Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Fel rhan o raglen Cig-weithio HCC, mae ei aelodau presennol wedi trin a thrafod amrywiaeth eang o bynciau perthnasol, o gynaliadwyedd a rheoli glaswelltir i eneteg defaid, gyda chyfleoedd i gwrdd ag arweinwyr o’r diwydiant ar hyd y ffordd.

Roedd eu sesiwn ddiwethaf yn canolbwyntio ar gynhyrchu cig eidion a geneteg, gydag ymweliad â Fferm Warren, Caer ble cyfarfu’r criw ag Arwel Owen, Rheolwr Cadwyn Gyflenwi Cig Eidion gyda Genus ABS. Mae’r teulu Jones yn Fferm Warren yn cydweithio’n agos gyda Genus i gofnodi data ac effeithlonrwydd porthiant eu gwartheg ac yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i fagu a phesgi eu stoc ifanc. Maent yn cofnodi defnydd porthiant a dŵr, ac mae eu hymrwymiad i’r amgylchedd a chynaliadwyedd wedi’u harwain at fesur methan.

Mwynhaodd y grŵp daith o amgylch y fferm ac fe greodd y system effeithlon a’i safonau lles anifeiliaid uchel, gryn argraff arnynt.

Ymunodd cydweithiwr Arwel â sesiwn y prynhawn, sef Finlay Murchie o Genus, a bu’n siarad am safle Genus yn Rhuthun, sut mae’n gweithredu, sut maen nhw’n dewis, casglu a storio eu samplau i adeiladu eu storfeydd a datblygu geneteg bîff i’r dyfodol.

Mae Lynfa Jones, aelod o Cig-weithio, yn Ysgrifennydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig ac meddai: “Roedd yr ymweliad a’r drafodaeth yma gyda Genus yn werthfawr iawn ac yn berthnasol i fy ngwaith. Mae gennyf well dealltwriaeth o’r busnes yn Fferm Warren a’r gwasanaethau a gynigir gan Genus ac rwy’n gobeithio gallu rhannu’r wybodaeth yma gyda fy nghysylltiadau yn y sector cig eidion.”

Mae’r cynllun Cig-weithio hefyd yn cynnig cyfle i’r aelodau dreulio diwrnod mewn gweithle gyda mentor o’r sector cig coch. Mae’r cyfarfodydd cychwynnol wedi’u cynnal a dyddiadau wedi’u gosod ar gyfer yr ymweliadau yn y gweithle.

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad