Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Clywodd cynulleidfaoedd mewn digwyddiad bwyd a diod cynaliadwy a gynhaliwyd ar Ynys Môn fod cynaliadwyedd economaidd a chymdeithasol yr un mor bwysig â chynaliadwyedd amgylcheddol yn sector cig eidion a defaid Cymru.

Roedd hyn yn ystod sesiwn banel a oedd yn rhan o’r Ŵyl Fwyd Egni gyntaf a gynhaliwyd yn M-Sparc gyda’r nod o ddathlu a thynnu sylw at gynaliadwyedd ac arloesedd yn niwydiant bwyd a diod Cymru. Amcan yr ŵyl oedd ei gwneud yn haws i ymwelwyr gael mynediad at gynnyrch bwyd a diod o Gymru a’u gwneud yn fwy ymwybodol ohonynt – ynghyd ag annog busnesau lletygarwch yng Nghymru i ddefnyddio mwy o fwyd a diod lleol.

Dywedodd John Richards, Arweinydd Cymorth i Gynhyrchwyr a Phroseswyr yn Hybu Cig Cymru (HCC), wrth gynulleidfaoedd yn yr Ŵyl Fwyd Egni ddydd Sadwrn 5 Hydref er bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn bwysig, roedd sicrhau cynaliadwyedd ffermydd Cymru fel busnesau hyfyw a phroffidiol hefyd yn hollbwysig.

Wrth siarad fel aelod o’r panel, esboniodd Mr Richards: “Pan fyddwn yn clywed y gair ‘cynaliadwyedd’ byddwn yn aml yn meddwl am gynaliadwyedd amgylcheddol, ond mae gwir angen i ni hefyd ystyried cynaliadwyedd economaidd a chymdeithasol ffermydd a chymunedau gwledig ehangach. Mae gwneud yn siŵr fod busnesau fferm Cymru yn broffidiol ac yn ariannol gynaliadwy yn hollbwysig wrth symud ymlaen.”

Pan holwyd mwy am gynaliadwyedd amgylcheddol, esboniodd Mr Richards: “Mae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ac yn dechrau o sylfaen gref. Wrth gwrs, mae lle i wella ond gyda’n harferion, tirwedd a hinsawdd rydym yn dod o fan cychwyn cryf.”

Pan ofynnwyd iddo am enghreifftiau o arferion da yn y sector cig coch yng Nghymru, dywedodd Mr Richards: “Gallwn fynd â chi i unrhyw fferm yng Nghymru a dangos enghreifftiau o arferion da; mae yna arferion rhagorol ledled Cymru. Gallwn wneud gwelliannau drwy sicrhau bod arferion rhagorol ar waith ym mhob cam o’r broses gynhyrchu a phrosesu hyd at y defnyddiwr terfynol.”

Cadeiriwyd y panel gan Dr Eifiona Thomas Lane o Ysgol yr Amgylchedd a Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, sydd yn archwilio cynaliadwyedd ac arloesedd o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Yn ymuno â Mr Richards ar y panel, roedd Sam Foster, Rheolwr Distyllfa Aber Falls a Dr Julie Webb o brosiect Môr Ni Gwynedd.  Rhoddodd y ddau fewnwelediad i’r sectorau diodydd a bwyd môr yng Nghymru a’r hyn yr oeddent yn ei wneud i wella cynaliadwyedd.

Yn ôl crynodeb a gafwyd ar y diwedd gan Dr Eifiona Thomas Lane:  “Mae llawer o’r hyn rydym yn ei gynhyrchu yma yng Nghymru, fel Cig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI, bwyd môr Cymreig a gwirodydd Aber Falls yn gynnyrch premiwm o ansawdd uchel. Mae’n ddyletswydd ar gynnyrch premiwm – ac mae disgwyl iddo – arwain y ffordd o ran cynhyrchu trwy ddulliau cynaliadwy a moesegol ac mae wedi bod yn wych clywed mwy am hynny yma heddiw.”

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol