Mae prinder cyflenwad cig eidion gartref a thramor wedi peri cynnydd o bron i 40 y cant ym mhrisiau pwysau-marw gwartheg mewn dim ond naw mis - sy'n golygu y gallai’r pris gyrraedd dros £7 y kilo yn fuan iawn.
Mae prisiau cig eidion yn torri record bron bob wythnos wrth i'r cyflenwad brinhau, nid yn unig yn y DG, ond ledled Ewrop yn ogystal - gyda'r tueddiadau cyfredol yn awgrymu y gallai'r prisiau uchel barhau, yn ôl dadansoddiad sydd wedi'i gynnwys yn rhifyn diweddaraf Bwletin y Farchnad Hybu Cig Cymru (HCC.
“Mae prisiau pwysau-marw gwartheg dethol yng Nghymru a Lloegr wedi codi'n ddramatig ers diwedd 2024 ac maen nhw bellach yn £2 y kg yn uwch nag oedden nhw yn y cyfnod cyfatebol y llynedd,” ebe Glesni Phillips, Gweithredwr Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC. “Torrwyd record hanesyddol y pris cyfartalog am fustych ym mis Medi 2024 wrth iddo gyrraedd £5/kg, cyrhaeddodd £6/kg erbyn mis Chwefror 2025, ac, o ystyried y tueddiadau presennol, mae'n anelu at £7/kg erbyn diwedd y gwanwyn.
Mae prisiau cig eidion yr UE wedi dringo'n gyflymach yn ddiweddar nag yma, gan gau'r bwlch prisiau nodweddiadol i tua 94.8c/kg ar gyfer bustych ym mis Mawrth, a allai wneud allforion y DG yn fwy cystadleuol – er y bydd prisiau cynyddol yn Iwerddon yn debygol o olygu prisiau mewnforio uwch,” meddai Glesni.
Mae Bwletin y Farchnad yn adrodd bod cyfanswm y trwybwn gwartheg dethol yn y DG ar gyfer chwarter cyntaf 2025 yn 508,000, sef gostyngiad o dri y cant o’r naill flwyddyn i’r llall (neu 14,000 o anifeiliaid), gyda gostyngiadau ar draws pob categori (teirw ifanc -12 y cant; bustych - 4 y cant a heffrod -1 y cant) yn ôl data gan Defra. Mae’r trwybwn heffrod yn parhau i fod yn uwch o'i gymharu â lefelau hanesyddol ac mae bellach yn cynrychioli 43 y cant o gyfanswm trwybwn y gwartheg dethol (219,100 o anifeiliaid), sef 40 y cant yn fwy nag yn 2022.
“Mae lefelau trwybwn y gwartheg dethol ar hyn o bryd ar eu hisaf ers 2022. Roedd hyn i’w ddisgwyl gan fod ystadegau Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) yn dangos y byddai llai o wartheg ar gael ar gyfer cynhyrchu cig eidion yn yr hirdymor,” meddai Glesni
Ymddengys fod siopwyr yn dal i deimlo caledi er bod chwyddiant yn llacio wrth i gostau defnyddwyr a busnesau barhau i godi. “Mae arbenigwyr o ran y defnyddwyr, Kantar, yn adrodd bod holl gyfaint y cig eidion a werthwyd yn y siopau yn ystod y deuddeg wythnos hyd at 23 Mawrth 2025 yn sefydlog – i lawr 0.8 y cant yn unig – ond fe wnaeth cynnydd yn y pris cyfartalog o ryw bump y cant achosi cynnydd o bedwar y cant yng nghyfanswm y gwariant cyffredinol,” meddai Glesni.
Roedd allforion cig eidion ffres ac wedi ei rewi ym mis Ionawr a mis Chwefror, sef 16,100 tunnell, i lawr deg y cant o’r naill flwyddyn i’r llall – eto mae’n debyg oherwydd crebachu o dri y cant yn y cynhyrchiant domestig.
“Gan edrych ar 2024 yn ei gyfanrwydd, roedd yr allforion yn naw y cant yn uwch nag yn 2023, sef 112,500 tunnell, gyda 86 y cant yn mynd i wledydd yr UE. Iwerddon a dderbyniodd y gyfran fwyaf o’r allforion hyn yn 2024 ond mae’r cyfeintiau i lawr tua 13 y cant hyd yma yn 2025,” ebe Glesni.
“Cafwyd gostyngiad o 14 y cant i 37,400 tunnell, yn y mewnforion cig eidion ffres ac wedi ei rewi ym misoedd Ionawr a Chwefror 2025. Cafwyd cynnydd o 17 y cant yn y cyfeintiau o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE, yn enwedig o Awstralia (i fyny 144 y cant), Brasil (i fyny 36 y cant), a Seland Newydd (i fyny 18 y cant). Cynyddodd mewnforion wyth y cant i 240,700 tunnell, gydag Iwerddon yn cyflenwi 77 y cant er gwaethaf gostyngiad o 16 y cant yn y cyfaint,” meddai.
Mae Bwletin y Farchnad HCC ar gael yma: https://meatpromotion.wales/cy/market-intelligence/bwletin-y-farchnad/