Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae ychwanegu 11 rhywogaeth newydd o laswellt a meillion at y rhestr a argymhellir wedi’i groesawu gan Hybu Cig Cymru. Y bwriad o’u cynnwys yw gwneud tir glas yn fwy cynhyrchiol, ar adeg pan fo costau cynhyrchu yn bryder o’r mwyaf i ffermwyr da byw. Drwy ddefnyddio hadau sydd ar y Rhestr a Argymhellir, gall ffermwyr wneud y defnydd gorau o borthiant ar y fferm, a gall hyn yn ei dro helpu i leihau costau porthiant a gwella effeithlonrwydd.

Mae’r  rhywogaethau a gafodd eu hychwanegu at y Rhestr swyddogol o Laswellt a Meillion a Argymhellir (RGCL) yn cynnwys dau rygwellt Eidalaidd, chwe rhygwellt lluosflwydd, dau fath o faglys ac un rhywogaeth ffestwloliwm.

Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol HCC  ar gyfer Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd: “Mae yna fanteision mawr drwy ddewis y  rhywogaethau diweddaraf o laswellt a meillion sy'n cynnig y nodweddion gorau megis cnwd, treuliadwyedd, a thwf tymhorol oherwydd buddsoddiad sylweddol gan fridwyr planhigion i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a chynhyrchiant.

“Gall ffermwyr Cymru ddefnyddio’r llawlyfr rhagorol hwn i wneud y gorau o’r amrywiaeth o rywogaethau sydd ar gael a dewis cymysgeddau i ddiwallu anghenion eu da byw. Boed yn ddefaid sy’n pori neu’n laswellt ar gyfer silwair aml-doriad, mae yna rywogaeth i bob pwrpas.”

Gall yr RGCL helpu ffermwyr i ddeall nodweddion perfformiad gwahanol rywogaethau, megis cynnyrch, perfformiad parhaus, ansawdd ac ymwrthedd i glefydau, ynghyd â dewis y rhai sy’n addas ar gyfer eu system ffermio nhw.

Mae’r broses drylwyr o ddethol ar gyfer rhywogaethau newydd o laswellt yn sicrhau eu bod yn ddibynadwy ac yn perfformio’n dda.  Mae pob rhywogaeth newydd yn cael chwe blynedd o brofion annibynnol ar draws safleoedd treialu’r DG, gan asesu cyfanswm y cynnyrch blynyddol, twf tymhorol, cynnyrch ynni metaboladwy, caledwch yn y gaeaf, a gwrthsefyll clefydau.  Mae ailasesiad, ar ôl pum mlynedd ychwanegol o dreialon, yn penderfynu a ddylid argymell bod rhywogaeth â statws amodol (PG/PS) yn cael ei mabwysiadu'n ddiamod (G).

Mae rhaglen dreialu’r Rhestr a Argymhellir ar gyfer Glaswellt a Meillion (RL) yn cael ei rheoli gan NIAB ar ran y BSPB, gyda safleoedd treialu ledled y wlad yn cael eu rhedeg gan NIAB, IBERS, DLF, DSV a safleoedd clefyd sy’n cael eu rhedeg gan NIAB a Barenbrug. Mae'r rhestrau'n adeiladu ar ddata cychwynnol y treialon Rhestru Rhywogaethau Cenedlaethol (sydd hefyd yn cael eu rheoli gan NIAB ar ran y BSPB i APHA), sy'n cynnwys safleoedd sy'n cael eu rhedeg gan AFBI, SRUC a SASA.

Caiff rhaglen dreialu’r Rhestrau a Argymhellir ei hariannu, drwy’r BSPB, gan fridwyr ac asiantau planhigion, gyda chyfraniadau gan yr AHDB a HCC.

Dywedodd Ellie Sweetman, Arbenigwr Cnydau Porthiant yn NIAB a Chydlynydd Treialon RGCL ar ran BSPB:  “I gael lle ar yr RGCL, rhaid i rywogaethau gynnig gwelliant clir i’r rhestr bresennol.   Mae hyn yn gwthio'r safon i fyny drwy’r amser gyda chynnyrch cynyddol, defnyddio maetholion yn effeithlon a chynnyrch EM yr hectar, gan gynyddu effeithlonrwydd cynhyrchu a chynaliadwyedd.   Bydd ailhadu gyda rhywogaethau RGCL yn cynyddu perfformiad y tir glas ac yn rhoi elw da i’r buddsoddiad.  Trwy ddarparu data annibynnol cywir, mae'r RGCL yn hwyluso penderfyniadau gwybodus o ran dewis rhywogaethau a chymysgeddau ar gyfer amodau penodol ffermydd ac anifeiliaid.

“Yn ogystal â gwybodaeth am rywogaethau, mae’r RGCL yn cynnig cyngor technegol i ffermwyr ar ail-hadu er mwyn gwneud tir glas mor gynhyrchiol â phosibl.”


You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd