Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

SUREROOT

SUREROOT – Gwreiddiau ar gyrfer y dyfodol – dylunio gwreiddiau trwy ddulliau systematig 

Mewn ymateb i’r ffaith fod problemau’n ymwneud â glaw yn gwaethygu ac yn digwydd yn amlach yn y DG, bydd y prosiect hwn yn pennu a oes modd newid priddoedd trwy gyfrwng glaswellt lluosflwydd fel bod llai o lifogydd a sychder – a hynny heb amharu ar gynhyrchiant nac ansawdd. Mae’n adeiladu ar ganlyniadau prosiect ‘SuperGraSS’ gan BBSRC a oedd yn dangos y gellid rheoli llifogydd â hybrid Ffestwloliwm (rhygwellt/peiswellt) trwy addasu ei wreiddiau. Bydd y prosiect newydd hwn yn adeiladu ar y data rhagarweiniol hwnnw ac yn manteisio ar yr amrywiad genetig helaeth sydd ar gael o fewn rhywogaethau porthiant i addasu dynameg gwreiddiau er mwyn lliniaru effeithiau bod â dim digon neu ormod o ddŵr glaw. Bydd potensial aml-swyddogaethol y glaswelltiroedd lluosflwydd i fod yn fanteisiol yn economaidd ac amgylcheddol yn cael ei fesur trwy ddefnyddio Canolfan Ffenomeg Planhigion Cenedlaethol IBERS (NPPC) a Llwyfan Fferm safle Rothamsted Research yn North Wyke (NWFP), yn ogystal â ffermydd masnachol, gan ddefnyddio arbenigedd partneriaid academaidd a diwydiannol.

Amcanion y prosiect:

  • ymchwilio i ontogenesis a mynegiant ffenoteip gwreiddiau mewn glaswellt a meillion dethol – yn annibynnol ac mewn cyfuniad – er mwyn gwella hydroleg y pridd
  • gwneud i feillion a glaswellt ymateb yn well i sychdwr a defnyddio dŵr yn fwy effeithlon
  • monitro perfformiad agronomig ac ansawdd porthiant ar y fferm

Mae hwn yn brosiect dros gyfnod o bum mlynedd a ddechreuodd ym mis Ebrill 2014. Mae’n cael ei wneud a’i gydlynu gan IBERS, Prifysgol Aberystwyth, gyda mewnbwn gan safle Rothamsted Research yn North Wyke. Mae nifer o gyd-arianwyr yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys HCC, AHDB, Germinal Holdings, Cymdeithas Tir Glas Prydain, Dairy Crest a Mole Valley Farmers. Mae Waitrose Cyf. hefyd yn rhan o’r prosiect, a bydd y ffermydd masnachol yn cael eu recriwtio o blith cynhyrchwyr y cwmni hwnnw.