Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Llyngyr yr Iau

Mae llyngyren yr iau yn barasit sy’n debyg i ddeilen fflat ac sydd i’w chael yn nwythell y bustl mewn afu. Mae cylchred bywyd llyngyren yr iau yn dibynnu ar falwoden y llaid, Galba truncatula.

Bydd llyngyr yr iau llawn-dwf yn afu’r fuwch yn cynhyrchu wyau sy’n cael eu trosglwyddo i’r borfa.

Mae’r wyau hyn yn deor mewn amodau llaith i gynhyrchu larfâu symudol sydd wedyn yn heintio’r falwoden.

Bydd y llyngyr yn datblygu yn y falwen hyd nes cyrraedd cam arnofiol arall sy’n cyfanheddu ar y borfa.

Bydd y rhain wedyn yn cyrraedd cam ansymudol ac ymwrthol dros ben.  Unwaith y cânt eu bwyta gan fuwch, byddant yn deor ac yn symud i’r afu.

Mae’r holl arwyddion yn y fuwch yn ganlyniad i ddifrod i’r afu, ac mae’r symptomau’n amrywio gan ddibynnu ar nifer y llyngyr sydd yn yr afu. Mae’r clefyd yn fwy cyffredin yn yr ardaloedd gorllewinol a gwlypaf o’r DG ac Iwerddon, ac mae lefelau’r heintiad yn dibynnu ar faint o law sy’n disgyn o fis Mai tan fis Hydref. Yn ardaloedd gwlypaf y DG, mae’r dosbarthiad yn dibynnu’n llwyr ar bresenoldeb y cynhaliwr, sef y falwen. Dim malwod, dim llyngyr yr iau.

Arwyddion Clinigol

Yn y DG mae llyngyr yr iau yn tueddu i fod yn fwy difrifol mewn defaid a geifr  a gall wneud niwed sylweddol i wartheg. Maen gwartheg, mae llyngyr yr iau fel arfer yn glefyd is-acíwt neu gronig.  Y prif arwyddion yw:

  • Colli pwysau cynyddol
  • Llai o laeth

Mae’r arwyddion llai cyffredin yn cynnwys:

  • Gên-botel
  • Chwydd yn yr abdomen am fod hylif yn crynhoi (dropsi’r bol).

Diagnosis

  • Yn ôl yr arwyddion clinigol a ddisgrifir uchod.
  • Cyfrifiad wyau ysgarthol: gallai presenoldeb unrhyw wyau fod yn arwydd o heintiad llyngyr yr iau.
  • Gall eich milfeddyg gynnal profion gwaed a fydd yn dangos graddau a difrifoldeb niwed i’r afu.

Triniaeth

Mae nifer fawr o feddyginiaethau gwrthlyngyrol ar gael i drin llyngyr yr iau mewn gwartheg. Am fod llyngyr yr iau yn dueddol o fod yn gronig, bydd y rhan fwyaf yn effeithiol, ond mae’n well cael cyngor y milfeddyg os nad ydych wedi trin llyngyr yr iau o’r blaen.

Atal

  1. Pan fo llyngyr yr iau yn bresennol, gall cadw gwartheg allan o gynefinoedd malwod nodweddiadol (tiroedd isel a gwlyb, ymylon pyllau) leihau heintiad llyngyr iau, ond mae’n gwbl amhosibl atal malwod yn llwyr ac mae hefyd yn anodd adnabod pob safle malwod.
  2. Gall draenio fod o gymorth wrth leihau niferoedd y malwod.
  3. Defnyddiwyd cemegau i leihau nifer y malwod, ond dydy’r cemegau ddim ar gael mwyach.Wrth ddilyngyru gwartheg yn rheolaidd yn Rhagfyr/Ionawr, dylai fod modd i reoli llyngyr yr iau  mewn blynyddoedd pan nad oes gormod o law.
  4. Os yw’r glawiad yn drwm, gall y bydd angen dos ychwanegol ym mis Mai ar wartheg a fu allan dros y gaeaf.

Richard Laven PhD BVetMed MRCVS
Hawlfraint © NADIS 2003

Mae gwybodaeth bellach am reoli llyngyr yr iau mewn defaid ar gael ar wefan SCOPS

Downloads

Rheoli llyngyr yr iau ar Ffermydd yng Nghymru
PDF Document
GWARTHEG Rheoli Llyngyr yn Gynaliadwy
PDF Document
MEASURING TRICLABENDAZOLE RESISTANCE AS PART OF A WHOLE FARM STRATEGY FOR THE CONTROL OF LIVER FLUKE IN SHEEP AND CATTLE
PDF Document