Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Fel arfer bydd dietau mamogiaid beichiog yn cynnwys peth blawd ffa soya er mwyn darparu’r protein o ansawdd uchel sydd ei angen i ddiwallu gofynion protein treuliadwy ac anniraddiadwy (DUP), ac yn aml caiff soya ei gynnwys mewn didolborthiant a chymysgfwydydd eraill ar gyfer yn.

Fodd bynnag, mae bron y cyfan o’r soya sy’n cael ei fewnforio i’r DG yn dod o Dde America ac mae angen gwerthuso ffynonellau eraill o brotein y gellir eu tyfu yn y DG er mwyn gwneud cynhyrchu defaid yn y DG yn fwy cynaliadwy yn yr hirdymor.

Ymhlith bwydydd eraill y gellid eu defnyddio yn lle soya, mae grawn tywyll distyllwyr gwenith, wrea, ffa a phys. Bydd rhai o’r rhain yn cael eu cynnwys yn yr astudiaeth hon er mwyn cymharu ffynonellau protein â blawd ffa soya ar gyfer mamogiaid beichiog ar ddiet cyflawn yn seiliedig ar silwair glaswellt. Dylai’r gwaith ddarparu gwybodaeth bwysig am fwydydd amgen a’u lle ym mhorthiant cyflawn mamogiaid beichiog ac am gyfaddasrwydd yr argymhellion cyfredol yngl?n â maeth.

 

Sut fydd y gwaith yn cael ei wneud?

Defnyddir blawd ffa soya yn ffynhonnell brotein ‘safonol’ a chaiff ei gymharu â ffa maes, grawn tywyll distyllwyr gwenith a blawd hadau rêp. Defnyddir y ffynonellau protein hyn i gynhyrchu blawd protein i’w ddefnyddio mewn dognau cymysg cyflawn. Caiff y dietau eu bwydo i famogiaid sy’n cario gefeilliaid ac sy’n wyna ym mis Mawrth yn ystod y 5 to 6 wythnos cyn wyna yn ôl dognau sy’n seiliedig ar ddadansoddiad o’r silwair glaswellt. Bydd y mamogiaid yn cael silwair byrnau mawr wedi’i dorri’n fân (glaswellt/meillion) a betys porfwyd mewn dogn cymysg cyflawn ynghyd â ‘blawd protein’ i ddiwallu anghenion egni a phrotein yn hwyr yn y cyfnod beichiogrwydd. Caiff y dietau eu creu er mwyn darparu’r un faint o egni a phrotein amrwd. Bydd lefelau’r protein metaboladwy yn amrywio yn ôl y ffynhonnell brotein.

Defnyddir deugain o famogiaid ar gyfer pob triniaeth. Dewisir y mamogiaid ar hap a’u rhannu yn ôl oed er mwyn gwneud yn si?r fod yna gydraddoldeb cyfartalog ar draws yr holl driniaethau. Mae’r ddiadell wedi’i thagio’n electronig ac felly bydd gan yr holl famogiaid ac ?yn rifau adnabod unigol.

 

Pwy fydd yn rhoi’r prosiect ar waith?

ADAS sy’n gwneud y gwaith, ac mae’n cael ei ariannu gan HCC ac EBLEX.

 

Cyfnod y prosiect

Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi 2013 a daw i ben ym mis Rhagfyr 2014.

Ffynonellau protein i fwydo gwartheg cig eidion a defaid