Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Canfod firws OPA mewn defaid

Astudiaeth beilot i asesu perfformiad prawf Adwaith Cadwynol Polymerasau (PCR) i ganfod Retrofirws Jaagsiekte mewn Defaid (JSRV) fel rhan o becyn diagnostig “mamogiaid tenau”.

Cefndir

Mae Adenocarsinoma’r Ysgyfaint mewn Defaid (OPA) yn ganser yr ysgyfaint heintus mewn defaid yn unig. Fe’i hachosir gan Retrofirws Jaagsiekte mewn Defaid (JSRV); nid oes modd ei drin ac unwaith y mae’r symptomau wedi datblygu mae’n angheuol. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, gellir disgwyl colli 20% o’r defaid mewn diadell lle mae achosion ohono. Mae OPA yn destun pryder cynyddol i’r diwydiant defaid yn y DG. Ar hyn o bryd nid oes modd cael diagnosis dibynadwy a chywir o arwyddion cyn-glinigol o OPA, ac mae’r angen am brawf yn cynyddu.

Datblygwyd prawf Adwaith Cadwynol Polymerasau (PCR) sydd yn canfod celloedd mewn gwaed defaid sydd wedi eu heintio gan JSRV, ond nid yw’n ddigon sensitif mewn perthynas ag anifeiliaid unigol. Wrth brofi nifer o ddefaid mewn diadell, mae modd defnyddio PCR y gwaed yn brawf ar gyfer y ddiadell gyfan, ond ni chafodd y sbesiffigedd na’r sensitifedd eu profi.

Nod

Nod y prosiect yw asesu a yw’r prawf JSRV PCR, o’i ddefnyddio ar is-set o anifeiliaid sydd yn ymddangos yn wael eu gwedd, sef un o symptomau cynnar OPA, yn brawf OPA effeithiol ar gyfer diadell. Mae’r ymchwil hefyd yn ceisio penderfynu ai samplau o waed amgantol ynteu secretiadau trwynol sydd orau.  Bydd y prosiect yn mireinio’r prawf PCR a ddefnyddir ar hyn o bryd dan amodau ymchwil, er mwyn ei drosglwyddo i labordy masnachol.

Pam mae’n bwysig?

Mae OPA yn destun pryder cynyddol i’r diwydiant defaid yn y DG. Mae adborth o ddigwyddiadau Sefydliad Ymchwil Moredun (MRI) yn Scotsheep, Northsheep, Sioe’r Royal Highland a Sioe Frenhinol Cymru wedi dangos bod angen gwybodaeth am OPA a bod angen datblygu dulliau o reoli’r clefyd. Bydd mynd i’r afael â’r angen hwn yn gymorth i wella iechyd a lles trwy gyfrwng cynllunio iechyd, gwella bioddiogelwch a deall y clefyd a sut i’w reoli yn well.

Pwy fydd yn ymgymryd â’r prosiect?

Arweinir yr ymchwil gan Sefydliad Ymchwil Moredun. Caiff y prosiect ei ariannu gan HCC, AHDB Beef and Lamb, BioBest Laboratories a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Ffrâm amser y prosiect

Dechrau: Hydref 2015

Hyd: 12 mis

Gorffen: Medi 2016