Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Probeef

Gwella ansawdd cig eidion – Probeef

Mae ansawdd bwyd yn dod yn bwysicach byth i ddefnyddwyr. Mae’r ffordd y caiff ansawdd cig ei ddiffinio yn mynd yn fwy cymhleth o hyd. Yn ogystal â’r agweddau ffisegol fel breuder, suddlonder a blas, mae hefyd yn cynnwys materion pwysicach fel diogelwch, olrheinedd, iachusrwydd a’r amgylchedd lle cynhyrchwyd y cig. Mae defnyddwyr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r berthynas rhwng diet ac iechyd, ac o’r herwydd mae hyn yn dod yn bwysicach wrth ystyried ansawdd cynnyrch.

Mae cig eidion yn cael ei ystyried yn fwyd maethlon a gwerthfawr iawn. Mae pwysigrwydd cig fel ffynhonnell protein â gwerth biolegol uchel a microfaethynnau (gan gynnwys, er enghraifft, fitaminau A, B6, B12, D, E, haearn, sinc, seleniwm) yn wybyddus. Fodd bynnag, mae braster a chyfansoddiad y braster hwnnw’n faes trafod pwysig. Cyfansoddiad y braster hwnnw fel arfer yw hyd at 45%, 50% a 5%, yn ôl eu trefn, o asidau brasterog dirlawn, mono-annirlawn ac amlannirlawn. Mae’r elfen amlannirlawn yn cynnwys y PUFA omega (n-3) (asid eicosapentaenoig (EPA, 20:5n-3) ac asid docasahecsaenoig (DHA; 22:6n-3)) ac sy’n gyfrwng pwysig i drosglwyddo brasterau buddiol i bobl.

Mae ProBeef wedi cadarnhau’r lefelau uwch o asidau brasterog omega-3 mewn cig o wartheg wedi’u bwydo ar laswellt. Y rheswm am hyn yw bod glaswellt, er nad yw’n cynnwys llawer o fraster, yn cynnwys lefelau uchel o asidau brasterog omega-3. Hefyd, dangosodd y prosiect fod yna amrywiaeth fawr mewn braster a chyfansoddiad braster rhwng poblogaethau genetig yn IBERS-Aberystwyth. Mae hyn yn newyddion da oherwydd mae’n golygu y gall ein bridwyr glaswellt ddewis ar gyfer deunydd glaswellt sydd â chyfran uwch o fraster ac o fraster omega-3. Byddai cyfraddau uwch o fraster yn ein glaswelltau yn ddefnyddiol oherwydd mae braster yn cynnwys llawer o egni, ac mae diffyg egni yn un o’r ffactorau allweddol sydd yn cyfyngu twf gwartheg ar ddietau sydd yn seiliedig ar borfwyd. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu mewn prosiect newydd, ar y cyd â HCC, sydd yn archwilio braster mewn glaswelltau.

Mae Probeef hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i ddeall yn well sut mae brasterau mewn glaswellt yn cael eu treulio a’u metaboleiddio yn y rwmen gan y boblogaeth ficrobaidd. Y gobaith yw cael hyd i ffyrdd newydd o wella cyfansoddiad braster mewn cig eidion ac unrhyw gynhyrchion eraill o anifeiliaid sy’n cnoi cil, gan gynnwys llaeth.

Prosiect Probeef

Strategaethau’n seiliedig ar blanhigion i wella gwerth maethol cig eidion i’r defnyddiwr ( PROBEEF)

Nod

Nod cyffredinol y prosiect yw ymchwilio i’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar drosglwyddo lipidau llesol o blanhigion i gig eidion. Bydd y prosiect yn ystyried y potensial ar gyfer bridio gwahanol fathau o rygwellt parhaol sy’n cynnwys mwy o n-3 PUFA. Yna ceir arbrofion wrth gynhyrchu cig eidion i weld sut mae cynyddu lefelau n-3 PUFA yn niet gwartheg yn dylanwadu ar gyfansoddiad asid brasterog cig eidion, oes silff y cig a’i briodoleddau synhwyraidd.

Pam mae’n bwysig?

Er bod mwy o gig eidion yn cael ei fwyta o hyd yn y DG, mae’n rhaid i’r diwydiant cig eidion gystadlu mewn marchnad fyd-eang. Felly, mae’n bwysicach nag erioed i gynhyrchu cig eidion yn fwy effeithlon a rhoi mwy o sylw i ofynion y cwsmer. Mae’r ffaith fod cwsmeriaid yn fwy ymwybodol o’u hiechyd yn golygu ei bod yn well ganddynt gael bwyd iach sy’n fwy maethlon ac ymarferol.

Bydd effaith lefelau uwch o n-3 PUFA mewn cig eidion ar atherosglerosis (un o achosion pennaf clefyd y galon mewn pobl) yn cael ei asesu wrth i’r prosiect geisio dangos y manteision o wella gwerth maethol cig eidion.

Sut mae’r prosiect yn gweithio?

Mae i’r prosiect hwn bum rhan:

  1. Asesu amrywiad yr asid brasterog mewn gwahanol fathau o rygwellt parhaol
  2. Archwilio rhyngweithiad cyfansoddion planhigion a digwyddiadau yn y rwmen sy’n pennu gallu planhigion gwahanol i ddylanwadu ar gyfansoddiad asid brasterog cig eidion.
  3. Ymchwilio i allu strategaethau bwydo sy’n seiliedig ar blanhigion i gynhyrchu cig eidion sy’n cynnwys mwy o asidau brasterog llesol.
  4. Asesu sut mae strategaethau bwydo sy’n seiliedig ar blanhigion yn dylanwadu ar ansawdd cig: cyfansoddiad asid brasterog, lliw, oes silff a phriodoleddau synhwyraidd.
  5. Asesu sut mae cig eidion mwy maethlon yn dylanwadu ar lipidau plasma a lipoproteinau a datblygiad atherosglerosis.

Pwy sy’n gwneud y gwaith?

Mae’r gwaith yn cael ei wneud yn IBERs Aberystwyth University, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Nottingham.

Mae’r prosiect yn rhan o brosiect ehangach sy’n cael ei ariannu gan yr UE, sef ‘ProSafeBeef’ a fydd yn ymchwilio i sut y gall porfwyd ddylanwadu ar gyfansoddiad asid brasterog ac ansawdd cig eidion ac effaith hynny ar iechyd pobl.

Cliciwch yma am yr adroddiad llawn ac yr atodiad.