Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Firws Dolur Rhydd Epidemig y Moch (PEDv)

Mae Firws Dolur Rhydd Epidemig y Moch (PEDv) wedi peri problemau i’r diwydiant moch yng Ngogledd America yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r epidemig clefydol enbyd hwn yn achosi dolur rhydd difrifol mewn moch o bob oed a bydd canran uchel o foch bach yn marw.

Ymddangosodd y clefyd gyntaf yn Asia ac UDA.  Fe’i gwelwyd yn y rhan fwyaf o daleithiau’r UD ac oddi ar hynny cafwyd achosion yng Nghanada a Mecsico. Nid yw ffynhonnell y firws yn hysbys, a does neb yn gwybod pam mae wedi ymledu mor gyflym ar draws ardal mor eang. O ganlyniad, mae pob gwlad, gan cynnwys Prydain, ar yr wyliadwriaeth uchaf posibl rhag ofn i’r clefyd eu cyrraedd.

Mae’r math newydd o PEDv yn heintus iawn ac yn symud yn hawdd iawn rhwng unedau moch, nid yn unig mewn anifeiliaid sydd wedi’u heintio, ond mewn unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi â’r firws. Gwelwyd math llai difrifol o PEDv yng Nghymru yn y gorffennol, ac o’r herwydd mae’r diwydiant yn lân o ran y firws enbyd hwn a fydd yn achosi heintiad difrifol pe bai’n cyrraedd Cymru.

Beth yw PEDv?

Achosir Firws Dolur Rhydd Epidemig y Moch (PEDv) gan goronafirws  sy’n niweidio’r filysau yng ngholuddyn bach y mochyn. Mae hyn yn effeithio ar amsugniad yn y perfedd, gan arwain at ddiffyg hylif a dolur rhydd difrifol. Mae’n heintus dros ben ac yn achosi afiachusrwydd a marwolaethau mewn moch bach.

Mewn moch h?n, mae’r firws yn llai niweidiol a bydd y moch fel arfer yn mynd yn sâl ac yn colli pwysau ar ôl cael eu heintio. Mewn perchyll newydd-anedig, mae diffyg amddiffyniad y fam yn erbyn y clefyd yn golygu bod ei hepil yn arbennig o agored, ac yn aml gall y dolur rhydd arwain at ddiffyg hylif a marwolaeth.

O ganlyniad, mae PEDv yn faich ariannol enfawr pan fo cenfaint moch yn dioddef ohono.

Mae math llai difrifol o PEDv wedi bod o gwmpas Ewrop ers y 1970au ac mae’n bresennol ar lefel isel mewn rhai poblogaethau moch yn y DG. Nid oes modd trosglwyddo’r naill firws na’r llall i bobl, ac ni allant halogi’r gadwyn cyflenwi bwyd.

Symptomau i chwilio amdanynt:

  • Mae’r dolur rhydd yn ddyfrllyd a gellir ei weld mewn moch o bob oedran.
  • Achosion o’r dolur rhydd yn ymledu’n gyflym, a’r moch heb chwant bwyd, yn ddiegni, yn dioddef o ddiffyg hylif ac yn chwydu.
  • Canran uchel o farwolaethau (hyd at 100%) mewn moch bach oherwydd diffyg hylif. Byddai canran uchel o farwolaethau mewn moch sy’n sugno yn arwydd cynnar o PEDv enbyd, ond gallai’r dolur rhydd fod yn debyg i achosion eraill o glefydau coluddol mewn moch h?n.
  • Pan fo moch bach yn yr awyr agored neu ar wely o wellt, gallant farw cyn i neb sylwi ar y dolur rhydd.
  • Bydd y cyfraddau marwolaeth yn gostwng wrth i’r moch fynd yn h?n, a bydd moch sy’n pesgi a hychod heintus yn gwella’n gyflym. Mae dolur rhydd sy’n cael ei achosi gan PEDv enbyd yn fyrhoedlog mewn moch wedi’u diddyfnu a moch h?n, ond gallai heintiadau fel salmonelosis olygu dolur rhydd dros gyfnod hirach neu farwolaethau mewn moch sy’n tyfu.

Atal yr haint PEDv rhag lledaenu

Tail wedi’i heintio yw prif ffynhonnell PEDv.Gall unrhyw beth sydd wedi’i halogi â hyd yn oed ychydig bach iawn o dail moch wedi’i halogi fod yn ffynhonnell haint ar gyfer moch eraill, gan gynnwys:

  • Moch, pobl, cerbydau, fectorau anifeiliaid eraill (gan gynnwys cnofilod, adar, llwynogod, pryfed, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm eraill), cyfarpar a drwy wlâu, bwyd a dŵr
  • Mae modd i PEDv ledaenu drwy’r aer, drwy semen a drwy blasma gwaed moch.

Os nad oes gennych chi PEDv, canolbwyntiwch ar ei gadw allan

Dylid dilyn egwyddorion bioddiogelwch cyffredinol er mwyn lleihau’r risg o’r clefyd

  • Cyfyngwch ar nifer yr ymwelwyr.
  • Defnyddiwch rwystrau i gyfyngu ar y bobl sy’n mynd i ardaloedd y moch ar y fferm/eiddo – ffensys, gatiau, arwyddion dim mynediad.Ffordd dda o wneud hyn yw gwahanu cyfleusterau’r fferm, ei hanifeiliaid a’i staff oddi wrth lorïau, trelars a phobl y  mae’n rhaid iddynt gadw y tu allan i’r ardal cynhyrchu moch.Gallai hyn gynnwys cludwyr, cyflenwadau bwyd, contractwyr yn symud tail, ac ati.
  • Byddwch yn glir ynghylch yr hyn rydych yn ei ddisgwyl gan gerbydau a phobl sy’n ymweld.
  • Gall glanhau a diheintio’n effeithiol anactifadu a dinistrio pathogenau ar unrhyw arwynebau sydd, o bosib, wedi’u halogi.Defnyddiwch lanedydd, gyda’r crynodiad cywir, i gael gwared â deunydd organig, golchwch yn drwyadl ac yna gadewch i arwynebau sychu.
  • Byddwch yn ofalus wrth ddewis moch a chyflenwadau.
  • Rheolwch fynediad at fywyd gwyllt.

Camau i’w cymryd os ydych chi’n amau PEDv ar eich fferm:

  • Cysylltwch â’ch milfeddyg a rhowch wybod am eich amheuon cyn gynted â phosibl
  • Cymerwch gamau bioddiogelwch ar unwaith i atal y firws rhag lledaenu trwy gyfrwng symud moch, cerbydau, esgidiau, etc.  Ni ddylid symud moch cyn i’r uned fod yn gwbl glir.
  • Nid oes brechlyn ar gyfer PEDv; unwaith y mae’r clefyd yn bresennol mewn uned foch, nid oes fawr ddim y gellir ei wneud ar wahân i’w gyflwyno dan reolaeth i hychod beichiog (er mwyn iddynt gynhyrchu gwrthgorffyn mamol) a rheolaeth dda i atal diffyg hylif.

Y ffordd orau o ddileu PEDv yw ei gyfyngu i ffermydd a’i atal rhag ymledu ar draws y diwydiant. Mae’n rhaid canfod yr heintiad yn gynnar a’i ynysu.  Dilynwch y canllawiau hyn, os gwelwch yn dda, er mwyn helpu’r diwydiant i osgoi colledion trychinebus pe bai PEDv yn digwydd yng Nghymru/ ym Mhrydain.

Cynllun Wrth Gefn ar gyfer PEDv

Mae’r Cyngor Iechyd a Lles Moch wedi cyhoeddi cynllun wrth gefn i ddelio â PEDv. Mae hon yn ddogfen fyw a fydd yn esblygu a datblygu drwy’r amser. Nod y cynllun wrth gefn yw canfod, cyfyngu a dileu unrhyw fath newydd enbyd iawn o’r firws ym Mhrydain cyn gynted â phosibl.

I gael rhagor o wybodaeth am PEDv, y cynllun wrth gefn a’r camau bioddiogelwch, byddwch cystal â defnyddio’r dolenni a ganlyn:

http://www.bpex.org.uk/health-welfare/health/emerging-diseases/pedv/

http://www.npa-uk.org.uk/Pages/Biosecurity/PED%202013.html