Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Clostridium Botulinum

Dangos oes-silff ddiogel cig ffres o ran Clostridium botulinum amhroteolytig

Ar hyn o bryd mae cig ffres yn nodedig am fod yn ddiogel ac mae canllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn argymell oes silff o hyd at 10 niwrnod i gig wedi’i bacio dan wactod ac mewn atmosffer addasedig ar dymheredd o 3°C neu ≤ 8°C. Nid yw Clostridium botulinum yn tyfu ar dymheredd o <3°C ac felly nid yw bwyd sy’n cael ei storio o dan y tymheredd hwn yn berthnasol i’r canllawiau hyn.

Yn y DG mae llawer iawn o gig yn cael ei bacio dan wactod ac ymddengys fod yr arferion cyfredol yn caniatáu ffin ddiogelwch fawr. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw estyniad i’r oes-silff hon ddangos graddau uchel o ddiogelwch mewn perthynas â botwliaeth sy’n cael ei drosglwyddo gan fwyd.

Nod yr astudiaeth hon oedd ystyried diogelwch oes-silff o 21-28 diwrnod ar dymheredd o 3-5°C, neu 10-15 niwrnod ar dymheredd o 8-10°C ar gyfer cigoedd coch ffres mewn perthynas â thwf, a ffurfiant tocsinau gan, C. botulinum.

Gwnaed y gwaith gan y Sefydliad Ymchwil Bwyd a chafodd ei ariannu gan EBLEX, BPEX a HCC.

Mae modd gweld yr adroddiad terfynol yma.