Mae Cig-weithio yn gynllun 12 mis sydd wedi’i lunio i ddatblygu a chefnogi’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru.
Mae’n rhaid i’r aelodau fod rhwng 21-35 mlwydd oed, yn gweithio o fewn y gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru, yn angerddol am gynhyrchu a hyrwyddo, ac â diddordeb mewn ymchwil a datblygu.
Y nod yw sbarduno sgyrsiau, cynyddu dealltwriaeth a meithrin cysylltiadau o fewn y gadwyn gyflenwi, yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa drwy fod yn rhan o dair elfen:
- Modiwlau: yn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o destunau, o effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi ac ymwybyddiaeth defnyddwyr, i ddatblygu gwybodaeth yr aelodau mewn agweddau arbenigol o’r gadwyn gyflenwi.
- Mentoriaid: mae’r aelodau’n cael mentor i’w cefnogi a’u cynghori ac yn cael profiad ymarferol yn y gweithle.
- Prosiectau: wedi’u cyd-gynllunio gan y grŵp i greu gwybodaeth newydd ar gyfer sector sy’n dilyn data.
Fe gyflwynir y rhaglen ar draws 6 niwrnod dros gyfnod o 12 mis. Bydd hyn yn cynnwys:
- 5 diwrnod o brofiad ymarferol drwy themâu’r modiwlau
- 1 diwrnod gyda’ch mentor
Aelodau grŵp 2024-2025
Enw: Gwion Parry
Lleoliad: Pwllheli, Gwynedd
Swydd: Ffermwyr defaid a gwartheg / Sganiwr uwchsain trwch braster a marmori
“Bydd y rhaglen yn fy helpu i ddatblygu fy nealltwriaeth o’r hyn mae proseswyr a defnyddwyr ei eisiau gan gynhyrchwyr. Rwy’n gobeithio cael ateb i gwestiynau ynghylch anifeiliaid gyda chynnydd mewn gorchudd braster a marmori uwch, a’r llafur sy’n gysylltiedig yn y safle prosesu, ac os ydy hynny’n gwella’r ansawdd bwyta.
“Dw i hefyd yn gobeithio y bydd yr elfen fentora o’r prosiect yn ein helpu i symleiddio’r broses o wneud penderfyniadau yn ogystal ag arwain y grŵp fel bod cryfderau’r unigolion yn cael eu hadnabod a’u defnyddio. Yn bersonol, dwi’n edrych ymlaen at ehangu fy rhwydwaith o fewn y diwydiant a chael gwell dealltwriaeth o’r broses gyflawn o gynhyrchu cig coch.”
Enw: Jane Phillips
Lleoliad: Llanfair ym Muallt, Powys
Swydd: Ffermwr defaid / Cynghorydd glaswelltir
“Ar ôl gweithio yn y cyfryngau am 10 mlynedd ar faterion bwyd ac amaeth ymysg testunau eraill, rydw i wedi dychwelyd i’r fferm deuluol erbyn hyn. Mae gen i ddiddordeb mewn geneteg a sut y gall hynny gael effaith ar ansawdd cig (ac felly’n ateb galw defnyddwyr), ei effaith ar iechyd anifeiliaid, a’i botensial i helpu’r sector i fod yn fwy cynaliadwy.
“Mae gen i ddiddordeb i glywed am y camau mae’r mentoriaid wedi’u cymryd i gyrraedd lle maen nhw yn eu gyrfa, i drafod penderfyniadau busnes strategol, i gael cyngor technegol ymarferol, yn ogystal â chael gwybodaeth fewnol am gyfeiriad y diwydiant a sut y gall busnesau baratoi ar gyfer y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r prosiect ymchwil, gan gau’r bwlch rhwng ymchwil a gwaith ymarferol, gan ei fod yn galluogi ffermwyr i gydweithio gydag arbenigwyr i archwilio i heriau go iawn ar y fferm.”
