O flaen Wythnos Cig Eidion Prydan, mae ymgyrch Cig Eidion Cymru PGI ddiweddar Hybu Cig Cymru (HCC) wedi parhau i daro deuddeg â defnyddwyr.
Parhaodd yr ymgyrch amlgyfrwng ‘Naturiol a Lleol’, a gyflwynwyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod manwerthu allweddol cyn y Nadolig, i adeiladu ar lwyddiannau’r blynyddoedd blaenorol wrth gynnal lefelau uchel o ymwybyddiaeth am y brand. Yn ogystal, dangosodd arolygon barn ar ôl yr ymgyrch fod bron i ddwy ran o dair o ddefnyddwyr Cymru yn fodlon prynu’r cynnyrch.
Roedd yr ymgyrch yn cynnwys lleisiau dilys ffermwyr go iawn, ac yn canolbwyntio ar sianeli teledu craidd, gan gynnwys ITV ac S4C, ynghyd â radio cenedlaethol, gweithgareddau allanol a digidol.
Roedd y ffermwyr a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ymgyrch yn cynrychioli natur amrywiol y diwydiant. O gyrion Caerdydd i ucheldiroedd gwyllt Ceredigion, hyd at diroedd ffrwythlon ar lan y Fenai; roedd gan bob un ei stori unigryw ei hun am hyrwyddo dulliau ffermio cynaliadwy, a sut y dylai Cig Eidion Cymru fod yn ddewis ‘naturiol a lleol’ i’r rhai sy’n byw yng Nghymru.
Fe’i cynhaliwyd yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2024, ac mae’r canlyniadau’n dangos bod yr ymgyrch wedi cyrraedd dros 1.5m o bobl ledled Cymru, a helpodd i ysgogi bron i 50,000 o ymweliadau ychwanegol â’r wefan yn ystod cyfnod yr ymgyrch. Ymhlith y gwaith tactegol roedd hysbysebu yn yr awyr agored o amgylch lleoliadau amlwg yng nghanol dinas Caerdydd yn ystod gemau rygbi rhyngwladol yr hydref, ynghyd â geo-dargedu lleoliadau manwerthu allweddol ledled y wlad. Arweiniodd hyn oll at 83% o oedolion yng Nghymru yn adnabod y brand.
Yn ogystal â chynnig diogeledd bwyd hollbwysig, mae ymchwil yn dangos yn gyson bod y diwydiant ffermio’n hanfodol i les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Cymru wledig. O ran yr economi, nid yn unig y mae amaethyddiaeth yn cyfrannu at greu swyddi, ond mae amcangyfrifon o wariant lleol ac effeithiau lluosydd yn awgrymu bod ffermydd teuluol yng Nghymru yn caffael dros 80% o nwyddau a gwasanaethau o fewn radiws o 25 milltir i’w fferm, gan wneud cyfraniad ehangach felly i economïau a chymunedau lleol.
Mae gwaith arloesol hefyd yn cael ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau bod y diwydiant yn cyd-fynd yn gadarn â’r agenda cynaliadwyedd, wrth iddo lywio’r llwybr at leihau nwyon tŷ gwydr. Mae gweithio mewn cytgord â’r amgylchoedd naturiol, a gwneud y gorau o’r cyflenwad dŵr glaw a glaswelltir, wedi bod yn un o nodweddion y diwydiant erioed. Ond y gobaith yw y bydd y prosiect ‘Bridio ar gyfer gwelliannau mewn defaid a gwartheg bîff’, mewn partneriaeth â chonsortiwm mawr o sefydliadau’r diwydiant a sefydliadau academaidd, yn helpu’r diwydiant i wella ymhellach wrth ffermio’n fwy cynaliadwy.
Dywedodd Philippa Gill, Arweinydd Ymgysylltu â Brandiau HCC: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi gallu cynnal canlyniadau gwych ymgyrch y llynedd, pan gwnaethon ni ddechrau cyflwyno elfen deledu i’n strategaeth farchnata.
“Mae ymwybyddiaeth o’r brand, a pharodrwydd defnyddwyr i brynu’r cynnyrch, yn parhau i fod yn drawiadol o uchel, sy’n dangos bod straeon ein ffermwyr yn parhau i gael effaith ar bobl ledled Cymru.
“Rydyn ni’n gwbl ffyddiog bod Cig Eidion Cymru yn gynnyrch naturiol a chynaliadwy o ansawdd uchel, ac mae’n wych bod ein ffermwyr yn llysgenhadon mor ddilys ar ei gyfer.”