Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Ymwrthedd Gwrthlyngyrol

Mae rheoli parasitiaid mewnol yn hanfodol mewn unrhyw system da byw

Gall llawer o barasitiaid mewnol leihau cynnydd pwysau byw, cynyddu nifer y marwolaethau, lleihau cynhyrchedd yn gyffredinol a gwneud y busnes yn llai effeithlon.

Mae’r dulliau rheoli yn cynnwys rheoli’r pori, brechu, dulliau geneteg a thriniaethau cemegol gan gynnwys moddion lladd llyngyr. Mae moddion lladd llyngyr wedi bod yn ffordd effeithiol o reoli llyngyr a ffliwc am flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil wedi dangos fod ymwrthedd i’r moddion ar gynnydd a’i fod yn fygythiad gwirioneddol i ddyfodol rheoli llyngyr mewnol ac i’r diwydiant da byw yn gyffredinol.

Mae ymwrthedd yn golygu fod y parasit wedi datblygu’r gallu i oroesi dôs o foddion gwrthlyngyrol a fyddai fel arfer yn effeithiol. Isod, mae pum ffactor sy’n cael effaith ar gyflymder datblygu ymwrthedd:

  1. Cyfran y llyngyr ymwrthol ar y fferm
  2. Amlder defnyddio moddion gwrthlyngyrol
  3. Effeithiolrwydd pob triniaeth
  4. Y gyfran o’r boblogaeth lyngyr gyfan sydd yn yr anifail
  5. Y cymysgedd o lyngyr ymwrthol sydd yn goroesi triniaeth a llyngyr ymatebol

Ar hyn o bryd mae yna 5 grŵp o foddion i reoli llyngyr: 1-BZ (gwyn), 2-LV (melyn), 3-ML (clir), 4-AD (oren) a 5-SI (porffor). Ceir ymwrthedd eang yng ngrŵp 1-BZ a chafwyd cynnydd sylweddol yn ddiweddar yng ngrwpiau 2-LV a 3-ML.

Nid yw’n rhy hwyr i arafu datblygiad ymwrthedd os cyflwynir y strategaeth gywir nawr!

Mae SCOPS (Rheolaeth Gynaliadwy o Barasitiaid Mewn Defaid), grŵp a arweinir gan y diwydiant, yn cydnabod taw ymwrthedd gwrthlyngyrol, oni chaiff ei atal, yw un o’r bygythiadau mwyaf i iechyd a phroffidioldeb diwydiant defaid y DG yn y dyfodol. Mae canllawiau SCOPS yn gymorth hanfodol i reoli parasitiaid yn llwyddiannus a chynaliadwy mewn unrhyw system ddefaid.

Mae COWS (Rheoli Llyngyr yn Gynaliadwy) yn grŵp sy’n anelu at hyrwyddo arferion gorau wrth reoli parasitiaid mewn gwartheg. Mae gan y grŵp y canllawiau ar sut i reoli ffliwc a llyngyr mewn gwartheg trwy ddulliau cynaliadwy, gan ddysgu oddi wrth yr ymwrthedd cynyddol mewn drenshis defaid.

Yn 2014 comisiynodd HCC y prosiect WAARD (Cymru’n Ymladd Ymwrthedd Gwrthlyngyrol). Bu’r prosiect yn rhedeg o fis Medi 2014 tan fis Gorffennaf 2015. Cafodd ei ariannu drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, a bu’n edrych ar 47 o ffermydd yng Nghymru ac ar effeithiolrwydd pedwar math o wrthlyngyrydd: Bensimidasol (1-BZ); Lefamisol (2-LV); Ifermectin (3-ML) a Mocsidectin (3-ML).

Datgelodd:

  • Dim ond ar un fferm yr oedd yr holl gyffuriau’n dal i fod yn gwbl effeithiol;
  • Ar 94% o’r ffermydd mae tystiolaeth o ymwrthedd i Bensimidasol;
  • Ar 68% o’r ffermydd mae tystiolaeth o ymwrthedd i Lefamisol;
  • Ar 51% o’r ffermydd mae tystiolaeth o ymwrthedd i Ifermectin;
  • Ar 19% o ffermydd mae tystiolaeth o ymwrthedd i Mocsidectin.

Mae’n ddiddorol nodi fod yr unig fferm lle’r oedd yr holl gyffuriau’n dal i fod yn effeithiol wedi bod yn dilyn canllawiau SCOPS am rai blynyddoedd.

Download Resources

WAARD Project - Final Report (September 2015)
PDF Document
Know Your Anthelmintics Group Guide
PDF Document