Mae RamCompare, menter genedlaethol y DG ar gyfer profi epil defaid, yn chwilio am ffermydd masnachol newydd ledled Cymru a Lloegr i ymuno â’r prosiect y tymor hwn.
Mae angen ffermydd “cyfrannol” ar RamCompare i ddarparu tua 300 o famogiaid masnachol o deip brid unffurf i gael eu paru â hyrddod-magu cig sy’n cael eu darparu gan y prosiect drwy ddefnyddio un hwrdd, grwpiau paru-naturiol neu semenu artiffisial (AI).
Wedi’i ariannu ar y cyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), mae RamCompare yn casglu data perfformiad gwerthfawr am ŵyn masnachol i ysgogi gwelliannau genetig yn y diwydiant defaid.
Dywedodd Bridget Lloyd, cydlynydd prosiect RamCompare: “Mae hwn yn gyfle gwych i ffermydd cyfrannol elwa wrth ddefnyddio geneteg o’r radd flaenaf yn eu diadelloedd. Maen nhw’n cael y cyfle i ddefnyddio hyrddod â rhinweddau uchel o ran iechyd a geneteg, byddan nhw’n cael cymorth i feincnodi perfformiad eu diadell mewn cymhariaeth â ffermydd eraill yn y prosiect ac yn cael cyfle i ymgysylltu â grŵp bach o ffermwyr arloesol o’r un anian.”
Mae'r holl hyrddod a ddewisir i'w defnyddio yn perthyn i’r 20% o hyrddod-magu cig gorau sydd â chofnodion perfformiad. Drwy gydol y broses, bydd ffermydd yn casglu data manwl gan ddefnyddio dull adnabod electronig (EID) o enedigaeth hyd at ladd. Mae hyn yn sicrhau bod ŵyn yn cael eu magu fel un grŵp rheoli o fewn system pesgi-cyflym.
Er mwyn cael eu hystyried yn fferm gyfrannol, rhaid diwallu’r gofynion a ganlyn:
- Darparu 300 o famogiaid masnachol
- Defnyddio hyrddod-magu cig â chofnodion perfformiad a mynegai uchel sy’n cael eu darparu gan y prosiect
- Rhaid i famogiaid gael eu paru ag un hwrdd
- Rhaid casglu data o’r ŵyn gan ddefnyddio EID o'u geni hyd at eu lladd
- Bydd ŵyn yn cael eu magu fel un grŵp rheoli o fewn system pesgi-cyflym.
Gellir trefnu semenu artiffisial ar gyfer 90-120 o famogiaid fel rhan o’r prosiect. Bydd ffermydd cyfrannol yn cael cyllid i gefnogi casglu data.
Mae Alwyn Nutting wedi bod â fferm gyfrannol i RamCompare oddi ar 2021, gan gasglu data o’i ŵyn masnachol ar Fferm Glasgoed, Aberhafesb am y bedwaredd flwyddyn. Mae gan yr hyrddod a ddarperir gan y prosiect statws iechyd uchel ac mae ganddynt botensial genetig uchel gan eu bod ymhlith yr 20% uchaf o hyrddod-magu cig sydd â chofnodion perfformiad.
Esboniodd Alwyn: “Dechreuodd ein diddordeb mewn defnyddio stoc â chofnodion perfformiad pan ddewison ni darw ar sail ei ffigurau perfformiad rai blynyddoedd yn ôl ac yna roedden ni hefyd eisiau cael y gorau o’n diadell fasnachol. Mae RamCompare yn ein galluogi i ddefnyddio hyrddod â rhinweddau genetig uchel o fridiau gwahanol sydd â statws iechyd uchel ac sy’n cael eu dewis ar sail nodweddion penodol megis pwysau sganio a dyfnder cyhyrau, sy’n gweddu i’n system fasnachol. Mae potensial genetig yr hyrddod hyn yn golygu bod eu hepil yn cynhyrchu carcasau â gwerth uwch a bod llai o gostau cynhyrchu am fod cyfnod byrrach cyn eu lladd. Rwy’n mwynhau bod yn rhan o’r prosiect hwn ac rwy’n eich annog i gysylltu â HCC i gael gwybod mwy os hoffech chi gymryd rhan!”
Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC: “Mae nifer o ddiadelloedd pedigri a chofnodion perfformiad yng Nghymru wedi cyflwyno hyrddod i’r prosiect hwn dros y blynyddoedd er mwyn profi eu gwerth mewn prawf epil masnachol.
“I glywed mwy amdanyn nhw, y prosiect a gwelliant genetig mewn systemau da byw cynaliadwy ar laswelltir, byddwn yn cynnal diwrnod agored ar fferm Glascoed ddydd Iau 4 Medi. Bydd hefyd yn gyfle i glywed am y buddion economaidd i fusnesau cig oen sy’n defnyddio’r hyrddod â’r cofnodion perfformiad gorau mewn system fasnachol. Cofiwch y dyddiad a chadwch lygad ar agor am fwy o wybodaeth yn hwyrach eleni.”
Os ydych yn bodloni’r meini prawf ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â Dr Heather McCalman yn HCC am ragor o wybodaeth ar hmccalman@hybucig.cymru neu ewch i ramcompare.com.
Mae enwebiadau ar gyfer ffermydd cyfrannol yn cau ddydd Gwener 16 Mai 2025.