Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Dewis offer EID ar gyfer eich praidd

Diben y tudalennau hyn yw rhoi gwybodaeth wrthrychol i chi am y mathau o offer sydd ar gael a chyngor ymarferol ar ba fathau o offer a allai fod orau i chi.

Mae gwybodaeth ar gael hefyd yn y llyfryn hwn, Gwneud yr eithaf o gofnodi EID – Ffyrdd ymarferol o wneud y mwyaf o fanteision o gofnodi EID yn eich diadell.

Bydd y mathau o offer a ddewisir yn dibynnu ar eich sefyllfa ffermio eich hun, a pha fuddion y gobeithiwch eu cyflawni.

Mathau o offer

01
Tagiau a bolysau

Mae’r sglodion electronig sy’n cynnwys y wybodaeth adnabod unigryw fel arfer yn cael eu cario mewn tag neu folws. Bolysau rwmen a arferai fod y brif ffordd o ddefnyddio EID. Mae eu cyfraddau colli’n tueddu i fod yn llai nag ar gyfer tagiau clust, ond maent yn ddrutach. Maent yn fwy anodd i’w rhoi ac yn llai hwylus i’w darllen gan ddefnyddio darllenydd llaw.

Tagiau yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o ddefnyddio EID, ac maent yn rhatach ac ar gael yn ehangach. Mae tagiau EID wedi datblygu’n sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae sawl dewis ar gael. Bydd defnyddio arfer da wrth dagio eich anifeiliaid yn helpu i sicrhau cyfraddau cadw da ac osgoi heintiau.

02
Darllenwyr ffon

Mae darllenwyr ffon wedi’u cynllunio ar gyfer darllen electronig cyflym a rhwydd. Fe’u defnyddir yn bennaf ar gyfer darllen rhifau EID, gan ddangos rhifau unigol a chyfanswm grŵp. Mae’r rhifau EID a ddarllenir yn cael eu lawrlwytho trwy gebl neu dechnoleg Bluetooth (di-wifr).

Mae darllenwyr ffon yn gallu cynnwys cyfleuster cof ar gyfer darllen a storio rhifau EID grŵp o anifeiliaid er mwyn creu is-grwpiau neu grwpiau rheoli syml.

Yn gyffredinol, gellir integreiddio darllenwyr ffon â mathau eraill o offer, er enghraifft cyfrifiadur llaw, cyfrifiadur personol neu argraffydd symudol.

Nodweddion cyffredin:

  • Lle i storio 3,000 – 10,000 o rifau unigol.
  • Pedair i chwe awr o oes fatri o’r adeg gwefru’n llawn, yn dibynnu ar y gosodiadau.
  • Amrediad prisiau nodweddiadol – £450 i £850.
03
Darllenydd llaw sylfaenol ac uwch

Mae’r dyfeisiau hyn yn cynnig mwy o ymarferoldeb na darllenydd ffon, a gellir eu defnyddio i gofnodi data sylfaenol. Mae gan ddarllenwyr llaw sylfaenol fysellbadiau syml sy’n cyfyngu’r gallu i ychwanegu data neu wybodaeth reoli ychwanegol.

Mae gan y modelau mwy soffistigedig fysellbad rhifol sy’n caniatáu ar gyfer ychwanegu rhywfaint o ddata. Mae darllenwyr llaw yn sganio trwy antena byr, sy’n golygu eu bod yn llai addas ar gyfer darllen bolysau.

Yn nodweddiadol, nid yw’r dyfeisiau hyn yn cysylltu â mathau eraill o offer fel teclynnau pwyso neu ddarllenwyr rhedfa, felly ni ddylid eu hystyried yn offer ‘estynadwy’.

Nodweddion cyffredin:

  • Amrediad prisiau nodweddiadol – Sylfaenol £300, uwch £650.
  • Addas ar gyfer preiddiau o lai na 500 o famogiaid.
04
Darllenydd llaw gyda system weithredu

Mae’r rhain wedi’u cynllunio i storio gwybodaeth am anifeiliaid unigol yn y maes a galluogi mwy o ddata i gael ei gasglu a’i brosesu am eich praidd.

