Mae Arolwg mis Mehefin y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod diadell y DU wedi gostwng 785,800 i 31 miliwn - y ddiadell leiaf a gofnodwyd ers 13 mlynedd.
Yn ôl data Defra, roedd poblogaeth defaid ac ŵyn y DU wedi gostwng 2.5 y cant o un flwyddyn i’r llall ym mis Mehefin 2024, sef o 31.8 miliwn i 31.0 miliwn.
Mae dadansoddiad manwl o ystadegau arolwg mis Mehefin i’w weld ym Mwletin y Farchnad Hybu Cig Cymru (HCC) ar gyfer y mis Rhagfyr hwn. Ynddo, mae’r golygydd, Glesni Phillips, yn ystyried y lleihad mewn gostyngiadau ar draws y rhan fwyaf o gategorïau defaid. “Roedd y ddiadell fagu fenywaidd wedi gostwng 3.6 y cant i 14.9 miliwn, gyda’r rheini oedd wedi’u bwriadu i fagu am y tro cyntaf yn sbarduno’r gostyngiad hwn – mae hyn naw y cant yn llai na'r flwyddyn flaenorol, sy’n awgrymu bod llai o anifeiliaid cadw yn dod i mewn i’r cylch magu” meddai.
“Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod nifer yr ŵyn sy’n cael eu cynhyrchu - hynny yw'r rhai dan flwydd oed - wedi gostwng 1.5 y cant i 15.2 miliwn.”
Dywedodd Glesni, sef Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC, fod y gostyngiad hwn eisoes wedi effeithio ar faint o ŵyn sydd ar gael i’w lladd ar hyn o bryd. “Mae’r rheini sy’n rhan o'r cyfnod cynhyrchu ŵyn rhwng mis Mai 2024 a mis Ebrill 2025 yn cofnodi cyfraddau prosesu sydd wyth y cant yn is na’r rhai yn y flwyddyn flaenorol.
“Mae’n debygol y bydd y gostyngiad yn nifer y ddiadell fagu fenywaidd, yn enwedig mamogiaid sy’n magu am y tro cyntaf, yn arwain at lai o ŵyn yn cael eu cynhyrchu'r flwyddyn nesaf. Gallai hyn gyfyngu ar y cyflenwad o ŵyn ar gyfer magu ac ar gyfer eu lladd yn y blynyddoedd sy’n dilyn.”
Roedd nifer y gwartheg a’r lloi yn y DU wedi gostwng ychydig yn yr un cyfnod - o 9.55 miliwn i 9.41 miliwn, sef gostyngiad o 1.5 y cant sy’n cynrychioli 143,555 pen yn llai o’i gymharu â 2023. “Mae hyn yn parhau â’r dirywiad parhaus ym muches y DU,” meddai Glesni. “Mae’r fuches eidion fagu a’r fuches odro fagu, yr ydym yn ei diffinio fel buwch sydd wedi bwrw llo, wedi crebachu bron i ddau y cant i 3.18 miliwn, sef 14 y cant yn is nag yn 2014 ac wedi’i sbarduno gan ostyngiad o bump y cant yn y fuches eidion fagu i 1.3 miliwn.”
Dywedodd fod y fuches odro fagu wedi aros yn sefydlog ar 1.8 miliwn sy’n gyson â lefelau 2014. “Gallai fod y cynnydd o dri y cant mewn “gwartheg benyw eraill,” yn enwedig yn y categori cig eidion lle mae’r niferoedd wedi cynyddu pump y cant, yn dangos ymdrechion ffermwyr i gadw anifeiliaid benyw iau fel stoc magu posibl ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn gwrthbwyso’r dirywiad yn y fuches fagu bresennol yn y tymor byr.”
Gwelwyd gostyngiad bach o un y cant yn y gwartheg rhwng blwydd a dwyflwydd oed, a gwelwyd dirywiad sylweddol yn y gwartheg oedd yn iau na blwydd oed. Gallai hyn effeithio ar lif y cyflenwad o wartheg cig eidion yn y blynyddoedd sy’n dilyn. “Roedd nifer y gwartheg gwryw wedi gostwng dau y cant, er y gallai cynnydd o bump y cant mewn gwartheg gwryw dwyflwydd oed neu hŷn gynnal niferoedd ar gyfer eu lladd dros dro,” meddai Glesni. “Fodd bynnag, gallai’r gostyngiad mewn categorïau gwryw iau – roedd niferoedd y gwartheg gwryw rhwng blwydd a dwyflwydd oed wedi gostwng dau y cant a niferoedd y rhai iau na blwydd oed wedi gostwng pedwar y cant – gyfyngu ar gynhyrchu cig eidion mewn blynyddoedd diweddarach.”
Roedd Glesni yn amcangyfrif y gallai’r canlyniadau hyn awgrymu na fyddai cynhyrchu cig eidion yn gostwng yn sylweddol yn y tymor byr yn sgil sefydlogrwydd yn y fuches eidion rhwng blwydd a dwyflwydd oed a’r cynnydd mewn gwartheg gwryw hŷn. “Fodd bynnag, mae’r gostyngiad nodedig yn y fuches eidion fagu, ynghyd â llai o loi ifanc a llai o wartheg benyw dan ddwy flwydd oed, yn awgrymu gostyngiad posibl yn y cyflenwad gwartheg eidion wedi’u pesgi a’r swmp cynhyrchu yn y tymor hwy,” nododd Glesni.
Mae Bwletin y Farchnad HCC ar gyfer mis Rhagfyr ar gael yma: https://meatpromotion.wales/cy/market-intelligence/bwletin-y-farchnad/