Enw: Daniel Owen
Lleoliad: Pen-y-bont Fawr, Powys
Swydd: Rheolwr datblygu’r gadwyn gyflenwi ŵyn, Pilgrims / Ffermwr defaid a gwartheg
“O oed ifanc roedd gen i ddiddordeb mewn cynyddu perfformiad anifail ar borthiant. Er mwyn cyflawni hyn, dw i’n credu mai’r prif ffactorau i fynd i’r afael â nhw yw gwelliannau geneteg, gwneud y mwyaf o’r defnydd o borthiant, gwella effeithlonrwydd y defnydd o nitrogen, gwella iechyd y pridd, a defnyddio technoleg i fynd i’r afael â’r heriau yma. Bydd y prosiect yma’n fy ngalluogi i gynyddu fy nealltwriaeth o’r pynciau yma a rhoi hyder i mi rannu’r wybodaeth gyda’n cynhyrchwyr. O safbwynt prosesu, bydd cynyddu fy nealltwriaeth o ofynion cwsmeriaid a chael clywed am y targedau maen nhw’n gobeithio eu cyrraedd yn fy ngalluogi i addasu a rhagori yn fy swydd bresennol.”
Enw: Robert Powell
Lleoliad: Abertawe
Swydd: Rheolwr gweithrediadau bwyd ffres, Dunbia / Ffermwr defaid a gwartheg
“Rwy’n bartner seithfed-cenhedlaeth yn y fferm deuluol a dechreuais ennill profiad fel cigydd ar ddydd Sadwrn yn y siop gigydd leol. Yn ogystal â fy ngwreiddiau mewn amaethyddiaeth, sy’n pontio 7 cenhedlaeth, a dros 10 mlynedd gyda Dunbia/Dawn Operations, bydd y rhaglen yn ehangu fy rhwydwaith o gysylltiadau gan fy helpu i ddatblygu i fod yn arbenigwr cyflawn ar y gadwyn gyflenwi amaeth/cig coch gyda’r gallu a’r wybodaeth i ddylanwadu a siapio dyfodol sector cig coch Cymru.
“Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r gadwyn gyflenwi i mi. Mae fy nghefndir yn y diwydiant wedi mynd a fi o’r fferm i fod yn weithiwr mewn lladd-dy, yn gigydd, rheolwr safle mewn lladd-dy a rŵan yn Rheolwr Gweithrediadau mewn safle manwerthu yn cyflenwi’r archfarchnadoedd i gyd. Rwy’n edrych ymlaen at gael mentor i gwblhau fy nhaith o’r fferm hyd at y cwsmer, a chynyddu fy nealltwriaeth o ofynion y manwerthwyr.”
Enw: Emma Matthews
Lleoliad: Y Bontfaen, Bro Morgannwg
Swydd: Prynwr da byw, Kepak / Ffermwr defaid a gwartheg
“Mae fy rôl yn rhoi cyfle i fi weld y da byw sy’n cael eu dewis ar y fferm a dilyn y broses ar ei hyd. Drwy’r rhaglen yma mi fydda i’n elwa drwy gyfarfod â phobl newydd o bob rhan o’r sector yng Nghymru. Y brif agwedd dwi’n gobeithio fydd yn helpu fy natblygiad fydd cael mentor, yn enwedig i gael treulio amser yn eu gweithle, gan ddeall eu rhan o fewn y diwydiant. Rwy’n edych ymlaen at gael y profiad o bum modiwl gwahanol, a rhannu’r hyn y byddaf yn ei ddysgu gyda’r diwydiant yn ehangach.”
Enw: Chloe Mckee
Lleoliad: Talgarth, Powys
Swydd: Rheolwr Amaethyddiaeth a Chynaliadwyedd, OSI / Ffermwr defaid
“Rwy’n gweithio gyda chyflenwyr cig eidion a’u ffermwyr ar fentrau a phrosiectau cynaliadwyedd o brofion pori i les anifeiliaid ac ôl-troed carbon. Mae fy rôl bresennol o fewn y cylch gwaith cynaliadwy, ac felly bydd y rhaglen yn cefnogi fy natblygiad o fewn y sector gan roi profiad i mi mewn meysydd nad ydw i’n cael amser i’w harchwilio fel arall.
“Bydd y sesiynau ar ansawdd cig, boddhad defnyddwyr a phrosesu yn fuddiol i fi gan mai dyna’r meysydd yr hoffwn fedru siarad yn hyderus amdanynt gyda ffermwyr a chwsmeriaid. Mae disgwyliadau defnyddwyr yn newid o hyd ac o bosib yn wahanol iawn i fi marn i fy hun, gan fy mod yn dod o gefndir amaethyddol, felly bydd mwy o brofiad yn cynyddu fy nealltwriaeth o effaith tueddiadau defnyddwyr ar gydbwysedd carcas a phris gat y fferm.”
Enw: Dafydd Walters
Lleoliad: Cross Hands
Swydd: Dadansoddwr Busnes ESG, Bwydydd Castell Howell
“Mae fy rôl yn cynnig rhagolwg unigryw o’r gadwyn gyflenwi ar ei hud, o’r fferm i’r fforc, ac yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i’r heriau a’r tasgau sy’n wynebu pob cynhyrchwr, cyfanwerthwr, darparwr gwasanaeth, a chwsmer o safbwynt amgylcheddol, cymdeithasol, a llywodraethiant.
“Fy nod yw cynyddu fy nealltwriaeth o’r rhaglen Cig-weithio a hynny i safon drosglwyddadwy, defnyddio’r hyn rwy’n ei ddysgu yn fy ngwaith a’m cyfrifoldebau o ddydd-i-ddydd, a helpu i ddatblygu’r diwydiant a dealltwriaeth cenedlaethau’r dyfodol o gadwyn gyflenwi hollol gynaliadwy drwy gydweithio.”
Enw: Hywel Evans
Lleoliad: Caernarfon, Gwynedd
Swydd: Arwerthwr, Marchnad Bryncir
“Bydd y modiwlau strwythuredig yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i fi o elfennau o’r gadwyn gyflenwi nad ydw i wedi’u harchwilio mewn dyfnder. Bydd deall yr agweddau yma yn fy ngalluogi i werthfawrogi’r cymhlethdodau sy’n bodoli o fewn cynhyrchu, prosesu a dosbarthu cig coch. Fy ngobaith yw y bydd y wybodaeth yn fy ngalluogi yn fy rôl bresennol i gyfrannu’n fwy effeithiol at drafodaethau a phrosesau gwneud penderfyniadau a fydd yn cael effaith ar y gadwyn gyflenwi gyfan.
“Rwy’n gobeithio y bydd gweithio’n agos gydag arweinydd o’r diwydiant mewn maes arall, megis prosesu neu fanwerthu, yn rhoi profiad ymarferol a dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n bodoli y tu hwnt i farchnad da byw. Bydd cydweithio gyda’r aelodau eraill yn cynyddu fy ngallu i ddadansoddi materion o fewn y gadwyn gyflenwi, ac yn y pendraw, cyfrannu at wybodaeth y diwydiant yn ehangach.”
Enw: Louise Lawton
Lleoliad: Pontypridd
Swydd: Arbenigwr cig, cownter y cigydd, Waitrose and Partners
“Wedi fy magu ar fferm ddefaid a gwartheg ac erbyn hyn yn gweithio yn y diwydiant cigyddiaeth, rwy’n edrych ymlaen at gael cyfarfod arweinwyr yn niwydiant cig coch Cymru, dysgu o’u profiadau, ac adeiladu fy rhwydweithiau fy hun o fewn y diwydiant. Bydd y wybodaeth sydd i’w gynnig gan y rhaglen yn werthfawr iawn. Bydd yn dangos y rhan rwy’n ei chwarae o fewn y diwydiant a sut y gallaf gyfathrebu hyn i’n cwsmeriaid.
“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod y grŵp, at gydweithio ar y prosiect, ac yn y pen draw at ddatblygu ein sgiliau a rhannu gwybodaeth a phrofiadau gyda’n gilydd. Roedd Cig-weithio yn apelio gan ei fod yn gyfle i weithio tuag at brosiect wrth ddysgu o brofiad mentoriaid, o fewn cyd-destun Cymreig.”
Enw: Craig Holly
Lleoliad: Talywain, Pontypool
Swydd: Swyddog hyfforddi cigyddion, Cambrian Training
“Mae gen i dros 13 mlynedd o brofiad fel cigydd, enillais Cigydd y Flwyddyn Cymru ar sawl achlysur a Her Cigyddiaeth y Byd. Rwy’n gobeithio cynyddu fy ngwybodaeth a dealltwriaeth o’r gadwyn gyflenwi ehangach fel y gallaf ei drosglwyddo i’r sawl rwy’n eu hyfforddi fel cigyddion yn y diwydiant. Ers bod yn gigydd dros 13 mlynedd, rwyf wedi dysgu am holl agweddau’r cynnyrch terfynol ond mae fy ngwybodaeth am bopeth cyn hynny yn brin.
“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl o sectorau gwahanol a dysgu ganddynt yn ogystal â fy mentor. Roedd Cig-weithio yn apelio ataf gan ei fod yn gyfle i ehangu fy ngwybodaeth a’m cysylltiadau o fewn y diwydiant. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i fi weithio gyda HCC sy’n cael effaith gadarnhaol ar y diwydiant.”