Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Rheoli llyngyr yr iau yn well mewn gwartheg yn y DG

O blith y parasitiaid mewnol sy’n effeithio ar wartheg llaeth a chig eidion o bob oed yn y DG, Fasciola hepatica, sef y llyngyren iau gyffredin, yw’r un a welir amlaf gan y sefydliad Dadansoddi Diagnosis Ymchwiliadau Milfeddygol (VIDA). Mae oddeutu 15% o’r cyflwyniadau ar gyfer diagnosis gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a’r Labordai Milfeddygol (AHVLA) a Choleg Amaethyddol yr Alban (SAC) yn tarddu o lyngyren yr iau (http://vla.defra.gov.uk/reports/rep_vida09); mae’n achosi heintiadau is-glinigol sy’n arwain at golledion cynhyrchu ac afuau’n cael eu condemnio yn y lladd-dy, yn ogystal â chlefydau clinigol mewn defaid a gwartheg.

Cafwyd cynnydd sylweddol yn ystod y 15 mlynedd diwethaf yn nifer yr achosion o lyngyr yr iau, efallai oherwydd yr holl hafau gwlyb a gaeafau mwyn a gafwyd. Awgrymodd astudiaeth ddiweddar fod 76% o’r buchesi llaeth yng Nghymru a Lloegr yn agored i lyngyr iau (McCann et al 2010a).

 

Amcanion

Nody prosiect yw cael gwell rheolaeth o heintiad F. hepatica mewn gwartheg trwy ddulliau cynaliadwy, a dibynnu llai ar ddefnyddio cyffuriau.

I gyflawni hyn, rydym wedi nodi’r amcanion a ganlyn:

  1. Gwell diagnosis – i ganfod ffermydd â heintiad ffliwc / llyngyr yr iau yn gyflym a chywir a gwahaniaethu rhwng heintiad Fasciola a heintiad paramffistom
  2. Dadansoddiad cost a budd i ganfod faint yw cost llyngyr yr iau ar lefel anifeiliaid unigol ac ar lefel genedlaethol. Er mwyn gwerthuso cost-effeithiolrwydd y cyngor ar reoli llyngyr yr iau y bwriedir ei roi i ffermwyr, mae angen gwell gwybodaeth arnom, ynghylch faint mae’r clefyd yn ei gostio i ffermydd cig eidion a llaeth.
  3. Gosod cynefinoedd malwod mewn gwahanol ddosbarthiadau a chanfod y ffactorau sy’n dylanwadu ar gysylltau rhwng y fuwch a’r llyngyren.
  4. Nodi ffactorau risg ar y fferm ar gyfer llyngyr yr iau
  5. Gwerthusiad in silico o ffactorau risg yn newid ar y fferm yn unol ag amlder heintiadau llyngyr yr iau a datblygu cynllun rheoli’r clefyd ar y fferm.
  6. Gwerthusiad o’r cynllun rheoli llyngyr yr iau yn lleihau heintiadau llyngyr yr iau ar ffermydd llaeth a chig eidion.

Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan gonsortiwm o ymchwilwyr o Brifysgol Lerpwl, Sefydliad Moredun, Y Ganolfan Hydroleg ac Ecoleg (CEH) a Choleg Gwledig yr Alban (SRUC).

Noddir y prosiect gan y Cyngor Ymchwil Biolegol a Biodechnolegol (BBSRC), HCC, AHDB, Agrisearch a QMS.