Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae RamCompare, menter genedlaethol y DG ar gyfer profi epil defaid, yn chwilio am ffermydd masnachol newydd ledled Cymru a Lloegr i ymuno â’r prosiect y tymor hwn.

Mae angen ffermydd “cyfrannol” ar RamCompare i ddarparu tua 300 o famogiaid masnachol o deip brid unffurf i gael eu paru â hyrddod-magu cig sy’n cael eu darparu gan y prosiect drwy ddefnyddio un hwrdd, grwpiau paru-naturiol neu semenu artiffisial (AI).

Wedi’i ariannu ar y cyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), mae RamCompare yn casglu data perfformiad gwerthfawr am ŵyn masnachol i ysgogi gwelliannau genetig yn y diwydiant defaid.

Dywedodd Bridget Lloyd, cydlynydd prosiect RamCompare: “Mae hwn yn gyfle gwych i ffermydd cyfrannol elwa wrth ddefnyddio geneteg o’r radd flaenaf yn eu diadelloedd. Maen nhw’n cael y cyfle i ddefnyddio hyrddod â rhinweddau uchel o ran iechyd a geneteg, byddan nhw’n cael cymorth i feincnodi perfformiad eu diadell mewn cymhariaeth â ffermydd eraill yn y prosiect ac yn cael cyfle i ymgysylltu â grŵp bach o ffermwyr arloesol o’r un anian.”

Mae'r holl hyrddod a ddewisir i'w defnyddio yn perthyn i’r 20% o hyrddod-magu cig gorau sydd â chofnodion perfformiad. Drwy gydol y broses, bydd ffermydd yn casglu data manwl gan ddefnyddio dull adnabod electronig (EID) o enedigaeth hyd at ladd. Mae hyn yn sicrhau bod ŵyn yn cael eu magu fel un grŵp rheoli o fewn system pesgi-cyflym.

Er mwyn cael eu hystyried yn fferm gyfrannol, rhaid diwallu’r gofynion a ganlyn:

  • Darparu 300 o famogiaid masnachol
  • Defnyddio hyrddod-magu cig â chofnodion perfformiad a mynegai uchel sy’n cael eu darparu gan y prosiect
  • Rhaid i famogiaid gael eu paru ag un hwrdd
  •  Rhaid casglu data o’r ŵyn gan ddefnyddio EID o'u geni hyd at eu lladd
  • Bydd ŵyn yn cael eu magu fel un grŵp rheoli o fewn system pesgi-cyflym.

Gellir trefnu semenu artiffisial ar gyfer 90-120 o famogiaid fel rhan o’r prosiect. Bydd ffermydd cyfrannol yn cael cyllid i gefnogi casglu data.

Mae Alwyn Nutting wedi bod â fferm gyfrannol i RamCompare oddi ar 2021, gan gasglu data o’i ŵyn masnachol ar Fferm Glasgoed, Aberhafesb am y bedwaredd flwyddyn. Mae gan yr hyrddod a ddarperir gan y prosiect statws iechyd uchel ac mae ganddynt botensial genetig uchel gan eu bod ymhlith yr 20% uchaf o hyrddod-magu cig sydd â chofnodion perfformiad.

Esboniodd Alwyn: “Dechreuodd ein diddordeb mewn defnyddio stoc â chofnodion perfformiad pan ddewison ni darw ar sail ei ffigurau perfformiad rai blynyddoedd yn ôl ac yna roedden ni hefyd eisiau cael y gorau o’n diadell fasnachol. Mae RamCompare yn ein galluogi i ddefnyddio hyrddod â rhinweddau genetig uchel o fridiau gwahanol sydd â statws iechyd uchel ac sy’n cael eu dewis ar sail nodweddion penodol megis pwysau sganio a dyfnder cyhyrau, sy’n gweddu i’n system fasnachol. Mae potensial genetig yr hyrddod hyn yn golygu bod eu hepil yn cynhyrchu carcasau â gwerth uwch a bod llai o gostau cynhyrchu am fod cyfnod byrrach cyn eu lladd. Rwy’n mwynhau bod yn rhan o’r prosiect hwn ac rwy’n eich annog i gysylltu â HCC i gael gwybod mwy os hoffech chi gymryd rhan!”

Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC: “Mae nifer o ddiadelloedd pedigri a chofnodion perfformiad yng Nghymru wedi cyflwyno hyrddod i’r prosiect hwn dros y blynyddoedd er mwyn profi eu gwerth mewn prawf epil masnachol.

“I glywed mwy amdanyn nhw, y prosiect a gwelliant genetig mewn systemau da byw  cynaliadwy ar laswelltir, byddwn yn cynnal diwrnod agored ar fferm Glascoed ddydd Iau 4 Medi. Bydd hefyd yn gyfle i glywed am y buddion economaidd i fusnesau cig oen sy’n defnyddio’r hyrddod â’r cofnodion perfformiad gorau mewn system fasnachol. Cofiwch y dyddiad a chadwch lygad ar agor am fwy o wybodaeth yn hwyrach eleni.”

Os ydych yn bodloni’r meini prawf ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â Dr Heather McCalman yn HCC am ragor o wybodaeth ar hmccalman@hybucig.cymru neu ewch i ramcompare.com.

Mae enwebiadau ar gyfer ffermydd cyfrannol yn cau ddydd Gwener 16 Mai 2025.


You may also like

Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg