Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae’r corff hyrwyddo cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn mynd i’r afael â gwybodaeth gamarweiniol drwy lansio cylchlythyr ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae’r Bwletin Cig Coch ac Iechyd yn ddiweddariad dwyieithog, chwarterol gan HCC ar gyfer unigolion sy’n gweithio ym maes gofal iechyd sy’n chwilio am wybodaeth ffeithiol gywir am gig coch ac iechyd. Mae’r bwletin yn cynnwys adnoddau ar feysydd iechyd penodol yn cynnwys: rhinweddau maeth cig coch, ymchwil a pholisi, y wybodaeth ddiweddaraf gan weithwyr iechyd proffesiynol a rysetiau cytbwys i’w defnyddio yn y gwaith neu adref.

Mae’r rhifyn cyntaf o’r Bwletin yn canolbwyntio ar gig coch a braster.

Yn ogystal â’r cylchlythyr, bydd HCC yn mynychu Cynhadledd Gŵyl Ddewi Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghaerdydd ddiwedd y mis. Bydd y digwyddiad yn gyfle i siarad gyda bydwragedd a’r gymuned bydwreigiaeth ehangach a rhannu gwybodaeth ar fanteision bwyta cig coch yn ystod beichiogrwydd.

Meddai Swyddog Gweithredol Defnyddwyr HCC, Elwen Roberts: “Mae adborth gan weithwyr iechyd wedi dangos bod galw am wybodaeth a thystiolaeth am gig coch, felly mae’r Bwletin Cig Coch ac Iechyd newydd hwn yn darparu gwybodaeth ddwyieithog i nyrsys, bydwragedd, doctoriaid ac unrhyw un sy’n gweithio o fewn y sector iechyd a gofal. Bydd y gynhadledd bydwreigiaeth yng Nghaerdydd yn gyfle arall i ymateb i’r galw am wybodaeth am gig coch fel ffynhonnell dda o brotein, haearn, sinc a fitamin B12 sy’n faetholion pwysig yn ystod beichiogrwydd.

“Gwyddwn bod negeseuon cymysg yn y cyfryngau ac ar-lein am gig coch ac iechyd ond ein bwriad yw sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn derbyn yr ymchwil a’r dystiolaeth ddiweddaraf am gig coch a’r rôl y gall ei chwarae mewn deiet a ffordd iach o fyw.”

Mae gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o fewn y meysydd addysg ac iechyd yn rhan allweddol o gylch gwaith HCC. Gan edrych i’r dyfodol, meddai Elwen: “Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith pwysig yn y maes hwn yn 2025 ac i rannu mwy o wybodaeth ac adnoddau dros y flwyddyn i ddod.”

I gofrestru ar gyfer y cylchlythyr, neu i gael golwg ar adnoddau iechyd ac addysg HCC, ewch i’r wefan:  https://redmeathub.wales/gb/cy/

Fe gynhelir y Gynhadledd Gŵyl Ddewi ar 28 Chwefror, mae mwy o wybodaeth yma:  https://rcm.org.uk/events/2024/09/30/st-davids-day-conference-2025/

You may also like

Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg
HCC yn dechrau’r chwilio blynyddol am Ysgolorion newydd
HCC yn dechrau’r chwilio blynyddol am Ysgolorion newydd