Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Pesgi Wyn yn y Gaeaf

Archwiliad i’r amrywiad mewn ansawdd cig oen o dair system pesgi yn y gaeaf

Nodau

Nod y prosiect hwn oedd darganfod a yw ansawdd cig oen yn amrywio yn ôl adeg y flwyddyn a’r porthiant a ddefnyddiwyd i besgi’r wyn.

Sut gwnaed y prosiect?

Rhannwyd 180 o wyn Texel x Miwl o un fferm ar gyfer tri phorthiant, a gwnaed yr astudiaeth yn ystod dau gyfnod pesgi i archwilio’r amrywiad yn ansawdd y cig yn ôl y diet a’r dyddiad lladd. Pesgwyd yr wyn mewn grwpiau o 30 naill ai ym mis Tachwedd 2007 neu fis Mawrth 2008. Cafodd yr wyn eu bwydo ar laswellt neu silwair glaswellt (gydag ychwanegiad cyfansawdd yn ôl yr angen), maip sofl neu fwydo’n rhydd â phorthiant cyfansawdd. Anfonwyd 16 o wyn gwedder o bob triniaeth i Brifysgol Bryste er mwyn asesu ansawdd a blas eu cig a chawsant eu cymharu ag wyn o ddau grwp rheoli, sef cig oen Prydeinig o wyn wedi’i bwydo ar laswellt yn unig (o’r un fferm) a laddwyd ym mis Tachwedd a chig oen Seland Newydd a fewnforiwyd ym mis Mai.

Pwy wnaeth y gwaith?

Gwnaed y gwaith gan ADAS a chafodd ei ariannu ar y cyd gan HCC, EBLEX Cyf, QMS a Defra.

Canlyniadau

Mae adroddiad llawn ar gael yma.