Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Effaith TM-QTL a QTLau eraill ar gynnyrch cig coch ac ansawdd cig mewn defaid a’i werthuso trwy ddefnyddio VISA
(Mai 2006 – Gorffennaf 2010)

 

Nodau

Mae ymchwil blaenorol wedi darganfod grwp o enynnau sy’n gyfrifol am drwch cyhyrau mewn defaid Texel. Gellir priodoli cyfran helaeth o’r amrywiad rhwng anifeiliaid mewn nodwedd i nifer fach o enynnau mewn lleoliad penodol. Yr enw ar y lleoliadau hyn yw Locysau Nodweddion Meintiol (QTL). Yn yr achos hwn gelwir y QTL yn ‘QTL cyhyredd Texel’ (TM-QTL) Mae disgwyl y bydd effeithiau ffenoteipol y QTL hwn yn effeithio ar yr holl gyhyr sgerbydol ac yn lleihau braster.

Prif nod y prosiect hwn yw gwerthuso effeithiau uniongyrchol (cynnyrch cig coch) ac anuniongyrchol (twf, carcas, cydffurfiad, yn enwedig ansawdd bwyta’r cig, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid) y TM-QTL, mewn defaid purlinach a chroesfrid.

Rhan arall o’r prosiect hwn yw profi a dilysu system VISA (Dadansoddi Systemau Delweddau Fideo) er mwyn gwerthuso carcasau cig oen yn wrthrychol. Fe allai hyn alluogi rhagfynegi nodweddion ansawdd bwyta.

 

Pam ame’n bwysig?

Er mwyn i ddiwydiant defaid y DG fod yn fwy hyfyw yn economaidd, rhaid iddo ddarparu carcasau sy’n diwallu gofynion y farchnad yn well. Yn ogystal â strategaethau bridio i wella ansawdd y carcas mae yna ymchwil byd-eang ar hyn o bryd ynglyn â defnyddio technolegau genetig moleciwlaidd. Cafodd adnoddau sylweddol eu neilltuo i ddarganfod locysau nodweddion meintiol (QTL) y gellir manteisio arnynt ac yn benodol, i ddarganfod genynnau sy’n dylanwadu ar dwf cyhyrau a chyfansoddiad y corff.

 

SUt fydd y prosiect yn gweithio?

Bydd effeithiau QTL yn cael eu hastudio mewn anifeiliaid o linach Texel bur yn ogystal ag mewn wyn croesfrid. Bydd yr wyn croesfrid hyn yn cael eu cynhyrchu trwy baru mamogiaid Miwl, Mynydd Cymreig a Texel-Inverdale purlinach â hyrddod Texel Seland Newydd (yn cario MM-QTL), hyrddod Texel (yn cario MM-QTL) a bridiau eraill o hyrddod terfynol (e.e. Suffolk a Charollais).

Bydd darganfyddiadau’r system VISA yn cael eu cymharu â mesuriadau CT a chanlyniadau dyraniadau carcasau er mwyn rhagfynegi cysylltiadau rhwng y darganfyddiadau VISA a nodweddion ansawdd bwyta.

Pwy fydd yn gwneud y gwaith?

Mae hwn yn brosiect cyswllt integredig gan DEFRA wedi’i noddi’n rhannol gan HCC, EBLEX, QMS ac LMC Gogledd Iwerddon.