Mae angen ffermwyr defaid ac eidion masnachol o Gymru i gymryd rhan mewn prosiect sy’n ceisio datblygu strategaethau bridio a fydd yn lleihau nwyon tŷ gwydr.
Nod y prosiect ‘Bridio ar gyfer gwelliannau mewn defaid a gwartheg bîff’ yw helpu cynhyrchwyr cig coch y DU i wneud gwell penderfyniadau bridio sydd hefyd yn ymarferol a fforddiadwy.
Gan weithio mewn partneriaeth fel rhan o gonsortiwm mawr o sefydliadau academaidd ac o’r diwydiant, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn cydweithio gyda Mentera i recriwtio grŵp bach o ffermwyr ar gyfer y rhaglen. Mae'n rhaid bod ganddynt ddiddordeb mewn gwella’u rheolaeth bridio a chynnydd geneteg ar eu ffermydd. Yn ogystal, mae angen iddynt fod yn barod i gwblhau dadansoddiad ôl troed carbon ac archwilio’r manteision ariannol i fedru asesu effaith unrhyw newidiadau.
Meddai Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC: “Rydym yn falch iawn i gael bod yn rhan o’r prosiect newydd, amlddisgyblaethol yma ac edrychwn ymlaen at weithio gyda ffermwyr o Gymru a phartneriaid eraill o’r diwydiant i weithio tuag at gyrraedd sero net. Gobeithiwn y bydd y prosiect yma’n rhoi tystiolaeth gadarn i ddiwydiant cig coch Cymru I’n helpu i hyrwyddo nodweddion cynaliadwy Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru PGI i ddefnyddwyr.
“Mae nifer o ffermwyr yn wynebu derbyn arweiniad aneglur ar sut i leihau allyriadau, gan arafu cynnydd y diwydiant. Wrth ddefnyddio ymchwil, adolygu dulliau bridio byd eang a chasglu data o bum fferm yng Nghymru - yn ogystal â 15 fferm arall ar draws y DU - bydd y prosiect yn darganfod strategaethau bridio ymarferol a fforddiadwy i leihau allyriadau a gwella proffidioldeb.
“Mae croeso i ffermwyr sydd â diddordeb gysylltu efo fi i drafod y prosiect a mynegi diddordeb cyn 3 Chwefror 2025.”
Meddai Dr Non Williams, Mentera: “Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i gydweithio gyda sawl cynrychiolydd academaidd ac o’r diwydiant ar y prosiect cyffrous hwn. Bydd yn dod ag unigolion gyda’r un meddylfryd ynghyd, ac yn galluogi ffermwyr o Gymru i wneud penderfyniadau bridio a fydd yn helpu i weithio tuag at sero net, ochr yn ochr â ffermwyr blaengar eraill.”
Wedi’i gefnogi gan HCC a Mentera, mae’r gwaith yma’n un o 15 prosiect arloesol wedi’i gyllido gan yr AFN Network+ (UKRI Agri-food for Net Zero Network+) sydd wedi’u cynllunio i gefnogi sector bwyd-amaeth y DU drwy’r trawsnewidiad i sero net erbyn 2050.
Mae’r AFN Network+ yn brosiect tair-mlynedd a sefydlwyd yn 2022 gyda chyllid o £5 miliwn o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Ei nod yw dod ag ymchwilwyr, gweithwyr polisi, sefydliadau trydydd-sector a phobl broffesiynol o’r diwydiant bwyd-amaeth, o ffermwyr i fanwerthwyr, ar draws y DU at ei gilydd i archwilio ffyrdd effeithiol o gefnogi’r diwydiant i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol.