Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol sector cig coch Cymru.
Gosodir pwrpas a blaenoriaethau strategol HCC, sydd wedi’u tanategu gan Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010, yn y ddogfen ‘gweledigaeth’. Mae hon yn ddogfen bwysig sy’n gosod y sylfaen i adeiladu ar ddyfodol y diwydiant ac mae’n lasbrint i HCC i gefnogi ac uno pob elfen o’r sector a’r gadwyn gyflenwi.
Yn ystod 2025 mae HCC wedi bod yn casglu barn ar ddyfodol y diwydiant cig coch yng Nghymru. Bydd hyn yn cynorthwyo datblygiad Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch i Gymru, 2026-30.
Mae’r weledigaeth gyfredol a ddatblygwyd gyda’r diwydiant, ‘Gweledigaeth Cig Coch i Gymru’, yn para tan ddiwedd y Senedd hon.
Ers dechrau 2025 mae HCC wedi cynnal nifer o drafodaethau gyda’r diwydiant, wedi creu holiadur i ffermwyr a gwahodd rhanddeiliaid i rannu eu barn yn swyddogol.
Mae’r pwyntiau allweddol i’r ymgysylltiad hwn yn ymwneud â themâu penodol a nodwyd pan fu ymgysylltu â’r diwydiant. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Thema 1: Niferoedd y da byw
- Thema 2: Terfyn prosesu
- Thema 3: Masnach
- Thema 4: Defnydd
- Thema 5: Ymchwil amgylcheddol
- Thema 6: Proffidioldeb ffermydd
- Thema 7: Eiriolaeth ac amddiffyn y diwydiant.
Am fwy o wybodaeth am y broses yma, cysylltwch â HCC ar Vision2030@hybucig.cymru.
Cyhoeddir Gweledigaeth 2030 erbyn gwanwyn 2026 yn dilyn cytundeb gan Fwrdd HCC a chymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

