch mewn modd cynaliadwy, a chymryd camau i leihau allyriadau ymhellach, cysylltwch â ni ar 01970 625050 neu info@hybucig.cymru neu cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect.”