Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae’r system symudiadau defaid, geifr a cheirw electronig i Gymru, EIDCymru yn nodi ei ben-blwydd yn ddeng mlwydd oed gyda datblygiadau mawr yn ystod y flwyddyn.

Mae EIDCymru yn darparu system cofnodi symudiadau electronig modern a chadarn, a fyddai’n galluogi ymateb cyflym ac effeithiol mewn cyfnodau o glefyd. Mae’n galluogi ceidwaid i gofnodi symudiadau yn effeithlon hefyd, ac yn cyfrannu at ddatblygiad busnesau amaethyddol modern a phroffesiynol. I ddefnyddwyr, mae’n system sy’n bodoli i sicrhau olrheinedd llawn a sicrwydd tra’n cefnogi statws Cig Oen Cymru PGI.

Ers ei lansio yn Ionawr 2016, mae 2.2 miliwn o symudiadau sy’n gyfystyr â 97.5 miliwn o ddefaid, wedi’u hadrodd i EIDCymru gan ffermwyr, marchnadoedd da byw, canolfannau casglu a lladd-dai yng Nghymru, yn ogystal â 45,000 o eifr a 2,700 o geirw.

Meddai Arweinydd EIDCymru, Gwion Aeron: “Yn y deng mlynedd ers sefydlu EIDCymru, mae ein tîm yn Aberystwyth yn falch o fod wedi datblygu a chynnig gwasanaeth effeithlon a defnyddiol i’r diwydiant amaeth yng Nghymru. Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y platfform ar-lein yn darparu mynediad cyflym at yr amrywiaeth o wasanaethau defnyddiol sydd ar gael gennym. Roedden ni’n falch bod gan 80% o’r sawl a gwblhaodd eu stocrestr ym mis Rhagfyr 2025 gyfrif EIDCymru ar-lein ac yn ei ddefnyddio.

“Wrth i ni symud ymlaen, rydym ni’n gyffrous i fedru cynnig gwasanaethau ychwanegol gyda chyflwyniad system cofnodi symudiadau a chofrestru gwartheg ar EIDCymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Bydd hyn yn gwneud bywyd yn haws i geidwaid da byw yng Nghymru a fydd yn gallu rheoli a chofrestru pob symudiad mewn un lle. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r diwydiant dros y misoedd sydd i ddod i sicrhau trawsnewidiad llyfn a di-dor.”

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad