Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae’r corff ardoll cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn parhau i wneud ymdrech i gyfathrebu gyda’i randdeiliaid gyda chyfres o gyfarfodydd agored, neu ‘Fforwm Ffermwyr’.

Cynhaliwyd dau gyfarfod yn ddiweddar, un yng Ngholeg Glynllifon ger Caernarfon a’r llall yng Ngholeg Pen-y-bont. Bydd y cyfle nesaf i ymgysylltu gyda staff HCC ar ffurf gweminar ar-lein nos Lun nesaf, 5 Chwefror am 7:00yh.

I gofrestru ar gyfer y weminar ar 5 Chwefror, cliciwch yma.

Meddai Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC: “Mae’r cyfarfodydd Fforwm Ffermwyr yn gyfle gwych i egluro gwaith HCC yn hyrwyddo ac amddiffyn y ‘Ffordd Gymreig’ o gynhyrchu cig coch. Maen nhw hefyd yn sgwrs ddwy-ffordd - cyfle i gynhyrchwyr ofyn cwestiynau a rhannu eu barn a’u syniadau gyda ni.

“Mae’n bwysig ein bod yn cyfathrebu gyda’n rhanddeiliaid, a rhannu mewnwelediad a gwybodaeth ar y sector cig coch. Ond mae cynnig platfform i bobl sy’n gweithio o fewn y diwydiant i leisio eu barn yr un mor bwysig.”

Mae Laura Pickup yn annog rhanddeiliaid i ymuno â’r weminar wythnos nesaf. “Hyd yn hyn yn y gyfres yma o gyfarfodydd wyneb-yn-wyneb, rydym wedi cynnal dau ddigwyddiad mewn colegau amaethyddol yng Nghymru a’r bwriad yw ymweld â mwy ohonynt yn ystod 2024. Maen nhw wedi’u cyfuno â gweithdai ar gyfer y myfyrwyr yn ystod y dydd dan arweiniad staff HCC sy’n arbenigo yn y diwydiant a’i gynaliadwyedd. Mae’r gweithdai yna’n cyflwyno themâu yn cynnwys ansawdd bwyta cig a graddio carcasau, ac yn cynnig cyfle i ni gael barn ffermwyr ifanc.

“Y weminar yw’r cyfarfod nesaf yn ein cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu, ac mae’n rhoi cyfle i fwy o bobl glywed gan HCC.

“Bydd pawb sy’n ymuno’n cael cyfle i wrando ar dri chyflwyniad byr ar ein gweithgaredd marchnata diweddaraf ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, clywed mwy am gynaliadwyedd y diwydiant cig coch yng Nghymru, a derbyn y data diweddaraf o’r marchnadoedd. Gallant hefyd rannu eu barn ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector.”

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol