Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Silwair ac Iechyd

Silwair ac Iechyd – gwella iechyd anifeiliaid, lles a phroffidioldeb

Mae silwair o ansawdd uchel yn fwy na dim ond faint o faetholion sydd ynddo ac ansawdd yr eplesiad, rhaid hefyd ystyried ansawdd yr hylendid.  Mae pob elfen yn bwysig er mwyn gwella iechyd, lles a phroffidioldeb anifeiliaid. Mae’r diagram yn dangos silwair o ansawdd uchel lle mae pob un o’r tair elfen wedi cael eu hystyried a lle cymerwyd camau i sicrhau bod y tair elfen yn cael eu rheoli. Mae’r ardal yng nghanol y diagram yn dangos y gwerth uchel.

Beth mae ansawdd yr hylendid yn ei olygu? Dyma gydrannau’r silwair sy’n gallu cael effaith ar iechyd anifeiliaid. Nid oes dim micro-organebau sy’n achosi clefydau na’u cynhyrchion terfynol gwenwynig i’w cael mewn silwair lle mae ansawdd yr hylendid yn dda. Mae microbioleg porthiant a silwair yn hynod o gymhleth. Mae llawer o ficro-organebau yn bresennol yn amgylchedd y fferm, yn y cae a’r iard; mae’r rhan fwyaf ohonynt yn annymunol, yn gallu llygru’r silwair ac yn aml yn gwneud hynny.

Ceir manylion yn y llyfryn ‘Silwair ac Iechyd’ am y micro-organebau sy’n gallu bodoli mewn silwair ac a all achosi clefydau mewn anifeiliaid. Mae’r llyfryn hefyd yn amlinellu arferion da i geisio rhwystro’r micro-organebau hyn rhag mynd i mewn i’r silwair.

Gall llwydni gael effaith yn uniongyrchol ar anifeiliaid drwy fod y sborau’n cael eu hanadlu gan achosi clefydau ysgyfaint os deuir i gysylltiad â nhw dros amser hir. Daw’r brif risg i iechyd da byw oddi wrth ffyngau a llwydni mewn porthiant drwy’r cynhyrchion terfynol eilaidd maent yn eu cynhyrchu, sef mycotocsinau. Maent yn niweidiol ar lefelau isel iawn, rhai mewn crynodiadau o hyd yn oed llai nag 1 rhan y filiwn (llai nag 1 mg/kg o ddeunydd sych). Mewn silwair gallant fodoli hyd yn oed pan nad oes llwydni i’w weld, i’r gwrthwyneb, pan mae llwydni yn bresennol nid yw o reidrwydd yn golygu y bydd mycotocsinau yn bresennol.

Gall mycotocsinau ffurfio naill ai yn y cnwd cyn cynhyrchu’r silwair neu yn y silwair ar ôl ei gynhyrchu. Mae’r mycotocsinau a gaiff eu ffurfio allan yn y cae yn gallu goroesi’r broses silweirio a gall y mycotocsinau hyn fodoli yn y silwair er nad oes llwydni amlwg i’w weld.

Os oes llwydni i’w weld, yna ceir bob amser risg o fycotocsinau sy’n cael eu ffurfio o’u storio, a gynhyrchir gan Benisiliwm neu Asbergilws. Mae ymhell dros 200 o wahanol fathau o fycotocsinau yn bresennol mewn natur, ac nid yw’r mwyafrif llethol ohonynt yn cael eu mesur yn rheolaidd. Maent yn cael eu cynhyrchu gan amrywiaeth eang o wahanol rywogaethau ffwngaidd ac o dan amodau amgylcheddol gwahanol.

Y mycotocsinau cyffredin a geir mewn silwair yw Zearalenone, Deoxynivalenol a’r tocsin T2 ac maent yn achosi amrywiaeth o broblemau megis gwaedu mewnol a phroblemau yn yr iau neu’r system nerfol. Y symptom cyntaf tebygol yw y bydd yr anifeiliaid yn bwyta llai a gallent fod â dolur rhydd a golwg swrth arnynt.

Os ydych chi’n amau bod y silwair a fwydir i’ch da byw wedi achosi problem iechyd, yna dylech roi’r gorau i borthi gyda’r silwair, ynysu’r anifeiliaid hynny rhag ofn y gallai’r haint ledaenu i stoc arall, a holi eich milfeddyg i weld beth ddylech chi ei wneud nesaf.