Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Mae HCC hefyd yn bartner ym mhrosiect BeefQ, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, sy’n anelu at gynyddu safon bwyta a gwerth cynnyrch Cig Eidion Cymru PGI.

Darllenwch adroddiad terfynol y prosiect yma

Lawrlwythwch Adroddiad

 

Agwedd o'r Fferm i'r Fforc at Ansawdd Cyson o Gig Eidion

Nod y prosiect BeefQ oedd gwella cynaliadwyedd ariannol hirdymor cadwyn gyflenwi Cig Eidion Cymru trwy ddatblygu a phrofi technoleg (yn seiliedig ar system Safon Cig Awstralia (MSA)) sy’n sail wyddonol gadarn ar gyfer arddangos ansawdd bwyta Cig Eidion Cymru i ddefnyddwyr.

Yn ogystal â meithrin gallu a hyder yn sector Cig Eidion Cymru drwy ddatblygu a phrofi’r dechnoleg hon, roedd BeefQ am ddangos sut mae modd defnyddio’r data sy’n cael ei gasglu drwy’r system hon i wella penderfyniadau busnes a ‘r cydweithredu a chyfathrebu o fewn y gadwyn gyflenwi.

Roedd hefyd yn anelu at gyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor cynhyrchwyr a chadwyni cyflenwi Cig Eidion Cymru ar ôl Brexit.  Cydlynwyd y prosiect gan Brifysgol Aberystwyth, gyda phartneriaid craidd o Hybu Cig Cymru, Celtica Foods Cyf, Birkenwood International (Awstralia), Prifysgol Queens Belfast a Menter a Busnes, ynghyd â chefnogaeth amhrisiadwy gan broseswyr cig eidion, sef Grŵp Bwyd ABP, Dunbia, Dovecote Park, Grŵp Bwyd Randall  Parker, Cig Calon Cymru a Kepak.

Argymhellion BeefQ

1
Cafodd yr offer rhagfynegi ansawdd bwyta sy'n seiliedig ar y system MSA eu profi'n llwyddiannus a'u harddangos ym mhrosiect BeefQ
2
Bydd y data a gasglwyd gan brosiect BeefQ i ddatblygu’r model rhagfynegi ansawdd bwyta yn cael ei gadw yn y banc DATA a gynhelir gan y Sefydliad Ymchwil Cig Rhyngwladol 3G
3
Bydd yr adnoddau cyfathrebu a lledaenu yn cael eu cynnal gan Hybu Cig Cymru (HCC) unwaith y daw prosiect BeefQ i ben.
4
Mae adborth rhanddeiliaid yn nodi bod angen safonau rhagfynegi ansawdd bwyta tryloyw a chenedlaethol er mwyn i'r diwydiant symud ymlaen.

Ymchwil Pellach

Mae angen mwy o ymchwil yn y DG i symud yr agenda ansawdd bwyta cig eidion yn ei blaen, gan gynnwys sut mae ansawdd bwyta yn cyd-fynd â’r agenda ansawdd amgylcheddol; sut mae dewis ar gyfer naw anifail effeithlon yn cael effaith ar ansawdd bwyta; nodi cyfaddawdau/synergeddau posibl rhwng gwella ansawdd bwyta ac amcanion perfformiad; mwy o gynlluniau peilot a threialu ynghylch rhagfynegi ansawdd bwyta, yn enwedig yng nghyd-destun y busnesau prosesu cig mwyaf; a datblygu set o safonau ar gyfer rhagfynegi ansawdd bwyta yn y DG.

Ein Prosiectau Eraill

Rhaglen Datblygu Cig Coch
Four brown cows and one black cow looking at camera in field

Stoc+

Gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth iechyd praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru i arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Sheep in a field in Penlan Farm with hills in background

Cynllun Hyrddod Mynydd

Buddsoddi mewn amaeth ucheldir Cymru a’r economi wledig sy’n ddibynnol arni trwy ddefnyddio’r dechnoleg bridio diweddaraf a recordio perfformiad yn y sector fynydd Gymreig.

Rack of lamb on slate with carving knife and charred lemon

Cig Oen Cymru

Datblygu glasbrint i’r gadwyn gyflenwi gyfan er mwyn gwarantu’r cysondeb blas gorau i gwsmeriaid Cig Oen Cymru PGI.