Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn falch o lansio ei ymgyrch Ysgoloriaeth flynyddol heddiw (09 Ebrill) ac yn gwahodd ceisiadau gan unigolion o fewn y diwydiant.

Mae'r ysgoloriaeth, sydd yn werth hyd at £4,000, yn gyfle i archwilio systemau amrywiol y byd o gynhyrchu neu brosesu cig coch.

Croesewir ceisiadau gan unigolion sy’n gweithio yn y sector cig coch yng Nghymru, sydd dros 18 oed, cyn y dyddiad cau, sef 28 Ebrill.

Mae ysgolorion blaenorol wedi cynnwys ffermwyr, cigyddion, proseswyr, academyddion a newydd-ddyfodiaid. Mae'r pynciau a astudiwyd wedi amrywio o wella cost cynhyrchu a dewis genetig ar gyfer pwysau cig oen i ddefnyddio cnydau porfa a systemau rhyngwladol ar gyfer graddio cig eidion.

Yn sgil yr Ysgoloriaeth, mae ymgeiswyr llwyddiannus wedi teithio cyn belled â Seland Newydd, Awstralia a De America.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Datblygu'r Diwydiant yn HCC, James Ruggeri:

“Mae Ysgoloriaeth HCC wedi bod yn rhedeg ers dros ugain mlynedd ac mae’n gyfle amhrisiadwy i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u profiadau o gynhyrchu a phrosesu cig coch. Rhaid i ymgeiswyr fod yn uchelgeisiol ac ymroddedig i’r sector, ac yn barod i rannu eu canfyddiadau ag eraill yma yng Nghymru fel y gall y diwydiant ehangach elwa o’u gwybodaeth newydd.”

Y llynedd, yr ysgolor llwyddiannus oedd William Powell o ‘r Groes, Llandrindod. Dewisodd ystyried enw da’r sector buchod sugno yn ystod ei ymweliad ag UDA. Wedi dychwelyd o’i daith, mae William wedi cyflwyno ei ganfyddiadau i nifer o grwpiau ffermio lleol, gan gynnwys clybiau ffermwyr ifanc, yr NFU a grwpiau tir glas. Dywedodd:

“Gwelais fod ffermwyr yn yr Unol Daleithiau yn addasu i ddefnyddio technolegau modern megis effeithlonrwydd porthiant, genomeg a phrofi allyriadau methan i greu gwartheg mwy effeithlon ac ecogyfeillgar. Maen nhw hefyd yn defnyddio’r technolegau modern i helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr amgylchedd ac yn lleihau eu hallyriadau eu hunain a’u dibyniaeth ar borthiant wedi’i brynu.

“Roedd yn brofiad gwych a dysgais lawer. Rwy’n ddiolchgar i HCC am y cyfle.”

Ychwanegodd James Ruggeri:

“Rydym yn ffodus dros ben fod gennym filoedd o bobl weithgar ac angerddol yn ein sector yma yng Nghymru. Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag awydd i ddatblygu eu busnes a helpu i hybu’r diwydiant yn y dyfodol, i wneud cais.”

Mae ysgolorion HCC yn dod yn aelodau o Gymdeithas Ysgoloriaeth HCC sydd ag aelodaeth unigryw o ffermwyr arobryn, academyddion o fri a phobl nodedig o fewn y diwydiant. Cadeirydd presennol y Gymdeithas Ysgoloriaeth yw’r ffermwr defaid a chig eidion William Evans o Fachynlleth

I wneud cais am yr Ysgoloriaeth, dylid llenwi'r ffurflen gais sydd ar wefan HCC, a bydd cyfweliad yn dilyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer. Bydd modd gwneud cais rhwng 9 Ebrill a 12pm ar 28 Ebrill 2025. Mae’r manylion llawn ar gael yma: https://meatpromotion.wales/en/explore-expert-resources/scholarship-and-careers-resources/hcc-scholarship/

You may also like

Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg