Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru yn cynyddu 3.3%, yn unol â chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn cynnwys costau meddianwyr sy’n berchen tai (CPIH).

Yn Ebrill 2023, yn dilyn ymgynghoriad gyda’r diwydiant, awgrymwyd a chytunwyd bryd hynny ar fecanwaith i gysylltu cynnydd mewn ardoll yn y dyfodol i chwyddiant CPIH. Yn Ebrill 2024, cynyddodd y cyfraddau yn unol â CPIH, a bydd yr un mecanwaith ar waith yn Ebrill 2025.

Cytunwyd y cynnydd gan Ddirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru a bydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2025.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod corff ardoll y diwydiant cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn parhau i wneud cynnydd ar gyfleoedd yn y farchnad ac yn cynnig cefnogaeth gyda’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant.

Meddai Prif Weithredwr HCC, José Peralta: “Roedd y penderfyniad i gysylltu cyfraddau ardoll i chwyddiant blynyddol yn 2023, gan ddefnyddio system dracio, yn sicrhau bod incwm ardoll yn cael ei gynnal mewn termau real ac y byddai’n parhau ar lefel lle nad yw grym gwario’n lleihau.

“Mae nifer o ffactorau yn herio gwytnwch y diwydiant ar hyn o bryd, yn cynnwys masnach, pryderon economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol, a gallai’r rhain i gyd gael cryn effaith ar berfformiad a phroffidioldeb yn y dyfodol. Mae’n hanfodol felly bod gan y diwydiant gorff ardoll sy’n cael ei ariannu’n briodol i ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru, gartref a thramor, ac yn cynnal y momentwm sy’n bodoli eisoes. Bydd y cynnydd yma sy’n unol â chwyddiant yn helpu i gefnogi gwaith a phrif flaenoriaethau HCC ar ran talwyr ardoll.”

Ychwanegodd José Peralta: “Mae HCC yn parhau â’r gwaith o gefnogi’r diwydiant sy’n amrywio o gynorthwyo proseswyr ac allforwyr i gynyddu ac adeiladu ar fynediad i farchnadoedd, o Dubai i Tokyo, yn ogystal â gweithredu ymgyrchoedd i ddefnyddwyr mewn marchnadoedd domestig sydd a’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth brand a’r tuedd i brynu brandiau cig coch eiconig Cymru.

“Wrth i HCC ddechrau gweithio ar y flwyddyn olaf o’r cynllun busnes presennol, edrychwn ymlaen at ymgynghori yn eang gyda’r diwydiant ar eu syniadau ar sut y dylai HCC gefnogi diwydiant cig coch Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.”