Gall data fel cofnodion praidd gael ei gario i’r maes er mwyn i chi weld cofnodion anifeiliaid yn gyflym. Yn nodweddiadol, gellir integreiddio’r darllenwyr hyn â systemau pwyso, darllen rhedfa a chytio electronig uwch.

Nodweddion cyffredin:

  • Llawer o le storio – addas ar gyfer preiddiau mawr iawn.
  • Amrediad prisiau nodweddiadol – £1,000 – £1,600.
05
Darllenydd panel/statig

Mae darllenwyr statig fel arfer yn cael eu defnyddio mewn rhedfa trin defaid, crât pwyso neu system drin symudol, ac maent yn darparu modd i ddarllen anifeiliaid yn gyflym heb lawer o ymyrraeth ddynol. Maent yn defnyddio un neu fwy o antenâu a osodir ar y rhedfa neu’r crât ac, yn gyffredinol, os bwriedir gyrru llawer o anifeiliaid trwy ddarllenydd yn gyflym, po fwyaf antenâu a leolir yn y darllenydd, y mwyaf tebygol ydyw y bydd y tagiau’n cael eu darllen yn gywir.

Mae systemau darllen sylfaenol yn casglu rhif adnabod yr anifail yn unig, tra bod systemau uwch yn cysylltu’r rhif adnabod â data arall a gasglwyd. Gall ymyriant gan ffynonellau electromagnetig eraill amharu’n sylweddol ar berfformiad y darllenydd, felly mae’r math o ddarllenydd a ddewisir, ei leoliad, y dull o’i osod a natur y cyflenwad pŵer a ddefnyddir yn ffactorau pwysig wrth helpu i gael cyfraddau darllen cywir.

Nodweddion cyffredin ac amrediad prisiau:

  • £1,250 ar gyfer system ddarllen panel.
  • £5,000 – £6,000 ar gyfer system ddarllen, pwyso a chytio gwbl integredig.
  • £8,000 – £10,000 ar gyfer system drin awtomatig, symudol, sy’n EID-gytûn.
06
Meddalwedd fferm

Y feddalwedd yw’r rhaglennu sy’n gwneud i’r darllenydd weithio ac yn caniatáu iddo gyfathrebu â dyfeisiau eraill. Mae’n eich galluogi i gymryd y data a gasglwyd gennych a’i ddefnyddio i ystyried perfformiad eich anifeiliaid a’ch helpu i wneud penderfyniadau rheoli.

Bydd ansawdd y feddalwedd sy’n gweithredu darllenwyr llaw yn effeithio ar ddibynadwyedd yr offer electronig arall sydd gennych a pha mor rhwydd ydyw i’w ddefnyddio.

Gall meddalwedd rheoli praidd gynnig amrywiaeth o nodweddion i chi gan gynnwys data am berfformiad anifeiliaid unigol, cofnodion milfeddygol a rheoli meddyginiaeth. Mae systemau fferm gyfan ar gael hefyd sy’n cynnwys cofnodion maes a chyfrifon fferm.

I fod yn effeithiol, mae’n rhaid i unrhyw feddalwedd a ddewisir fod yn rhwydd ei defnyddio a gallu storio, dadansoddi ac adrodd ar ddata yn effeithlon ac mewn ffordd gyfleus.

07
Antenâu

Mae antena’n caniatáu i ddarllenydd ddarllen tagiau EID. Byddant wedi’u cynnwys yn rhan o’r darllenydd neu wedi’u gosod wrth ochr neu o amgylch darllenwyr rhedfa. Mae nifer a lleoliad antenâu yn bwysig er mwyn sicrhau cyfradd ddarllen dda.

08
Offer pwyso

Gall offer pwyso gael ei gysylltu â darllenwyr llaw a darllenwyr statig. Mae’r systemau hyn yn golygu bod modd adnabod yr anifail trwy EID a chofnodi ei bwysau’n awtomatig.

Mae systemau pwyso fel arfer yn cynnwys pâr o fariau llwytho sydd wedi’u gosod o dan grât pwyso, a theclyn pwyso sy’n darllen y pwysau ac yn anfon y wybodaeth i’r darllenydd trwy gebl neu dechnoleg Bluetooth.

09
Systemau didoli

Mae systemau didoli awtomatig a systemau didoli â llaw ar gael. Mae’r rhain yn cysylltu system redfa ag unedau darllen trwy dechnoleg Bluetooth. Wrth i bob anifail fynd i mewn i’r rhedfa, caiff ei adnabod wrth ei dag EID unigryw.

Yna gellir cyfeirio’r anifail allan o amryw o wahanol gatiau yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth a gadwyd, fel brîd, oedran, rhyw a pherfformiad bridio. Yn dibynnu ar y system a ddewiswyd, gall y broses ddidoli gael ei gwneud â llaw trwy wrando ar signalau clywadwy neu’n awtomatig gan y system ei hun.

10
Trosglwyddo data

Gall y wybodaeth a gesglir gan ddarllenwyr EID gael ei throsglwyddo trwy geblau neu’n ddi-wifr trwy Bluetooth. Gellir casglu’r wybodaeth mewn sawl ffordd:

  • O ddarllenydd ffon i argraffydd cludadwy er mwyn cynhyrchu allbrint papur syml y gallwch ei roi i gludwr neu ei atodi i gofrestr y daliad.
  • I liniadur neu gyfrifiadur mewn swyddfa, lle y gallwch storio ac argraffu eich data.
  • I gynorthwy-ydd digidol personol (PDA) sy’n gallu storio neu drawsyrru data i ddyfais arall, er enghraifft argraffydd neu gyfrifiadur personol.
  • I PDA/ffôn symudol, sydd hefyd yn gallu e-bostio data i gyfrifiadur eich fferm neu fan arall.

Hyfforddiant

Mae rhai cyflenwyr yn cynnig hyfforddiant ar ddefnyddio offer er mwyn eich rhoi chi ar ben ffordd. Gall faint o hyfforddiant a chymorth sydd ar gael i chi ar ôl prynu amrywio.

Gofynnwch i’ch cyflenwr ynglŷn â’r hyfforddiant a’r cymorth ôl-werthu sydd ar gael er mwyn i chi gael y mwyaf o’ch buddsoddiad.

Pa system fydd yn addas i chi?

Mae ffermio defaid yn cynnwys busnesau amrywiol iawn o ran math a maint. Bydd angen i chi asesu eich sefyllfa eich hun, lleoliad a math y cyfleusterau trin defaid rydych chi’n eu defnyddio a’r manteision a ddymunwch o ddefnyddio offer EID er mwyn penderfynu pa system fydd yn gweddu orau i’ch anghenion.

Pwyntiau i’w hystyried wrth brynu offer adnabod electronig:

  • Meddyliwch am yr hyn rydych chi eisiau defnyddio offer EID ar ei gyfer ar eich fferm a’r hyn y byddwch chi’n ei ddefnyddio’n aml. Dylech gyfyngu eich hun i brynu’r offer sydd ei angen arnoch yn unig yn y lle cyntaf.
  • Gwnewch yn siwr fod maint eich fferm yn cyfiawnhau’r buddsoddiad arfaethedig – ystyriwch system sylfaenol y gellir ychwanegu ati wrth i chi ddatblygu a dymuno cael mwy o fuddion.
  • Datblygwch eich gwybodaeth trwy fynd i arddangosiadau a grwpiau trafod a siarad â ffermwyr sydd eisoes yn defnyddio system adnabod EID
  • Ystyriwch brynu offer a meddalwedd o un ffynhonnell a fydd yn gallu cyflenwi a chefnogi integreiddiad llawn y system a ddewiswyd gennych.
  • Ceisiwch dystlythyrau annibynnol ynglŷn â’r offer ac ansawdd yr hyfforddiant a’r cymorth ôl-werthu a gynigir gan y cyflenwyr.
  • Cyn prynu, rhowch ddigon o amser i’ch hun i archwilio’r offer a’r feddalwedd er mwyn ystyried pa mor addas a rhwydd i’w defnyddio ydynt, a faint o wybodaeth TG sydd ei hangen.
  • Meddyliwch am ble y byddwch yn ei ddefnyddio – mae rhai arddangosiadau grisial hylif (LCD) yn haws i’w darllen yn y tywyllwch neu mewn golau haul cryf nag eraill; ceisiwch osgoi sefyllfaoedd lle y mae’n bosibl na fydd darlleniadau cystal (gweler isod).
  • Mynnwch gael llawlyfr cyfarwyddiadau a manteisiwch ar unrhyw hyfforddiant sydd ar gael.
  • Prynwch ddarllenydd sy’n bodloni safonau ansawdd ISO ac sy’n darllen hanner dwplecs (HDX) a dwplecs cyflawn (FDX-B).
  • Ystyriwch faint o wybodaeth gyfrifiadurol sydd gennych a dewiswch becynnau meddalwedd a fydd yn gweddu i’r hyn rydych chi am ei wneud – bydd rhai o’r cynhyrchion TG mwy cymhleth yn gofyn am lefel dda o ddealltwriaeth.

Mae’n rhaid i’r system EID a ddewiswch allu gweithio’n effeithiol yn eich sefyllfaoedd ffermio eich hun.

Yn gyffredinol, cynhyrchir offer i wrthsefyll lefel arferol o ysgytio, baw a chysylltiad â dŵr. Fodd bynnag, mae gan unrhyw ddyfais electronig ei therfyn os caiff ei thrin yn ddi-hid.

Bydd cyflenwyr yn gallu rhoi canllawiau manwl ar sut y dylid defnyddio offer. Yn aml, bydd gofyn cwestiynau’n gynnar yn gallu rhoi dealltwriaeth well i chi o EID a’ch helpu i ddelio ag unrhyw faterion sy’n codi.

Defnyddio offer EID

Gall ble a sut mae eich offer yn cael ei ddefnyddio effeithio ar ansawdd y darlleniad a gewch. Gall cynllunio a pharatoi arbed cryn dipyn o amser.

  • Defnyddiwch dagiau a bolysau o ansawdd da i hwyluso darllen gweledol ac electronig.
  • Ystyriwch ddyluniad dyfeisiau EID yn ofalus (e.e. steil, maint, pwysau, hyd y pin) o ran brîd ac oedran eich defaid a’ch trefniadau bwydo, lletya a ffensio.
  • Dilynwch dechnegau tagio/bolysu da. Defnyddiwch y dyfeisiau cywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr, er mwyn sicrhau cyfraddau cadw ac osgoi problemau lles.
  • Storiwch eich offer darllen ar dymheredd amgylchynol pan na fydd yn cael ei ddefnyddio.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio darllenydd ffon a darllenydd panel yn agos i’w gilydd oherwydd fe allent ymyrryd â’i gilydd.
  • Gall ‘sŵn diwydiannol’ effeithio ar ddarllenydd. Mae hyn yn cynnwys motorau trydanol (yn enwedig motorau cyflymder amrywiol), peiriannau sy’n rhedeg a goleuadau fflworoleuol.
  • Gall darllenydd panel/statig dderbyn darlleniadau o ffynonellau diangen hefyd (fel dyfeisiau eraill, ffobiau allweddi ceir a chŵn sydd â microsglodyn wedi’i osod ynddynt).
  • Gwefrwch fatris yn ddigon hir ar gyfer y gwaith a gynlluniwyd neu cadwch fatri sydd wedi’i wefru’n llawn yn sbâr.
  • Gwnewch yn siwr fod y data cywir yn cael ei gasglu a’i fod yn berthnasol i’ch amcanion rheoli.
  • Neilltuwch ddigon o amser i ddadansoddi’r wybodaeth a chynhyrchu canlyniadau

Enghreifftiau o’r dewisiadau offer sydd ar gael i chi

Ar gyfer beth rydych chi am ddefnyddio system adnabod EID?

