Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Bridio Porfwyd

Bridio glaswelltau a chodlysiau ar gyfer porfwyd er mwyn gwneud amaethyddiaeth tir glas yn y DG yn fwy cynaliadwy

 

Cefndir

Mae’r sector da byw yn y DG yn wynebu heriau sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i gynnal ffermydd sy’n gystadleuol ac yn hyfyw yn economaidd ynghyd â gwneud llai o niwed i’r amgylchedd. Gyda golwg ar yr amgylchedd, mae angen gwella ansawdd y dwr yn nyfrffyrdd y DG ac ymateb i her newid yn yr hinsawdd trwy liniaru ac addasu.  Mae gwelliant genetig i gnydau porfwyd wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ffermio da byw yn y DG dros y pedwar ugain mlynedd diwethaf. Bydd y gwaith hwn yn golygu y bydd amrywogaethau newydd o’r cnydau hyn yn cyfrannu at flaenoriaethau newydd ffermwyr tir glas yn y DG. Cafodd y prosiect hwn ei leoli yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, sef canolfan flaengar yn fyd-eang ar gyfer bridio glaswelltau a meillion ar gyfer porfwyd.

Amcanion

Bydd y gwaith hwn yn datblygu amrywogaethau newydd o’r prif rywogaethau o laswelltau yn y DG: rhygwellt lluosflwydd, rhygwellt yr Eidal, meillion gwyn a choch. Wrth wneud hyn, bydd yn datblygu rhaglen unigryw o ran defnyddio dulliau genetig o’r radd flaenaf, â chymorth gwybodaeth enomig, i wella rhywogaethau o borfwyd lluosflwydd, gan leihau’r ôl-troed amgylcheddol ynghyd â gwella cynhyrchedd a pherfformiad yr anifail.

Yng nghyd-destun cyfrannu at gynnal ffermydd llaeth, defaid a chig eidion sy’n hyfyw yn economaidd, bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu rhywogaethau newydd a fydd yn cyfrannu at:

  • Colli llai o nitrogen oherwydd trwytholchiad i ddyfrffyrdd (o’r pridd a’r seilo) ac fel canlyniad i drawsnewidiad aneffeithiol y protein planhigol yn y rwmen.
  • Colli llai o ffosfforws trwy gael ffosfforws (P) yn fwy effeithlon o’r planhigion, y gallu i dyfu’n well ar briddoedd â P isel a lleihau’r llif o waddodion yn cynnwys P dros y tir.
  • Llai o allyriadau nwyol a chanolbwyntio ar wella planhigion i ganiatáu prosesu’r deunydd planhigol yn fwy effeithlon yn y rwmen a lleihau’r allyriadau o ocsid nitraidd, methan ac amonia.
  • Gwneud addasiadau ar gyfer cymryd a defnyddio dwr yn fwy effeithlon er mwyn gallu cynnal cynhyrchedd ac ansawdd tir glas gyda golwg ar y tebygolrwydd y bydd hafau’r dyfodol yn sychach.

Y Manteision a Ddisgwylir

Daw’r gwaith hwn â manteision i ffermwyr da byw yn y DG. Bydd y rhywogaethau a ddatblygir ar gael yn fasnachol i bob ffermwr ac yn golygu arbedion ariannol sylweddol oherwydd defnyddio llai o wrtaith, cynhyrchu anifeiliaid yn fwy effeithlon a gallu tir glas i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd yn well.

Yn fwy cyffredinol, bydd y gwaith yn cyfrannu at lai o allyriadau nwyon ty gwydr a chael dwr o well ansawdd.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan amryw o sefydliadau sy’n cynnwys Defra, HCC, EBLEX Cyf, QMS, LMC (Gogledd Iwerddon) Germinal Holdings Ltd ac British Grassland Society.