Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Padiau Naddion Prenslu

Cynllunio a rheoli padiau naddion pren yn well ar gyfer cadw da byw yn yr awyr agored dros y gaeaf trwy ddulliau cynaliadwy

Nod y prosiect oedd darganfod a yw padiau naddion pren yn golygu gallu cadw gwartheg yn rhatach dros y gaeaf, gyda llai o risg o lygru’r awyr a dwr ac er mantais i iechyd a lles yr anifeiliaid.

Er y cafwyd rhai canllawiau ar gynllunio, adeiladu a rheoli padiau naddion pren, roedd llawer o badiau naddion pren wedi eu gosod heb ddylunio na chynllunio digonol, ac roedd hyn yn dal i ddigwydd.

Roedd ymchwil diweddar wedi dangos bod risg annerbyniol o lygredd i ddwr daear yn gysylltiedig â llociau naddion pren heb eu leinio a bod angen asesiad trylwyr ar frys ynglyn â chostau gwell cynllunio ac adeiladu.

Roedd canlyniadau adeiladu a rheoli padiau’n wael yn cynnwys nid yn unig risg difrifol o halogi dwr daear â maetholion a phathogenau ond hefyd o fethiant llwyr y pad, gydag effeithiau andwyol ar iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal ag ar incwm y fferm.

Ar y llaw arall, roedd yn ymddangos yn debygol y gall padiau naddion pren wneud cyfraniad sylweddol tuag at ostegu allyriadau amonia o’r sectorau llaeth a chig eidion a chwtogi ar faint o lygryddion sy’n llifo o ffermydd.

Fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw fesuriadau trylwyr o allyriadau nwyol o’r blaen, ac ychydig iawn o ddata oedd ar gael ynglyn ag ansawdd elifion.  Cafodd opsiynau dylunio manwl eu hadolygu a’u prisio.

Cafodd allyriadau nwyol a chyfaint ac ansawdd elifion eu monitro a chafodd pwysigrwydd ystod o ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad yr anifeiliaid a’r padiau eu gwerthuso gyda goblygiadau ar gyfer canllawiau ynglyn â rheoli padiau naddion pren. Cafodd effaith rheoli padiau ar lendid a lles anifeiliaid ei asesu hefyd.

Amcanion y prosiect oedd:

  1. Adolygu ymchwil diweddar i badiau naddion pren, gan roi ystyriaeth benodol i reoli elifion ac i allyriadau; byddai’r casgliadau’n dylanwadu ar fanylion terfynol astudiaethau yr ymgymerir â nhw fel rhan o’r prosiect hwn;
  2. Dadansoddi’r costau sy’n gysylltiedig ag ystod o ddewisiadau ynglyn ag adeiladu a rheoli padiau;
  3. Astudio llifoedd maetholion trwy ddraenio elifion ac allyriadau Nitrogen nwyol, dan amrywiaeth o ddulliau rheoli ac amrywiaeth o amodau amgylcheddol;
  4. Gwerthuso effaith amrywiaeth o ffactorau ar berfformiad padiau ac ansawdd elifion gan gynnwys maint y naddion pren, draeniad y pad a’r gyfradd stocio;
  5. Astudio effaith rheoli ar berfformiad anifeiliaid a phadiau, gan gynnwys agweddau ar les a glendid anifeiliaid a’r angen i ychwanegu rhagor o naddion pren.
  6. Adolygu’r canllawiau arferion gorau ar adeiladu a rheoli padiau naddion pren;
  7. Hyrwyddo’r prif gasgliadau ac argymhellion i’r diwydiannau cig eidion a llaeth trwy gyfrwng digwyddiadau hyrwyddo, deunydd darllen a thrwy bartneriaid yn y diwydiant.

Y Manteision a Ddisgwylid:

Disgwylid y byddai manteision yn deillio o ganlyniadau’r prosiect i gynhyrchwr llaeth a chig eidion, i’r diwydiannau coetir a phren ac i’r amgylchedd.  Ymhlith y prif fanteision byddai:

  1. Arweiniad clir ar gynllunio ac adeiladu padiau naddion pren mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy, a’r costau cysylltiedig;
  2. Gwybodaeth am lifoedd maetholion mewn systemau padiau naddion pren ac argymhellion ar gyfer rheoli elifion (er mantais i faetholion ac i ddiwallu gofynion croesgydymffurfio) a naddion wedi’u defnyddio;
  3. Cael gwared â’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â buddsoddi mewn padiau naddion pren mewn perthynas ag ystyriaethau economaidd a rheoliadau amgylcheddol;
  4. Gwybodaeth i ymchwilwyr ac ymgynghorwyr polisi ynglyn â gallu padiau naddion pren i leddfu allyriadau nwyol fel opsiwn ar gyfer gaeafu gwartheg;
  5. Gwell dealltwriaeth o ofynion rheoli padiau naddion pren ac atal y padiau rhag methu;
  6. Gwell cysylltiadau rhwng y diwydiannau coetir a phren, ffermwyr a chontractwyr.

Pwy fu’n gwneud y gwaith?

Gwnaed y gwaith gan ADAS gyda mewnbwn gan North Wyke Research. Cafodd y prosiect  ei ariannu ar y cyd gan nifer o sefydliadau gan gynnwys Defra, HCC, EBLEX Cyf a DairyCo.

I weld adolygiad technegol o badiau naddion pren, cliciwch yma

I weld y llyfryn Cynllunio a rheoli padiau naddion pren yn well ar gyfer gaeafu da byw yn yr awyr agored trwy ddulliau cynaliadwy, cliciwch yma