Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mae’r rhan fwyaf o fusnesau amaethyddol yn gorfod mynd i’r afael â’r tywydd heriol a newidiol,  tra’n parhau i fod yn broffidiol a chynaliadwy. Mae fferm ddefaid arfordirol yng Ngheredigion, ar ôl darganfod taw drwy reoli  ei thir glas yw'r ffordd orau i ddelio â thywydd garw arfordirol a hybu cynnyrch ac incwm, wedi ymuno â GrassCheck GB.

Mae fferm Pen-lan, Llanrhystud yn gartref i Glyn, Eleri, Dewi ac Ifan Davies, sy’n rheoli’r daliad  hwn ar lan y môr i gynhyrchu ŵyn cig o’r ansawdd gorau. Mae gan y tir sy'n wynebu'r de, bridd bas sy'n gallu bod yn heriol o ran twf y borfa yn ystod misoedd sych yr haf. Dechreuodd Glyn ac Eleri redeg y fferm yn 1998.

Mae’r 35 hectar (86 erw) o dir pori yn cael ei bori mewn cylchdro gan ddiadell o 250 o famogiaid croesfrid iseldir cymysg ac ŵyn sy’n cael eu gwerthu wedi’u pesgi i raddau helaeth ar sail pwysau marw o ganol mis Mehefin.

Mae gwneud y defnydd gorau o borfa yn nod allweddol i’r fferm, a rhoddir sylw manwl i faetholion y pridd a’r hadau a ddefnyddir i ail-hadu caeau sy’n tanberfformio, gan ystyried y math o bridd a’r anghenion pori. Mae cynnwys cnydau porthiant sy’n cael eu pori yn eu system cynhyrchu ŵyn yn allweddol ar gyfer rheoli’r cyflenwad porthiant drwy gydol y flwyddyn ar y fferm hon.

Daw heriau’r priddoedd bas sy’n wynebu’r de yn amlwg pan fo’r tywydd yn sych yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf, ac mae’r teulu Davies felly yn datblygu strategaethau ar gyfer defnyddio maetholion trwy ddadansoddi’r pridd a chynllunio maetholion ar gyfer pH. Mae cywiro mynegeion yn flaenoriaeth wrth ddewis tir pori sy'n tanberfformio i'w ail hadu a  gwneud y defnydd o fewnbwn yn fwy effeithlon.

Wrth sôn am y tir mae’n ei reoli gyda’i wraig a’i feibion a’r penderfyniadau anodd sydd raid eu gwneud i fod yn broffidiol, eglura Glyn Davies: “Mae gennym dir bas iawn ac mae rhan ohono’n arfordirol iawn gyda thua 8 hectar (20 erw) yn wynebu’r môr. Mae tua 20 hectar (50 erw) gwastad ar y top ac yna’n goleddu tuag i lawr. Mae tua hanner y tir yn weddol hawdd i’w reoli a’r hanner arall ychydig yn fwy heriol.

“Rydw i wedi sylwi fod patrymau’r tywydd yn newid, a byddwn yn dweud fod y tir yn llosgi ychydig yn fwy erbyn hyn. Rydym hefyd wedi gweld llai o borfa pan fo mwyaf ei angen, a dwy flynedd yn ôl pan gawsom yr haf poeth iawn hwnnw roedd yn anodd iawn i ni. Roedd rhaid bwydo’r defaid o ganol Gorffennaf tan fis Medi o achos doedd dim porfa’n tyfu.

“Y tywydd yw’r her fwyaf sydd gennym. Rydyn ni'n llosgi'n rhwydd yma a gall fod yn anodd cael porfa i dyfu ar yr amser iawn. Os yw’n haf sych, byddwn yn rhedeg allan o borfa a dyna pryd mae angen i ni benderfynu beth i’w wneud gyda’r ŵyn. Ydyn nhw'n cael eu gwerthu fel ŵyn stôr neu ydyn ni'n mynd i geisio eu pesgi. Mae’n anodd rheoli hyn weithiau.  Tan yn ddiweddar, roedd gwneud yn siŵr fod yna borfa ar yr amser iawn yn anodd.”

Gan ddeall bod angen newid tacteg, bu Glyn Davies yn gweithio gyda Dewi ac Ifan i ddod o hyd i ateb i'w problem ynghylch porfa ac ymunodd y fferm â GrassCheck GB ychydig dros ddwy flynedd yn ôl.

“Pan ddechreuon ni ffermio yma, roeddwn i'n cario ymlaen â'r hyn roeddwn wedi ei ddysgu. Pori popeth mewn blociau ar yr un pryd. Os oedd porfa yn y cae, roedd mamogiaid yn mynd i mewn, gan obeithio y byddai digon o borfa iddyn nhw.  Byddwn yn ychwanegu ychydig o wrtaith ac yn gobeithio am y gorau.

“Rydyn ni wedi bod gyda GrassCheck nawr ers dwy flynedd ac rydw i wedi gadael i’r bechgyn barhau â’r prosiect. Down i ddim yn meddwl ei fod yn mynd i weithio ond nawr yn yr ail flwyddyn rwy’n gweld ein bod ni’n tyfu mwy o borfa. Am y tro cyntaf ers 15 mlynedd, rydyn ni wedi llwyddo i dorri un cae bach o silwair am nad oedd y defaid yn gallu dal i fyny â’r borfa. Dydw i ddim wedi gweld hynny’n digwydd ers blynyddoedd lawer yma. Rydyn ni’n defnyddio llai o wrtaith ac yn gwerthu mwy o ŵyn am well pwysau a phrisiau.

“Am ein bod yn defnyddio llai o wrtaith, mae ein costau mewnbwn wedi gostwng. Rydyn ni hefyd yn defnyddio llai o danwydd ar y fferm ac yn llwyddo i gael mwy o silwair. Mae hynny'n golygu bod llai o borthiant yn cael ei brynu o’r tu allan. Rydyn ni’n mynd yn fwy hunangynhaliol a chynaliadwy. Mae'n rhaid i ni addasu a newid. Drwy bori celloedd yn hytrach na’r cae cyfan, gallwn reoli’r borfa yn well a gallwn weithio ar hynny. Trwy dyfu mwy o borfa, fe allwn ni wneud gwell gwaith yn gyffredinol,” eglura Glyn.

Mae Dewi, a welodd y prosiect GrassCheck GB yn cael ei hysbysebu gan Hybu Cig Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, yn sylweddoli, er bod angen tipyn o waith, bod yr elw o’r buddsoddiad yn werth chweil.

Dywed: “Mae’n rhaid i chi fesur y borfa a threulio peth amser i gofnodi eich data. Yn bennaf,  rhaid i chi ymrwymo i reoli'r tir. Fodd bynnag, rydych chi’n arbed amser mewn ffyrdd eraill yn y pen draw.”

Ychwanega Ifan: “Mae gennym orsaf dywydd a mesurydd plât, a gafodd eu cyflenwi fel rhan o’r prosiect. Mae’n ddiddorol dilyn patrwm y tywydd, ac mae hynny wedyn yn cael ei fwydo i mewn i fodel GrassCheck GB .

“Mae’r ffordd hon o ffermio hefyd yn golygu cyllidebu a gweld beth sydd o’ch blaen. Mae’n golygu newid sut rydych chi’n rheoli’r tir i gyd-fynd â’r tywydd – ond mae hefyd yn gwneud yn siŵr fod gennych ddigon o borfa i gario ymlaen.”

Mae'r teulu bellach yn rheoli eu caeau yn chwarteri, gan ddibynnu ar siâp a maint y cae. “Weithiau dim ond hanner cae sy’n cael gwrtaith er mwyn dal i fyny. Mae penderfynu ble i wasgaru gwrtaith yn golygu targedu manwl.  Dydy’n caeau ni ddim yn fawr iawn, ac  felly rydyn ni’n tueddu i osod dwy ffens drydan er mwyn eu rhannu. Mae’r darnau’n cael eu pori am rai dyddiau ac yna rydyn ni'n cylchdroi,” meddai Dewi.

Er bod hyn yn golygu ffordd newydd o weithio, mae'r manteision yn amlwg. “Y llynedd fe wnaethom lwyddo i gael ein hŵyn cyntaf bant o’r fferm yn y drydedd wythnos o fis Mai, a oedd yn gynt nag arfer. Fel arfer, mae’n tawelu wedyn, ond rydyn ni’n dal i werthu. Roedd y mamogiaid a'r ŵyn yn cael porfa ffres bob 2 – 3 diwrnod drwy’r amser. Doedd dim prinder porthiant o gwbl.

“Mae’n debyg bod y mamogiaid eu hunain yn y cyflwr gorau y buon nhw ynddo erioed. Roedden nhw’n edrych yn dda yn yr hydref pan aethon nhw at yr hyrddod, roedd y ganran sganio yn uwch a chawson ni lawer mwy o efeilliaid nag arfer.  Mewn gwirionedd rydyn ni’n cael tua 65 yn fwy o ŵyn nag yn y blynyddoedd blaenorol ac mae’r mamogiaid eu hunain yn iach. Maen nhw’n disgleirio,” ychwanega Ifan.

Daeth newid pellach o ran rheoli’r tir pan gyflwynwyd cae o faip sofl ac mae’n fwriad i ail-hadu, gyda’r holl benderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail data.  Eglura Dewi: “Rydyn ni’n defnyddio’r llecyn maip fel ffynhonnell egni a phrotein i’r mamogiaid a’r ŵyn ar ôl ŵyna ac mae’n golygu nad oes angen bwydo dwysfwyd. Mae hynny i gyd yn ychwanegu at gynaliadwyedd y fferm.

“Rydyn ni nawr yn edrych ar raglen ail-hadu hefyd. Y bwriad yw cynnwys rhywfaint o  borthiant – rêp porthiant i besgi’r ŵyn yn yr haf , sofl maip yn mynd i mewn wedyn ac yna byddwn yn ail-hadu yn y gwanwyn ac yn mynd yn ôl at borfa. Does dim ail-hadu wedi digwydd yma ers tua 20 mlynedd. Nawr rydyn ni’n edrych ar y caeau sy'n perfformio orau ac yn dewis y rhai sydd mewn angen. Mae’r data yno, ac rydym yn gwneud ein penderfyniadau ar sail y data hwnnw.”

Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol HCC, Rachael Madeley-Davies: “Mae fferm Pen-lan yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni os byddwn yn camu y tu allan i’n parth cysurus ac yn cofleidio technoleg a ffyrdd newydd o ffermio. Mae HCC yn arwain y ffordd o ran annog y diwydiant i feddwl yn wahanol ac mae’r enghraifft hon yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy wneud penderfyniadau ar sail data; drwy ddefnyddio data fel cofnodion tywydd, gall ffermydd wella eu cynnyrch a’u heffeithlonrwydd, ac maen nhw’n gwneud hynny.”

You may also like

Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Cannoedd o ffeithiau am dda byw ar flaenau eich bysedd
Cannoedd o ffeithiau am dda byw ar flaenau eich bysedd
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn