Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch: Darparu Gwerth i Gymru

Mae cynllun strategol HCC, Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch: Darparu Gwerth i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026, yn amlinellu blaenoriaethau’r corff ardoll hyd at 2030.

Mae tri maes ffocws wedi’u hamlinellu i gefnogi cenhadaeth HCC o arwain a chefnogi diwydiant cig coch Cymru i gynyddu ei bresenoldeb yn y farchnad, ei wydnwch economaidd a’i gystadleurwydd byd-eang wrth ymdrechu i gael effaith amgylcheddol gadarnhaol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad yn 2025 oedd yn cynnwys nifer o drafodaethau gyda’r diwydiant. I ddatblygu’r strategaeth, casglwyd barn ac adborth drwy gydol 2025 yn cynnwys trafodaethau niferus gyda rhanddeiliaid ar draws y gadwyn gyflenwi cig coch, holiadur i ffermwyr a ‘Galwad am Farn y Diwydiant’.

Bu staff HCC hefyd mewn marchnadoedd da byw dros Gymru a digwyddiadau amaethyddol i gasglu barn yn uniongyrchol gan dalwyr ardoll.

Mae’r ymgysylltiad dros y misoedd diweddar wedi ceisio annog cyfraniadau o bob rhan o’r diwydiant.

Gallwch ddarllen y ddogfen Gweledigaeth lawn drwy glicio yma: Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch_Darparu Gwerth i Gymru_Mawrth 2026

Catherine Smith, Chair at Hybu Cig Cymru, looking at camera and smiling

“Gweledigaeth HCC yw diwydiant cig coch cystadleuol, proffidiol, effeithlon a chynaliadwy yng Nghymru sy’n cofleidio ei gyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd y Weledigaeth yn gweithredu fel glasbrint i HCC gefnogi ac uno pob elfen o’n sector a’n cadwyn gyflenwi – o ffermwyr i arwerthwyr, proseswyr a’r sector bwyd ehangach – er mwyn sicrhau llwyddiant a thwf yn y dyfodol i’n diwydiant.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wella enw da a chystadleurwydd y sector, tra hefyd yn cyflawni ar gyfer talwyr yr ardoll, defnyddwyr a chymdeithas ehangach Cymru.”

Cadeirydd HCC, Catherine Smith

“Byddwn yn mabwysiadu dull cydweithredol, a fydd yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid ar draws y diwydiant sy’n cael eu gyrru gan bwrpas cyffredin. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gweithredu’n effeithlon ac yn effeithiol ac yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau ystyrlon.”

Prif Weithredwr HCC, José Peralta