Wrth ddefnyddio’r eneteg orau sydd ar gael, mae modd gwneud i’r ddiadell befformio’n well a gwneud mwy o elw.
Mae dewis anifeiliaid magu â ffigurau perfformiad uchel yn cael ei gydnabod yn gyffredin yn fodd i wneud cynhyrchu da byw yn fwy effeithlon a phroffidiol. Yn y bôn, cyflawnir hyn trwy ddewis yr anifeiliaid sy’n perfformio orau o ran ennill pwysau, cydymffurfiad, gwerth mamol ac, yn achos gwartheg, rhwyddineb lloia.
Mae ymchwil wedi dangos fod modd cael £47 y llo yn ychwanegol trwy ddewis teirw â ffigurau perfformiad uwchraddol. Yn yr un modd, gall hwrdd â ffigurau perfformiad uwchraddol olygu £3 yn ychwanegol yr oen.
I gael rhagor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â HCC ar 01970 625 050 neu anfon e-bost at info@hybucig.cymru