Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Clefyd y Crafu

Canlyniadau Cynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu

Nod

Cychwynnwyd Cynllun Cenedlaethol Clefyd y Crafu (NSP) yn 2001 gyda’r nod o gael gwared ar Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSEs) o’r ddiadell ddefaid genedlaethol. Mae ymatebolrwydd i clefyd y crafu clasurol yn dibynnu ar amrywiant ar y genyn PrP (protein prion) a bu’r Cynllun Genoteipio Hyrddod  (elfen hanfodol o’r NSP) yn genoteipio hyrddod bridio ar gyfer y genyn hwn.

Pam mae’n bwysig?

Mae alelau’r genyn PrP yn ddangosyddion  o ymatebolrwydd i glefyd y crafu. Mewn defaid, yn aml bydd anifeiliaid yn cario amrywiolyn penodol o’r protein PrP sy’n wahanol i’r amrywiolion PrP mewn anifeiliaid sy’n ymwrthol i glefyd y crafu. Roedd yna bryder ymhlith bridwyr  defaid y gallai hoelio’r holl sylw ar y genyn PrP er mwyn dileu TSEs gael effaith andwyol ar nodweddion masnachol-bwysig a golygu bod nodweddion annymunol yn cael eu dewis yn anfwriadol.

Sut gwnaed y prosiect?

Defnyddiodd y prosiect y data cyfredol ynglyn â genoteipio a pherfformiad o grwpiau bridio ynghyd â data ychwanegol am nodweddion yn berthynol i iechyd a gasglwyd o ffermydd a grwpiau bridiau dethol. Hefyd, defnyddiwyd data o ddiadelloedd arbrofol oherwydd yr holl fanylion yn eu cofnodion. Yna cafodd y data hwn ei gysylltu â data o’r NSP.

Pwy wnaeth y gwaith?

Gwnaed y gwaith gan Goleg Amaethyddol yr Alban, Sefydliad Roslin, yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol, Prifysgol Caeredin, Ymddiriedolaeth y Bridiau Prin, yr Ymddiriedolaeth Ddefaid, CBS, y Sefydliad Astudiaethau Gwledig a Signet.

Ariannwyd y prosiect gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig gyda chyfraniadau mewn da gan HCC, EBLEX a QMS.

Canlyniadau’r prosiect

Mae’r canlynol yn grynodeb o ganlyniadau’r prosiect. Mae adroddiad manwl ar gael yma.

Crynodeb o gysylltiadau genoteip PrP â nodweddion eraill sy’n bwysig yn economaidd

  • Wrth ddadansoddi setiau data arbrofol a masnachol mawr, ni ddatgelwyd cysylltiadau sylweddol a chyson o’r genoteip PrP ag amrediad eang o nodweddion perfformiad.
  • Wrth ddadansoddi diadelloedd o ddefaid wynebddu’r Alban, cafwyd tystiolaeth fod yr alel ARQ yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o oroesi ôl-enedigol na’r alelau ARR neu AHQ sy’n fwy ymwrthol.
  • Gallai’r canlyniadau hyn fod yn bwysig i’r diwydiant ond ni chawsant eu hailadrodd mewn unrhyw un o’r setiau data masnachol.
  • Ni fyddai dewis wedi’i anelu at ddileu’r alele VRQ yn cael fawr o effaith ar berfformiad a goroesedd ar lefel y sector.

Crynodeb o effaith dewis PrP ar gyfraddau mewnfridio a chynnydd genetig mewn perfformiad ac ar y risg o glefyd y crafu yn digwydd mewn bridau prif-ffrwd

Mae dewis rhag VRQ

  • yn cael ond yr effaith leiaf ar gynnydd genetig o ran perfformiad a mewnfridio
  • yn annigonol i ddileu’r risg o glefyd y crafu. Mae’r risg yn dal i fodoli ar ôl 15 mlynedd o ddewis ond byddai unrhyw epidemig yn fach pe bai’r clefyd yn digwydd

Mae strategaethau mwy eithafol o blaid ARR neu yn erbyn ARQ

  • yn arwain at ostyngiadau yng nghyfraddau cynnydd genetig, yn bennaf yn ystod pum mlynedd cyntaf y dewis.  Mae’r gostyngiadau hyn yn fawr ond os yw’r fARR yn gymharol isel
  • yn arwain at gyfraddau is o fewnfridio
  • yn lleihau’r risg o glefyd y crafu yn sylweddol. Mae’r risg yn fach pan fo fARR > 0.7

Crynodeb o effaith dewis  PrP ar gyfraddau mewnfridio ac ar y risg o glefyd y crafu yn digwydd mewn bridiau prin

Mae dewis rhag VRQ

  • yn arwain at gynnydd bach yn y gyfradd fewnfridio os yw’r fVRQ cychwynnol yn uchel (≥ 0.30)
  • yn annigonol i ddileu’r risg o glefyd y crafu

Mae dewis o blaid ARR

  • yn arwain at gynnydd mawr yn y gyfradd fewnfridio os yw fARR yn isel (≤0.30)
  • yn lleihau’r risg o glefyd y crafu yn sylweddol. Mae’r risg yn fach pan fo fARR yn cyrraedd 0.7 ond yn cymryd yn hirach i gyrraedd hynny nag yn y bridiau prif-ffrwd (e.e. gall na fydd fARR 0.7 yn gyraeddadwy o fewn 15 mlynedd os yw’r fARR cychwynnol yn isel; e.e., 0.05)