Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Datblygu semenu artiffisial traws geg y groth mewn defaid

Nod y prosiect

Bwriad y prosiect hwn oedd cynnal ymchwiliad rhagarweiniol i agweddau ffrwythlondeb y dechneg draws geg y groth mewn semenu mewngroth.

Pam mae’n bwysig?

Er bod y cyfraddau cyfebru ar ôl defnyddio semen ffres i semenu mamogiaid cydamseredig yng ngheg y groth fel arfer oddeutu 60-70%, mae’r cyfraddau cyfebru â semen wedi rhewi yn tueddu i fod mor isel ag 20%. Fel canlyniad, cyflwynwyd semenu mewngroth drwy laparosgopi er mwyn osgoi problemau cludo sberm drwy geg y groth. Fodd bynnag, er y bu’n llwyddiannus iawn, mae semenu mewngroth drwy laparosgopi yn ddrud iawn am fod rhaid cyflogi milfeddyg. Mae ymchwil a wnaed yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol wedi dangos ffyrdd o laesu ceg y groth yn ddigon i ganiatáu rhoi cathetr semenu drwy geg y groth fel bod modd gollwng semen yn uniongyrchol yn lwmen y groth. Mae hyn yn golygu nad oes angen llawdriniaeth a bod modd i dechnegwyr cymwys wneud y gwaith.

Sut mae’r prosiect yn gweithio?

Gwnaed yr ymchwil gan ddefnyddio’r ddiadell o famogiaid mynydd ar fferm Tan-y-graig. Rhannwyd y mamogiaid ar hap i bedwar grŵp semenu artiffisial, gydag oddeutu 80 o famogiaid ym mhob grŵp. Y pedair triniaeth oedd:

  1. Semenu ceg y groth â semen ffres (semenu artiffisial sengl)
  2. Semenu ceg y groth â semen rhewi-dadmer (semenu artiffisial dwbl)
  3. Semenu mewngroth â semen rhewi-dadmer (semenu artiffisial sengl)
  4. Semenu traws geg y groth â semen rhewi-dadmer (semenu artiffisial sengl)

Defnyddiwyd semen o hyrddod Inverdale Texel ar gyfer y semenu artiffisial ac yna cyflwynwyd hyrddod Wyneblas Caerlŷr i’r ddiadell 7 diwrnod ar ôl y semenu artiffisial ar gyfer y mamogiaid nad oedd wedi cyfebru. Trwy ddefnyddio bidiau gwahanol o hyrddod roedd modd gwybod a oedd ŵyn wedi cael eu geni fel canlyniad i semenu artiffisial ai peidio.

Pwy sy’n gwneud y gwaith?

Gwnaed y gwaith gan y Sefydliad Gwyddorau Gwledig, Aberystwyth.