Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae’r chwilio wedi dechrau am ysgolor Hybu Cig Cymru (HCC) 2024! Mae  Ysgoloriaeth HCC yn agored i unrhyw un dros 18 mlwydd oed sy’n gweithio yn y sector cig coch yng Nghymru.  Mae'n werth £4,000 ac mae'n gwobrwyo unigolion sydd am astudio agwedd ar gynhyrchu neu brosesu cig coch unrhyw le yn y byd.

Mae'r ysgoloriaeth deithio bellach ar agor a bydd yn cau ar 1 Mawrth 2024.

Ymhlith enillwyr blaenorol mae academyddion, ffermwyr, cigyddion, proseswyr a newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant, ac mae'r pynciau a astudiwyd yn amrywio o'r defnydd o borfa a bridio detholus i wella costau cynhyrchu a systemau graddio rhyngwladol ar gyfer cig eidion.

Gall ysgolorion ddewis astudio unrhyw bwnc o fewn y gadwyn gyflenwi cig coch, sydd o fudd iddyn nhw eu hunain ac i'r diwydiant yn gyffredinol. Gall teithiau astudio bara hyd at chwe wythnos a disgwylir i ysgolorion ysgrifennu adroddiad a rhannu eu canfyddiadau â'r diwydiant ar ôl iddyn nhw ddychwelyd.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Datblygu'r Diwydiant yn HCC, James Ruggeri: “Mae Ysgoloriaeth HCC yn bodoli ers dros ugain mlynedd ac mae’n gyfle heb ei ail i unrhyw un sy’n ymwneud â’r diwydiant cig coch yng Nghymru i astudio agwedd ar y sector mewn unrhyw ran o’r byd. Mae Ffrainc, Seland Newydd, UDA a Chile ymhlith y nifer fawr o wledydd bu Ysgolorion HCC yn ymweld â nhw yn y blynyddoedd diwethaf. Yn wahanol i Ysgoloriaethau eraill, does dim terfyn oedran ar Ysgoloriaeth HCC. Rydym yn chwilio am unigolion uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo i wella eu dealltwriaeth eu hunain, ac ar yr un pryd chwarae rhan yn natblygiad y diwydiant cyfan.”

Dywedodd Ysgolor HCC 2023, Tudor Roderick: “Mae’r ysgoloriaeth yn gyfle gwych i deithio a dysgu am systemau ffermio gwahanol. Yn ystod fy nhaith i Awstralia, cefais gyfle i gyfarfod â nifer fawr  o fridwyr defaid ysbrydoledig ac angerddol a roddodd fewnwelediad manwl i mi o’u busnesau. Byddwn yn argymell unrhyw un sydd â diddordeb mewn teithio a dysgu mwy am ffermio mewn gwlad dramor i wneud cais am yr ysgoloriaeth.”

Dywedodd Ysgolor HCC 2023, Dan Jones, a fu’n astudio arferion ffermio yn UDA a’r DG er mwyn deall y technegau a’r datblygiadau diweddaraf mewn pori cadwraethol a ffermio’r ucheldir:  “Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i wneud cais am y cyfle hwn!  Mae’n gyfle gwych i deithio a gweld diwylliannau gwahanol. Mae’n agor eich meddwl ac yn eich herio.  Mae HCC yn cynnig cyfle gwych i bobl fuddsoddi yn eu hunain a’u gyrfaoedd – felly, gwnewch gais.”

Ychwanegodd James Ruggeri: “Mae HCC yn ymdrechu i sicrhau bod gan y diwydiant cig coch yng Nghymru ddyfodol sy’n  broffidiol, effeithlon a chynaliadwy. Mae'r ysgoloriaeth hon yn golygu y gallwn feithrin gwell dealltwriaeth a chefnogi'r rhai sy'n teimlo mor angerddol â ni am ein diwydiant ac sy'n gweithio tuag at weld y weledigaeth honno'n ffynnu. Rwy’n dymuno pob lwc i bawb sy’n ymgeisio!”

Mae gan Gymdeithas Ysgoloriaeth HCC aelodaeth unigryw o ffermwyr arobryn, academyddion o fri a phobl nodedig o fewn y diwydiant – a phob un ohonyn nhw wedi cwblhau Ysgoloriaeth HCC.  Cadeirydd presennol y Gymdeithas Ysgoloriaethau yw’r ffermwr defaid a chig eidion, Will Evans o Fachynlleth, a'r Is-Gadeirydd yw James Powell.

I wneud cais am yr Ysgoloriaeth, dylai unigolion sydd â diddordeb lenwi'r ffurflen gais ar wefan HCC, a bydd cyfweliad yn dilyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer. Y cyfnod ymgeisio yw o ddydd Llun 12 Chwefror 2024 tan 5pm ar 1 Mawrth 2024.  Mae'r manylion llawn a chyfarwyddyd ynghylch sut i wneud cais ar gael yma:https://meatpromotion.wales/en/industry-resources/scholarship-and-careers/hcc-scholarship


You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol