Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Mae RamCompare yn bartneriaeth fawr sy’n galluogi diwydiant defaid y DU i yrru gwelliant genetig ymlaen trwy gynnwys data masnachol mewn gwerthusiadau genetig.

Mae RamCompare yn brosiect pum mlynedd sy’n cynnwys partneriaid o bob rhan o’r gadwyn fwyd. Cymerir hyrddod enwebedig a gofnodwyd gan Signet o wahanol fridiau hyrddod terfynell a’u defnyddio ar naw fferm fasnachol yn y DU.

Erbyn diwedd y pumed blwyddyn bydd y prosiect wedi profi 283 hwrdd o 11 brîd gyda dros 18,500 o’u hepilion. Mae’n un o’r treialon mwyaf o’r fath.

Mae prosiect RamCompare wedi’i ariannu gan AHDB, Hybu Cig Cymru (HCC), Quality Meat Scotland ac Agrisearch gyda chefnogaeth gan Sainsbury’s, Randell Parker Foods, Dunbia a Scotland’s Rural College (SRUC).

Cyfnodau

01
Cam 1

Roedd cam cyntaf y prosiect yn cynnwys datblygu rhwydwaith o chwe fferm fasnachol fydd yn defnyddio ffrwythloni artiffisial (AI) a pharu un hwrdd i gynhyrchu cnwd o dros 500 o ŵyn y fferm y flwyddyn. Yn y diwydiant defaid yn y DU nid oedd tad yr ŵyn oedd yn cael eu lladd yn hysbys, felly mae’r dull hwn wedi galluogi i wybodaeth yr hwrdd gael ei gasglu.

Profwyd 67 hwrdd o bum brîd gwahanol – Texel, Suffolk, Charollais, Hampshire Down a Meatlinc – ar draws y diadelloedd yn ystod tymor ŵyna 2016 a 2017. Roedd yr hyrddod yn cynrychioli 20 y cant uchaf o’u brîd ar sail eu gwerthoedd bridio amcangyfrifedig (EBVs) ac roedd gan yr hyrddod AI gysylltiad genetig da â diadelloedd pedigri eraill.

Casglwyd y data ar gyfer eu hŵyn o’u geni hyd at eu lladd. Cafodd y data hwn ei werthuso i weld a yw eu cynnwys yn y gwerthusiadau genetig hyrddod yn nodi gwahaniaethau genetig rhwng yr hyrddod ac wedi gwella cywirdeb rhagfynegiadau genetig. Cynhyrchwyd safle i’r hyrddod a brofwyd, yn seiliedig ar nodweddion sy’n bwysig yn fasnachol, ar ddiwedd cam cyntaf y prosiect ym mis Tachwedd 2017.

02
Cam 2

Fe wnaeth ail gam y prosiect gynyddu’r nifer o ffermydd oedd yn cymryd rhan, y bridiau oedd yn rhan o’r prosiect a galluogwyd genetegydd i dreulio amser yn asesu’r data a gasglwyd ar bwysau cysefin carcas a chroesrym. Cynyddodd y nifer o hyrddod a gafodd eu henwebu a’u dewis, gan alluogi amrywiaeth ehangach o linellau bridio i’w hasesu. Erbyn hyn mae’r prosiect yn cynnwys Texel Glas, Bleu du Maine, Shropshire, Beltex a hyrddod Poll Dorset.

Disgwylir canlyniadau’r pumed flwyddyn yn Mai 2021.

03
Cam 3

Mae Cam 3 RamCompare wedi’i gadarnhau. Gyda lansiad Cam 3, bwriad y prosiect yw lledaenu’r ymchwil ymhellach, gan brofi mwy o hyrddod a symud i sefyllfa lle mae cynnwys data lladd-dy mewn gwerthusiadau genetig yn dod yn arferol.

Mae Ram Compare yn mesur perfformiad hyrddod wedi’u recordio ar draws bridiau hyrddod terfynell ar gyfer nodweddion tyfu a carcas. Mae mesuriadau perfformio nodweddion carcas wedi’u datblygu fel bod modd i’r diwydiant wneud penderfyniadau bridio gwell ac yn y pen draw gwella proffidioldeb y fferm. I ddarganfod mwy am yr hyrddod cliciwch yma.

Lawrlwythwch Adnoddau

Case Study - Nutting
PDF Document
Yr 4 Results
PDF Document
Open book logo

Astudiaethau Achos

Ceir rhagor o astudiaethau achos y prosiect yma.