Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Omega 3

Cynhyrchu Cig Oen Cymru sydd â chyfran uchel o asidau brasterog Omega 3

Cefndir

Daeth grwp o naw o ffermwyr yng ngogledd Ceredigion at ei gilydd o dan raglen ‘Agrisgôp’ (Rheoli Ffermydd â Thechnoleg Gwybodaeth). Yn dilyn trafodaethau hir ynglyn â dyfodol gwerthiannau cig oen ac ar ôl ymchwilio i sawl dewis, daeth aelodau’r grwp ar draws ‘Bwydydd Ymarferol’.

Yn wyddonol, cafodd bwydydd ymarferol eu diffinio fel bwydydd sy’n “cael effaith fuddiol ar un neu ragor o swyddogaethau targed y corff y tu hwn i effeithiau maethol digonol mewn ffordd sy’n berthnasol i naill ai gwell iechyd a lles a /neu lai o risg o glefyd.” Felly, mae gan fwydydd a diodydd gweithredol fanteision iechyd y tu hwnt i’w gwerth maethol.

Mae omega 3 yn asid brasterog buddiol Ar hyn o bryd mae’r diet dynol yn cynnwys gormod o asidau brasterog omega-6 (n-6) a dim digon o asidau brasterog omega-3 (n-3), yn enwedig asidau brasterog cadwyn hir. Unig ffynonellau dietegol naturiol yr asidau brasterog hyn yw pysgod a chynhyrchion cilgnöwyr (cig, llaeth a chaws) o wartheg, defaid a geifr. Roedd y ffermwyr hyn am weld a allent gael cyfran uwch o asidau brasterog omega 3 yng nghig eu hwyn.

Pwy wnaeth y gwaith?

Gwnaed y gwaith gan Brifysgol Bryste a chafodd ei ariannu gan HCC. Y partneriaid eraill yn y prosiect oedd IGER, Wynnstay Feeds a’r grwp o ffermwyr-gynhyrchwyr o ogledd Ceredigion.

Mae adroddiad llawn ar gael yma.