Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae prisiau ŵyn pwysau marw wedi cynyddu dros 20 y cant yn ystod y naw wythnos diwethaf – gyda mwy o alw gan ddefnyddwyr cig oen adeg gwyliau crefyddol a llai o ŵyn yn cyrraedd y farchnad yn bennaf gyfrifol.

Mae naw cynnydd wythnosol yn olynol yn y prisiau wedi mynd â phris SQQ cyfartalog ŵyn pwysau marw ledled Prydain i bron i £7.90/kg, sef cynnydd o £1.74 ers wythnos gyntaf 2024, yn ôl rhifyn newydd Bwletin y Farchnad Hybu Cig Cymru (HCC).

Roedd y pris diweddaraf, ar gyfer yr wythnos yn diweddu 16 Mawrth, yn uwch na'r pris uchaf a gofnodwyd y llynedd, sef tua £7.43/kg ym mis Mai, ac mae oddeutu 50 y cant yn uwch na'r cyfartaleddau hanesyddol.

Mae llai o gyflenwad a gwyliau crefyddol, pan mae cig oen yn cael ei fwyta’n draddodiadol, wedi cyfrannu at y prisiau uwch, yn ôl Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC. “Caiff mwy o gig oen nag arfer ei fwyta yn ystod gwyliau crefyddol, ac eleni mae’r Pasg a Ramadan – yr ŵyl Islamaidd sy’n cynyddu’r galw am broteinau fel cyw iâr a chig oen – yn digwydd ym mis Mawrth,” esboniodd Glesni.

“Mae’r digwyddiadau hyn, ynghyd â’r crebachu yn niadelloedd  defaid magu yn y DG a Chymru, yn golygu bod y cyflenwad ŵyn sy’n dod ar y farchnad ar hyn o bryd yn gyfyng o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac i ateb i galw presennol,” meddai.

Ychwanegodd fod data trwybwn gan Defra ar gyfer y cyfnod o fis Mai 2023 tan fis Chwefror 2024 yn dangos bod 10.2 miliwn o ŵyn wedi cael eu prosesu yn y DG hyd yma eleni, sy’n debyg i’r nifer yn y flwyddyn flaenorol.  Serch hynny, roedd arolwg mis Mehefin wedi dangos fod tua chwech y cant yn llai o ŵyn wedi cael eu geni nag yn y flwyddyn flaenorol. “Mae hyn yn dangos taw nifer cyfyngedig o ŵyn sydd ar ôl ar y ffermydd,” meddai Glesni.

Mae’r patrymau masnach hefyd wedi rhoi rhywfaint o anogaeth i’r farchnad gartref, gydag amcangyfrifon HCC o ddata Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn datgelu bod allforion cig defaid o Gymru yn gryf yn 2023 – cafwyd cynnydd o ddeg y cant o ran gwerth i gyfanswm o £190.9 miliwn. “Mae hyn yn awgrymu, er gwaethaf y twf economaidd lleiaf posibl ar draws marchnadoedd y byd oherwydd lefelau chwyddiant, fod galw o hyd am gig oen yn y gwledydd sy’n mewnforio ein cig,” meddai Glesni.

Roedd hi o’r farn y bydd masnachu yn 2024 yn parhau i fod yn gystadleuol. “Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol, mae yna ragor o ddyddiau gŵyl allweddol yn 2024.  Mae gŵyl Qurbani, ‘gŵyl y wledd’, er enghraifft, ar fin digwydd ganol mis Mehefin, a gallai argymhellion Cynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru roi pwysau pellach ar niferoedd,” proffwydodd Glesni.

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol