Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Canfod cyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar werth a lleihau gwastraff wrth brosesu cig coch yng Nghymru

Mae adroddiad newydd a ysgrifennwyd gan HCC ar ran WRAP Cymru wedi canfod nifer o ffyrdd y gallai’r sector prosesu cig coch yng Nghymru leihau gwastraff a chynyddu effeithlonrwydd.

Ariannwyd yr adroddiad ‘Canfod cyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar werth a lleihau gwastraff wrth brosesu cig coch yng Nghymru’ gan WRAP Cymru ac fe’i ysgrifennwyd gan Dr Eleri Price, David Marks a Paul Bache. Mae’n cydnabod y gwaith arloesol yn y diwydiant sydd eisoes yn lleihau gwastraff bwyd yn ogystal â thynnu sylw at ddatblygiadau posibl eraill yn y dyfodol.

Roedd sampl o bedwar lladd-dy yn rhan o’r prosiect allan o’r 19 lladd-dy sy’n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd y pedwar lladd-dy hwnnw yn fusnesau bach a chanolig gyda’r mwyafrif yn fusnesau teuluol. Arolygwyd ac aseswyd eu prosesau a’u gweithdrefnau i weld beth arall y gellid ei wneud yn y diwydiant i gynyddu proffidioldeb busnesau a lleihau gwastraff – gan wella ôl-troed amgylcheddol y diwydiant.

Mae’r prif argymhellion yn yr adroddiad ar wella effeithlonrwydd a lleihau gwastraff yn cynnwys: adolygiadau parhaus o wariant busnes i reoli costau; archwilio’r potensial o fusnesau ar y cyd i leihau costau prosesu a gwaredu gwastraff; archwilio ffyrdd i ychwanegu gwerth at gynnyrch bwyd neu gynnyrch gwastraff (fel bwyd anifeiliaid anwes neu gynhyrchu egni) a chynnig hyfforddiant i ffermwyr da byw a staff lladd-dai er mwyn lleihau gwastraff ar leoliad.