Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn

By creo

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn recriwtio ffermwyr i gymryd rhan mewn prosiect newydd sy’n edrych ar wneud y defnydd gorau o laswelltir tra’n gwneud arbedion ariannol sylweddol i’r busnes. Bydd yr arbedion posibl o £1.6 biliwn yn deillio o arferion rheoli glaswelltir effeithlon sy’n gyfeillgar â natur. Byddant hefyd yn helpu busnesau ffermio i … Continued

Ceisiodd dau aelod bwrdd newydd ar gyfer Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales

By creo

Mae Llywodraeth Cymru am benodi dau Gyfarwyddwr anweithredol newydd i fwrdd Hybu Cig Cymru (HCC).  Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â 9 cyfarwyddwr anweithredol presennol Bwrdd HCC sy’n cael ei gadeirio gan Catherine Smith. Mae’r bwrdd yn cynnwys unigolion ag ystod o setiau sgiliau, gan gynnwys ymchwil, amaethyddiaeth a marchnata. Er mwyn sicrhau trawstoriad … Continued

Cigydd o Hwlffordd yn ennill gwobr am selsig gorau Cymru

By creo

Mae’r siop gig Prendergast,  yn Hwlffordd wedi cipio’r wobr gyntaf am selsig gorau Cymru yn y gystadleuaeth uchel ei pharch, ’Cyflwynwch Eich Selsig Gorau 2024’. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Hybu Cig Cymru, ac mae hi’n dathlu’r diwydiant porc artisan Cymreig, sef diwydiant o ffermydd bychan a chynhyrchwyr arbenigol.  Chris a Rachel Wolsey, … Continued

HCC yn Ffair Aeaf CAFC

By creo

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn edrych ymlaen at ddeuddydd llawn a phrysur yn Llanelwedd yr wythnos nesaf yn Ffair Aeaf CAFC.  Bydd y stondin yn y lle arferol, sef yn Neuadd Arddangos De Morgannwg, a bydd yn llwyfan ar gyfer arddangosfeydd coginio a bwtsiera, lansiadau a chyhoeddiadau. Yn ogystal, bydd cyfle i drafod y … Continued

Fy Mhlât Bwyd i ddod â stori o’r fferm i’r fforc yn fyw

By creo

Mewn digwyddiad cydweithredol o’r fferm i’r fforc a gynhelir yn Sir Gaerfyrddin, bydd stori ‘o’r fferm i’r fforc’ yn dod yn fyw i dros 1,000 o ddisgyblion ysgol yn ystod tri diwrnod ym mis Gorffennaf. Bydd digwyddiad My Food Plate / Fy Mhlât Bwyd, sy’n  yn cael ei drefnu gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gerfyrddin, yn rhoi … Continued

Cig Oen Cymru yn ninas yr Afal Mawr

By creo

Bydd Cig Oen Cymru PGI yn cael sylw mewn sawl digwyddiad yn Efrog Newydd yn ystod yr wythnos nesaf wrth i Hybu Cig Cymru (HCC) barhau â’i raglen allforio. Bydd tîm HCC yn arddangos ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru yn y Summer Fancy Food Show yn Efrog Newydd, sef sioe fasnach arbenigol ar gyfer bwyd a … Continued

Awgrymiadau y bydd y farchnad gig eidion yn sefydlogi

By creo

Gallai’r farchnad gig eidion weld mwy o sefydlogrwydd yn 2025 yn sgil llai o effeithiau economaidd a phroblemau cyflenwad. Mae dadansoddiad gan Hybu Cig Cymru (HCC) o ddata sy’n dangos tueddiadau o ran cyflenwad a manwerthu yn awgrymu y gallai’r darlun hirdymor ar gyfer prisiau cig eidion wella ar ôl y profiad presennol o ostyngiadau … Continued