Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Gwasarn Amgen i Anifeiliaid

Cynhaliwyd y Prosiect Naddion Pren ar gyfer Gwasarn Da Byw o fis Rhagfyr 2005 tan fis Mai 2008 er mwyn gwerthuso potensial naddion pren yn lle gwellt yn wasarn dan do i ddefaid a gwartheg cig eidion.

Ar hyn o bryd, gwellt yw’r gwasarn mwyaf poblogaidd a ddefnyddir yng Nghymru ond amcangyfrifir bod y gost i ddiwydiant yn £12.5 miliwn y flwyddyn. Gan y bod disgwyl y gallai gwellt fynd yn ddrutach, mae ffermwyr yn chwilio am wasarn amgen yn lle gwellt a chan fod pren yn adnodd lleol yng Nghymru, mae naddion pren yn dod yn fwy poblogaidd. Fodd bynnag, mae angen arweiniad clir ar ffermwyr a gwybodaeth glir am addasrwydd naddion pren fel gwasarn a’i effaith ar iechyd lles a pherfformiad anifeiliaid yn ogystal â’r gost o’i ddefnyddio. Roedd angen gwybodaeth hefyd am le y gellir cael deunydd addas ynghyd â dealltwriaeth am y defnydd posibl y gellir gwneud ohono ar ôl cael ei ddefnyddio fel gwasarn.

Roedd y prosiect yn cynnwys nifer o astudiaethau ac arddangosiadau i fynd i’r afael â’r testunau canlynol:

Caffael a chynhyrchu naddion pren

  • Ffynonellau naddion pren
  • Math o beiriannau naddu pren
  • Rhywogaeth pren
  • Cynnwys lleithder a’r technegau sychu gorau
  • Maint a ffurf y naddion pren

Systemau rheoli

  • Y math o adeilad
  • Man bwydo – crafu i lanhau neu fwydo’r peiriant naddion pren
  • Amlder y gwasarn
  • Trwch y gwasarn
  • Effaith ar ddiet anifeiliaid
  • Gofynion llafur

Iechyd a lles anifeiliaid

  • Materion iechyd e.e. cloffder a llid yr ysgyfaint
  • Glendid anifeiliaid
  • Perfformiad – o ran pwysau a chymeriant bwyd
  • Lles – yr amser a dreulir yn gorwedd ar y gwasarn

Rheoli naddion pren ar ôl iddynt gael eu defnyddio fel gwasarn

  • Compostio gwasarn naddion pren
  • Dewisiadau i ddefnyddio’r deunydd a gompostiwyd

Effeithlonrwydd cost

  • A yw’n gost-effeithiol defnyddio naddion pren yn wasarn?
  • A oes marchnad ar gyfer naddion pren wedi’u compostio?

Dilynwch y linc isod i ddarllen yr adroddiad llawn.

Lawrlwythwch Adnoddau

Prosiect Naddion Pren ar gyfer Gwasarn Da Byw
PDF Document
Alternative bedding materials for beef and sheep housing systems in Wales
PDF Document