Darllenydd ffon ac argraffydd syml

Darllenydd ffon, cyfrifiadur personol, argraffydd, meddalwedd sylfaenol

Darllenydd llaw (bysellbad rhifol), cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

Darllenydd llaw, teclyn pwyso sydd wedi’i alluogi ar gyfer EID, crât pwyso, cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

Ar gyfer beth rydych chi am ddefnyddio system adnabod EID?

Cynhyrchu rhestr syml o niferoedd defaid

Darllenydd ffon ac argraffydd syml

x

Darllenydd ffon, cyfrifiadur personol, argraffydd, meddalwedd sylfaenol

x

Darllenydd llaw (bysellbad rhifol), cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

x

Darllenydd llaw, teclyn pwyso sydd wedi’i alluogi ar gyfer EID, crât pwyso, cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

x

Ar gyfer beth rydych chi am ddefnyddio system adnabod EID?

Cynhyrchu rhestr syml o niferoedd defaid, darllen rhifau adnabod defaid a neilltuo gwybodaeth reoli i grwpiau o anifeiliaid e.e. symudiadau neu driniaeth filfeddygol

Darllenydd ffon ac argraffydd syml

Darllenydd ffon, cyfrifiadur personol, argraffydd, meddalwedd sylfaenol

x

Darllenydd llaw (bysellbad rhifol), cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

x

Darllenydd llaw, teclyn pwyso sydd wedi’i alluogi ar gyfer EID, crât pwyso, cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

x

Ar gyfer beth rydych chi am ddefnyddio system adnabod EID?

Cynhyrchu rhestr syml o niferoedd defaid, darllen rhifau adnabod defaid a neilltuo gwybodaeth reoli i grwpiau o anifeiliaid yn ogystal â mewnbynnu data am anifeiliaid unigol, cynnal cofnodion praidd, llunio adroddiadau rheoli

Darllenydd ffon ac argraffydd syml

Darllenydd ffon, cyfrifiadur personol, argraffydd, meddalwedd sylfaenol

Darllenydd llaw (bysellbad rhifol), cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

x

Darllenydd llaw, teclyn pwyso sydd wedi’i alluogi ar gyfer EID, crât pwyso, cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

x

Ar gyfer beth rydych chi am ddefnyddio system adnabod EID?

Yr holl dasgau uchod yn ogystal â chasglu data’n awtomataidd, llunio adroddiadau rheoli cynhwysfawr ar y praidd, trosglwyddo data o’r swyddfa i’r maes

Darllenydd ffon ac argraffydd syml

Darllenydd ffon, cyfrifiadur personol, argraffydd, meddalwedd sylfaenol

Darllenydd llaw (bysellbad rhifol), cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

Darllenydd llaw, teclyn pwyso sydd wedi’i alluogi ar gyfer EID, crât pwyso, cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

x

Ar gyfer beth rydych chi am ddefnyddio system adnabod EID?

Costau bras*

Darllenydd ffon ac argraffydd syml

£700 – £1,200

Darllenydd ffon, cyfrifiadur personol, argraffydd, meddalwedd sylfaenol

£1,000 – £1,300

Darllenydd llaw (bysellbad rhifol), cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

£1,200 – £1,400

Darllenydd llaw, teclyn pwyso sydd wedi’i alluogi ar gyfer EID, crât pwyso, cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd

£5,000 – £6,000

*Mae hyn yn tybio bod gennych chi fynediad at gyfrifiadur ac argraffydd eisoes