Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae maint y boblogaeth wartheg ym Mhrydain Fawr wedi gostwng dau y cant o un flwyddyn i’r llall, ac mae arbenigwyr yn disgwyl y bydd hyn yn gostwng eto fyth yn y blynyddoedd sy’n dilyn.

Ar 1 Hydref 2024, roedd cyfanswm y boblogaeth wartheg a lloi ym Mhrydain Fawr yn 7.7 miliwn – gostyngiad o 2 y cant o flwyddyn i flwyddyn, yn ôl data gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) a nodwyd ym Mwletin y Farchnad Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales (HCC) y mis hwn.

“Mae hyn yn cynrychioli 163,100 yn llai o anifeiliaid, a gostyngiad pellach o dri y cant o’i gymharu â mis Hydref 2022,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC. “Roedd nifer y gwartheg cig eidion wedi gostwng 1.8 y cant i 5.0 miliwn, ac roedd y fuches odro wedi crebachu 2.5 y cant i 2.8 miliwn, gan barhau â’r duedd ar i lawr a welwyd yn y blynyddoedd diwethaf.”

Esboniodd ei bod yn bosibl, drwy archwilio categorïau gwartheg a grwpiau oedran, cael goleuni pellach ar gyflenwad posibl y farchnad yn y tymor byr a’r tymor hwy. “Mae’r boblogaeth wartheg dros dri deg mis oed yn 2.8 miliwn, gostyngiad o ddau y cant ers y flwyddyn flaenorol a 3.5 y cant yn is nag yr oedd yn 2022,” meddai Glesni.

“O fewn y categori hwn, mae benywod magu dros 30 mis oed yn arwydd o faint y fuches fagu – gostyngiad o ddau y cant i 2.7 miliwn. Cafodd y gostyngiad hwn ei sbarduno gan leihad o bedwar y cant yn y fuches cig eidion fagu, tra bod y fuches odro fagu wedi aros yn sefydlog ar 1.4 miliwn.”

Dywedodd fod y boblogaeth wartheg o dan dri deg mis ym Mhrydain Fawr wedi gostwng i ychydig o dan bum miliwn ym mis Hydref 2024, gostyngiad o 2.2 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. “Mae data ar gyfer gwartheg cig eidion a gwartheg gwryw o’r fuches odro 12-30 mis oed yn rhoi syniad o’r cyflenwad posibl o wartheg wedi’u pesgi ar gyfer y farchnad yn y tymor byr. Roedd 2 y cant yn llai o anifeiliaid ar lawr gwlad o’i gymharu â 2023, sy’n awgrymu y bydd y cyflenwad yn y tymor byrrach yn dynnach o’i gymharu â lefelau hanesyddol.

“Yn y tymor hwy, roedd y boblogaeth gwartheg cig eidion a gwartheg gwryw o’r fuches odro rhwng 0 a 12 mis oed wedi gostwng 1.8 y cant i bron i 1.9 miliwn. Mae’r gostyngiad hwn yn awgrymu y bydd y cyflenwad is o wartheg wedi’u pesgi yn debygol o barhau ymhellach ymlaen.”

Cyrhaeddodd cynhyrchu cig eidion gyfanswm misol o 92,000 tunnell ym mis Hydref 2024  - y swmp mwyaf a gofnodwyd ers 2012, yn ôl data gan Defra. Cyrhaeddodd y llif gwartheg wedi’u pesgi rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2024 1.8 miliwn, sef cynnydd o bump y cant o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2023.

‘Er gwaethaf y cyflenwad helaeth hwn, mae prisiau pwysau marw wedi dangos tuedd ar i fyny,’ nododd Glesni.  “Ganol mis Medi, cyrhaeddodd pris cyfartalog pwysau marw bustych yng Nghymru a Lloegr y lefelau uchaf erioed, sef £5/kilo, ac mae’r cynnydd hwn mewn prisiau wedi parhau gyda’r prisiau presennol tua naw y cant yn uwch o un flwyddyn i’r llall.”

Dywedodd, er bod prisiau wrth gât y fferm wedi codi, nid yw’r cynnydd hwn wedi effeithio’n sylweddol ar brisiau defnyddwyr eto. “Roedd pris manwerthu cyfartalog cig eidion ond wedi codi 1.7 y cant o un flwyddyn i’r llall yn ystod y 12 wythnos diwethaf hyd at 3 Tachwedd 2024. Mae Kantar, yr arbenigwyr defnyddwyr, wedi dweud bod prisiau cymharol sefydlog cig eidion yn y siopau wedi cefnogi’r galw gan ddefnyddwyr yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus.

Dywedodd Glesni fod y tueddiadau yn y boblogaeth wartheg yng Nghymru yn adlewyrchu’r rhai a welwyd ledled Prydain i raddau helaeth. “Ar 1 Hydref 2024, roedd gan Gymru 1.1 miliwn o wartheg, a oedd yn cynrychioli 14 y cant o fuches Prydain Fawr ac yn dangos gostyngiad o 1.5% o un flwyddyn i’r llall. Roedd y cyflenwad posibl o anifeiliaid wedi’u pesgi yn y tymor byr i lawr un y cant ar y flwyddyn, ac roedd y cyflenwad posibl yn y tymor hwy i lawr ddau y cant,” meddai.

Mae Bwletin y Farchnad newydd HCC ar gael yma: https://meatpromotion.wales/cy/market-intelligence/bwletin-y-farchnad/


You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol