Nod y prosiect Defnydd Tir Sero Net (LUNZ) ‘Glaswelltir Sero Net’ yw cefnogi’r cynnydd tuag at y defnydd o laswelltir sero net a hyrwyddo systemau amaethyddol sy’n annog cynhyrchiant, a phridd ac ecosystemau amaethyddol iach.
Mae’n gobeithio profi manteision amgylcheddol a chymdeithasol ehangach systemau cig eidion a defaid sy’n seiliedig ar laswelltir ar draws y DU, gan arwain at arbedion sylweddol i’r diwydiant – a fydd yn deillio o ddulliau effeithiol, caredig i’r amgylchedd a rheolaeth glaswelltir.
Mae HCC yn bartner yn y gwaith cyffrous yma ac yn gyfrifol am glwstwr o ddeg o ffermydd cig eidion a defaid yng Nghymru sydd wedi cytuno i gasglu gwybodaeth i asesu cynaliadwyedd eu systemau. Cawsant eu recriwtio yn 2025 am eu diddordeb mewn rhedeg busnesau proffidiol law yn llaw â gofalu am yr amgylchedd, ac maent wedi bod yn ymarfer dulliau rheoli amaeth-ecolegol ers oleiaf pum mlynedd. Mae hyn yn cynnwys pori cylchdro, y defnydd o godlysiau, lleihau mewnbynnau a rheoli porfeydd aml-rywogaeth. Mae mwy o wybodaeth am y ffermydd sy’n cymryd rhan i’w weld isod.
Mae’r ffermydd o Gymru yn un o bedwar clwstwr o ffermydd masnachol ar draws y DU sy’n cyfrannu data i’r prosiect ac yn adrodd eu syniadau yn ôl. Mae hyn yn digwydd ochr yn ochr ag ymchwil gwyddonol ar draws nifer o brifysgolion sy’n archwilio dulliau newydd a’u heffeithiau.
Ariennir y prosiect ar y cyd gan UKRI, DEFRA (ar ran Cymru a Lloegr), DESNZ, ac mae wedi’i gynllunio ar y cyd gyda’r Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA), Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Cyfarfod â'r Ffermwyr
Fferm Rest , Henllan Amgoed, Sir Gaerfyrddin

Mae Fferm Rest yn cynnwys 164 hectar o dir isel lle mae Aled a’i frawd yn cadw 480 o wartheg. Caiff lloi croesfrid brodorol Henffordd ac Aberdeen Angus eu prynu o ffermydd godro lleol. Yna cânt eu cadw y tu allan am ran helaeth o’r flwyddyn ar system ffermio atgynhyrchiol a phroffidiol sydd â mewnbwn isel. Mae’r holl wartheg yn cael eu pesgi ar laswellt a phorfwyd pan fyddant rhwng 20 a 24 mis oed, ac yn cael eu gwerthu’n uniongyrchol i gigyddion a thai bwyta. Gwelwyd y cig eidion mewn bwytai adnabyddus fel ‘Wahaca’ a ‘Honest Burger’ yn Llundain a thai bwyta lleol yn siroedd Caerfyrddin a Phenfro.
Trwy ddefnyddio tir pori â chodlysiau aml-rywogaeth â gwreiddiau dwfn, bu modd gostwng y defnydd o wrtaith yn sylweddol. Mae pori cylchdro nid yn unig wedi gwella perfformiad y gwartheg ond hefyd wedi gwella iechyd y pridd a chynyddu’r deunydd organig. Mae Aled yn arwain y ffordd o ran arferion atgynhyrchiol. Cafodd ardystiad dros y bum mlynedd ddiwethaf, ac mae’n cael ei archwilio’n flynyddol gan y corff achredu ‘BASIS’ fel y gall cwsmeriaid fod yn sicr o’r safonau a gyflawnir gan y system, o iechyd y pridd i fudd amgylcheddol a manteision cymunedol.
Penygelli, Caernarfon

Mae Penygelli yn fferm laswellt 160 erw, sy’n cynnal 30 o wartheg sugno Limousin, 200 o famogiaid Dorset Moelion a 200 o famogiaid Texel. Mae Alwyn, sy’n dibynnu’n drwm ar ddata, yn cofnodi perfformiad y ddwy ddiadell ddefaid ac yn dewis yr eneteg orau ar gyfer ei system. Mae hefyd yn ‘tecno bori’ oddi ar 2015 pan oedd yn un o arloeswyr y system yn y DG. Mae rheoli tir glas a phridd wedi bod yn allweddol o ran lleihau’r cyfnod pesgi a dal carbon wrth wella twf y glaswellt. Trwy’r diddordeb mawr yn iechyd y pridd a rheoli tir glas, bu’r fferm yn ymwneud â sawl prosiect arloesol ar hyd y blynyddoedd – gan gynnwys GrasscheckGB a RamCompare.
Blaen-bwch, Llanfair-ym-Muallt
Mae’r fferm ucheldir 340ha hon yn codi i dros 380m uwch lefel y môr. Hefyd, mae ganddi hawliau tir comin ar Faes Milwrol Epynt ac Epynt Isaf. Mae’r teulu Powell yn cadw 1,300 o ddefaid Penfrith Epynt, 700 o ddefaid Mynydd Cymreig a 1,000 o ddefaid croesfrid Aberfield. Yn ogystal, mae yno 25 o heffrod ‘gwely a brecwast’ ynghyd â 54 o loi ar gyfer cig eidion Wagyu. Yn ogystal â’r tir glas, mae yna 40ha ar gyfer tyfu cnydau porfwyd ac erfin i fwydo’r anifeiliaid dros y gaeaf. Mae’r fferm yn tyfu meillion coch ers nifer o flynyddoedd er mwyn darparu porfwyd â phrotein uchel a bachu nitrogen ar yfer y cnydau. Yn fwy diweddar, mae Rob wedi cyflwyno tir glas aml-rywogaethol/llysieuol sydd â chyfranl dda o godlysiau.
Maesllwyni, Penegoes, Machynlleth

Mae Maesllwyni yn fferm ucheldir gymysg 175ha a gafodd ei rheoli’n organig gan Dafydd am 24 blynedd. Ynghyd â 500 o famogiaid Aberfield sy’n cael hyrddod AberBlack a Charolais, mae yno 60 o fuchod o groesiad Henffordd a Stabiliser. Caiff yr ŵyn eu geni o dan do ym mis Mawrth a gwerthir yr ŵyn wedi pesgi yn ôl pwysau marw o fis Mehefin tan fis Hydref. Bydd lloia’n digwydd yn yr awyr agored ym mis Ebrill a gwerthir gwartheg wedi pesgi rhwng 20 a 28 mis oed.
Trwy ganolbwyntio ar dyfu meillion coch a gwyn ar dir glas aml-rywogaeth i wella ffrwythlondeb y pridd a lleihau costau bwydo anifeiliaid, mae pori a gwneud silwair o ansawdd da yn allweddol i broffidioldeb y fenter. Rheolir y pori i gadw meillion yn y glaswellt trwy ddefnyddio pori padog a stocio sefydlog ar adegau allweddol o’r flwyddyn. Cafodd y tir, sy’n codi i 300m yn y man uchaf, ei reoli dan gynlluniau amaeth-amgylcheddol megis Glastir Uwch. Felly, yn ogystal â golygfeydd godidog, mae’r fferm yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd. Ar ben hyn, mae Dafydd wedi cwblhau archwiliadau ôl troed carbon ers saith mlynedd. Bydd hyn nawr, fel rhan o glwstwr Cig Eidion a Defaid Tir Glas LUNZ, yn cael ei integreiddio i asesiad cynaliadwyedd y Mesuriadau Ffermydd Byd-eang.
Pwll yr Hwyaid, Talybont-on-Usk

Mae fferm y teulu Morgan wrth droed Bannau Brycheiniog yn y Parc Cenedlaethol. Mae yno 700 o famogiaid – o deip y brid mynydd lleol Cymreig a chroesfrid – a 26 o fuchod croesfrid Limousin a’u lloi. Mae’r gwartheg a’r defaid yn pori mewn cylchdro pan fydd tyfiant y glaswellt yn ei anterth. . Gwerthir yr ŵyn yn lleol fel ŵyn wedi pesgi ac ŵyn stôr, a gwerthir y gwartheg yn stôr. Mae’r fferm wedi bod yn rhan o gynlluniau amaeth-amgylcheddol ers 25 mlynedd ac mae’n cynnwys 26ha o goetir, 500m o waliau cerrig, 13 km o wrychoedd a pherllan afalau sydd bellach yn cynnal busnes sudd afalau ffyniannus. Caiff y rhedyn sy’n tyfu ar y fferm ei ddefnyddio’n wasarn i’r da byw ac yna caiff ei gompostio i roi maetholion yn ôl i’r pridd.
Carreg-y-Big, Trallwng

Mae’r fferm ucheldir 90ha hon yn cynnal diadell o 250 o famogiaid Cymreig x Cheviot Gogledd Lloegr, ynghyd â buches fechan o fuchod Henffordd pedigri. Ers sawl blwyddyn, cafodd y tir ei reoli dan gynlluniau amgylcheddol megis Tir Gofal, Glastir, Glastir Uwch – a Chynefin Cymru erbyn hyn. Mae’n cynnwys 5ha o goetir, a phlannwyd 2000m o wrychoedd newydd. Tyfir amrywiaeth o gnydau porfwyd. Ymhlith y rhai a dyfwyd mae erfin, rêp, grawnfwydydd a llysiau. Gwneir y defnydd lleiaf posibl o fewnbynnau; ni defnyddir unrhyw ddwysfwydydd a chafodd y cyfraddau stocio eu cymhwyso yn unol â’r hyn y gall y fferm ei gynnal yn naturiol. Mae Ifan yn awyddus iawn i wella iechyd y pridd a chreu amodau aerobig fel y gall bioleg y pridd ffynnu.
Trefnant Hall, Aberriw, Y Trallwng
Ar y 280ha o dir uchel fferm Trefnant Hall, mae Marc yn cadw 745 o ddefaid magu a 600 o wartheg cig eidion llaeth. Mae’r pridd yn ysgafn a thywodlyd mewn mannau, ac am nad yw’r fferm yn cael llawer o law, mae Marc wedi datblygu system borfwyd sy’n cynnwys betys porthiant a thir glas llysieuol. Yn ogystal, mae yno fannau â choetir a phrysgwydd.
Erbyn hyn mae Marc yn defnyddio 80% yn llai o wrtaith nag oedd bum mlynedd yn ôl, cyflwynodd bori dwys ac mae ganddo 100ha o wndwn llysieuol/aml rywogaethol. Tyfir rhyg ar ôl y betys porthiant i wneud yn siŵr fod y pridd yn cael ei orchuddio.
Mae Marc wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect gyda HCC, gan gynnwys GrasscheckGB a’r prosiect cynllunio iechyd anifeiliaid ‘Stoc+’ gyda’i filfeddyg lleol. Yn fwy diweddar, mae Marc wedi ymuno â phrosiect Tir Glas LUNZ fel un o ffermwyr clwstwr cig eidion a defaid HCC .
Moelgolomen, Tal-y-bont, Aberystwyth

Mae Moelgolomen yn fferm ucheldir gymysg 301ha sy’n codi i 1500 troedfedd uwch lefel y môr. Arni, mae yna ddiadell o 600 o famogiaid mynydd Cymreig y cafodd ei pherfformiad ei chofnodi gan Signet am dros 30 mlynedd. Mae gwelliannau genetig wedi golygu gwell allbwn o’r un adnoddau, gyda sylw gofalus i reolaeth pori a phorfwyd.
Mae’r mamogiaid yn ŵyna ym misoedd Mawrth/ Ebrill ac mae’r holl ŵyn yn cael ei gwerthu’n dew naill ai i Dunbia a RPF neu mae cig yn cael ei werthu’n uniongyrchol mewn bocsys. Mae buches sugno o 30 o fuchod Duon Cymreig yn lloia ym misoedd Ebrill/Mai ac mae’r lloi yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid stôr yn 18 mis oed. Cafodd yr holl dir a da byw eu rheoli’n organig oddi ar 1999, a chawsant eu hardystio drwy QWFC. Mae’r fferm yn addas ar gyfer rheoli tir glas er budd yr amgylchedd a pherfformiad y da byw. Yn ddiweddar newidiwyd o stocio sefydlog i bori cylchdro, gyda chaeau’n cael eu hisrannu gan ffensys trydan a gwrychoedd. Hefyd, mae llai o lawer o aredig y tir er mwyn cadw’r pridd yn iach. Mae’r cynefinoedd a gafodd eu creu ar y daliad yn cynnwys sawl milltir o wrychoedd, gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Goedlannau, ac mae mwy yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn; pyllau a dolydd gwair. Yn ogystal, mae dros 26ha o goetir cymysg yn cael ei reoli ar gyfer pren a chynefin.
Moelogan Fawr, Llanrwst

Mae Sian a Llion Jones yn ffermio 304ha o dir uchel ym Moelogan Fawr, ger Llanrwst, sy’n codi i 1,500 troedfedd uwch lefel y môr. Mae’r fferm yn cynnal 850 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella a 145 o fuchod sugno Stabiliser, ynghyd â 48 o heffrod ychwanegol. Mae’r gwartheg a defaid ar system bori gylchdro sy’n seiliedig ar laswellt, ac mae’r fferm wedi bod yn rhan o GrasscheckGB, er mwyn helpu i fonitro tyfiant a pherfformiad y borfa.
Ym Moelogan Fawr rhoddir sylw arbennig i reolaeth mewnbwn-isel drwy wella iechyd y pridd, bioamrywiaeth a chadernid y busnes. Mae hyn yn cynnwys cael cyfnod gorffwys hirach rhwng pob cylchdro pori, defnyddio llai o wrtaith, a chael coed a gwrychoedd ar draws y dirwedd.
Mae’r teulu Jones yn dibynnu’n helaeth ar ddata ar gyfer bridio a rheoli’r da byw, gan gofnodi perfformiad wrth ddewis anifeiliaid caled ac effeithlon sy’n addas i dir uchel. Mae’r ddiadell yn wyna yn yr awyr agored ym mis Ebrill, ac mae’r system wartheg wedi’i chynllunio i wneud y gorau o dyfiant glaswellt, perfformiad anifeiliaid ac effeithlonrwydd yn gyffredinol. Mae teirw bridio a stoc amnewid hefyd yn cael eu gwerthu o’r fuches, gan adlewyrchu’r pwyslais ar eneteg a pherfformiad sy’n seiliedig ar borfa.
Penderyn, Aberdare

Sue Gay, ffermwr degfed genhedlaeth, sydd bellach yn rheoli’r daliad 507ha sy’n cynnwys mynydd wedi’i ffensio sy’n cael ei osod i borwyr. Mae’r uned yn cael ei rhedeg heb unrhyw wrteithiau artiffisial ac mae’n cael ei disgrifio fel fferm organig heb ei hardystio. Mae 90ha mewn SoDdGA, mae’r fferm wedi bod yn Glastir ac yna Glastir Uwch oddi ar 2011, ac mae nawr yng nghynllun Cynefin Cymru. Er bod y gyfradd stocio yn isel, mae effeithlonrwydd y ddiadell o 200 o ddefaid croesfrid Texel yn flaenoriaeth. Defnyddir hyrddod â chofnodion perfformiad i gael defaid â rhinweddau genetig uchel sy’n gallu ffynnu ar system sy’n seiliedig ar bori a phorfwyd. Mae rhoi sylw i iechyd y pridd, rheoli tir glas, a defnyddio data i wneud penderfyniadau yn allweddol i’r busnes.

