Mae cael ffermwyr i arwain y gwaith o hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI wedi parhau i fod yn llwyddiant mawr i Hybu Cig Cymru (HCC).
Mae’r ymgyrch aml-blatfform ‘Unigryw i Gymru. Arbenigwyr yn eu maes’ wedi adeiladu ar lwyddiant blynyddoedd blaenorol drwy barhau i ganolbwyntio ar straeon go iawn o’r gymuned ffermio yng Nghymru, gyda chanlyniadau’n cynnwys cynnydd sylweddol o flwyddyn i flwyddyn mewn gwerthiant cig oen mewn un adwerthwr mawr yn y DU, ynghyd â chynnydd mewn ymwybyddiaeth a thueddiad i brynu.
A hwythau’n dod o wahanol rannau o’r wlad, mae straeon y ffermwyr am dreftadaeth, traddodiad ac ymroddiad i gynhyrchu bwyd o safon wedi taro deuddeg â’r cyhoedd, gydag arolwg yn dangos bod dros hanner y rhai a welodd hysbyseb deledu’r ymgyrch yn rhoi mwy o barch i ffermwyr nag o’r blaen. Mae ymwybyddiaeth o frand Cig Oen Cymru yn Lloegr hefyd wedi cynyddu’n sylweddol o ganran 2022 o 39% i 72% ar ddiwedd 2024.
Gyda ffocws ar ddangos sut mae’r diwydiant yn cymryd cynaliadwyedd o ddifrif trwy weithio mewn cytgord â’r amgylchedd naturiol, mae gosod ffermwyr wrth galon yr ymgyrch hefyd wedi helpu i herio camsyniadau ac wedi dangos realiti ffermio da byw yn ucheldiroedd Cymru.
Fel y dywedodd Lisa Markham, sy’n ffermio yn Llanfihangel-y-Pennant yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, ac sy’n ymddangos yn yr hysbyseb deledu, “Mae’n galonogol iawn gweld bod galluogi ffermwyr i adrodd eu stori eu hunain yn parhau i gysylltu mor dda â’r cyhoedd. Mae cymaint o gamsyniad ynglŷn â sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, a beth mae ffermio defaid yn ei olygu, ac mae’n braf iawn gallu cynnig ein hochr ni o’r stori.
“Mae’r diwydiant yn gyffredinol wedi bod ar dipyn o daith i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn o ran ffermio’n gyfrifol ac yn gynaliadwy. Mi wnaethon ni’r penderfyniad ychydig flynyddoedd yn ôl i ffermio’r ffordd naturiol, fel mae ein cyndeidiau wedi gwneud ers canrifoedd, ac mae ein hŵyn yn byw ar y glaswellt naturiol – maen nhw’n pesgi’n naturiol.
“Mae’n wych gweld yr ymgyrch yn cael cymaint o effaith, ac rwy’n teimlo’n arbennig o falch bod yr hysbyseb deledu a gafodd ei ffilmio ar ein fferm ni wedi helpu pobl i weld y gymuned ffermio mewn ffordd fwy cadarnhaol.”
Bu’r ymgyrch yn rhedeg yn ystod yr haf a’r hydref, yn gymysgedd o deledu, radio a digidol, gydag elfennau tactegol ehangach o hysbysebu y tu allan i’r cartref o amgylch lleoliadau manwerthu allweddol. Cyrhaeddodd yr ymgyrch â tharged manwl gywir gyfanswm o dros 3 miliwn o bobl ledled Cymru a Lloegr gan lwyddo i ddenu 157,000 o bobl i ymweld â gwefan Cig Oen Cymru.
Un enghraifft o lwyddiant yr ymgyrch oedd y ffaith bod gwerthiant cig oen mewn adwerthwr blaenllaw wedi codi yn ystod rhan allweddol o’r ymgyrch ym mis Medi a mis Hydref, o un flwyddyn i’r llall, o dros 20% yng Nghymru a Lloegr.
Defnyddiodd yr ymgyrch dechnoleg a sianeli newydd dargedu'n fanwl ac ysgogi pryniannau at adwerthwyr allweddol. Drwy ganolbwyntio ar restr ddwys iawn o siopau ar hyd a lled Cymru a Lloegr, llwyddodd yr ymgyrch i dynnu ar y data a oedd ar gael i dargedu prynwyr cig oen yn well gydag anogaeth gref i ddewis cynnyrch Cymreig yn hytrach na chynnyrch cystadleuwyr. Gwnaeth y dull hynod fanwl hwn helpu i gadw'r ymgyrch yn berthnasol iawn a sicrhau'r elw mwyaf posibl ar y buddsoddiad.
I Philippa Gill, Arweinydd Ymgysylltu Brand HCC, mae llwyddiant yr ymgyrch yn cyfiawnhau eu penderfyniad i ddefnyddio dull llai traddodiadol o ran marchnata yn y diwydiant. Dywedodd, “Fe wnaethon ni’r penderfyniad rai blynyddoedd yn ôl i newid ffocws ein hymgyrchoedd, trwy dynnu sylw fwyfwy at waith caled ac ymroddiad ein ffermwyr.
“Roedd yn teimlo ychydig yn fentrus ar y pryd, gan fod rhan fwyaf o ymgyrchoedd y diwydiant yn tueddu i ganolbwyntio’n bennaf ar y cynnyrch, ar draul y rhai sydd wedi ei greu.
“Ond yn y pen draw, roedden ni’n hyderus y byddai’r agwedd hon yn gweithio’n dda gyda’r cyhoedd. Wedi’r cyfan, mae gan Gig Oen Cymru stori wych i’w hadrodd o ran ei draddodiad, ei darddiad a’i ansawdd, ac mae’r ffermwyr eu hunain yn dangos mai nhw yw’r bobl berffaith i adrodd y stori hon yn eu ffordd ddilys eu hunain.”