Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Lleihau Gwastraff

Cefndir

Prif nod y prosiect ymchwil hwn, a barhaodd am ddwy flynedd, oedd dangos sut gall gwell dealltwriaeth o’r newidiadau ocsidiol sy’n digwydd yng nghyhyrau cig eidion a chig oen rhwng cynhyrchu a manwerthu arwain at oes silff hirach a gwastraffu llai o fwyd. Hefyd, gwnaed ymchwil i ddefnyddio llai o blastig ar gyfer pacio cig. O ran gwerth, cig yw’r bwyd sy’n cael ei wastraffu fwyaf ym Mhrydain ac mae’r ffordd fwyaf cyffredin o bacio – sef pacio mewn atmosffer addasedig – yn defnyddio cryn lawer o blastig. Rhoddodd y prosiect well syniad o gost ariannol a charbon y cig sy’n cael ei wastraffu wrth iddo gael ei brosesu, ei ddosbarthu a’i fanwerthu.

Amcanion

Darganfod faint o wastraffu sy’n digwydd yn ystod y gwahanol gamau yng nghadwyni cyflenwi nodweddiadol cig eidion a chig oen – o’r pacio i’r pwynt talu mewn siopau manwerth. Amcangyfrif y costau ariannol a charbon.

Darganfod y cyfeintiau gorau o nwy a chig ar gyfer pecynnau atmosffer addasedig o ran lliw, oes silff, ocsidiad lipid a phrotein ac ymchwilio i’r defnydd o gymysgeddau nwy â llai o ocsigen. Hefyd, cyfrifo’r canlyniadau ar gyfer lleihau costau carbon mewn toriadau o gig eidion a chig oen.

Ystyried ffyrdd newydd o bacio toriadau cig eidion a chig oen, yn lle defnyddio pacio atmosffer addasedig. Cyferbynnu pacio mewn atmosffer addasedig â systemau pacio croen-gwactod (VSP) a VSP-Bloom o ran lliw, ocsidiad lipid a gwydnwch. Cyfrifo’r costau a’r arbedion.

Darganfod effeithiau newidynnau prosesu megis pH/tymheredd cyhyrau ac amser aeddfedu ar liw, ac ocsidiad lipid a phrotein. Pennu swyddogaeth fitamin E mewn cyhyrau dan amgylchiadau o’r fath a darparu mecanwaith ar gyfer gwydnwch anwythol uchel ag ocsigen/llai o freuder.
Ymchwilio i effeithiau fitamin E dietegol a seleniwm ar nodweddion oes silff cig oen, gan gynnwys lliw ocsidiad lipid ac ocsidiad protein.

Y Manteision a Ddisgwylid

Prif nod yr ymchwil oedd datblygu cyfres gynhwysfawr o ganllawiau ar gyfer diwydiant cig coch i’w alluogi i leihau gwastraff yn y gadwyn ddosbarthu fanwerth a’r canlyniadau i’r amgylchedd. Cafodd y canlyniadau eu cynnwys yn y cyngor a roddir i broseswyr a mân-werthwyr.

 

Pwy oedd yn ariannu’r prosiect?

Cafodd y prosiect ei ariannu gan DEFRA, HCC, EBLEX Cyf, QMS, ASDA, ABP Doncaster a Sealed Air Cyf.

Cyfnod y Prosiect

Dechreuodd y prosiect ym mis Ebrill 2009 a daeth i ben ym mis Medi 2011.

Adroddiad

I weld yr adroddiad terfynol, cliciwch yma