Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae’r corff hyrwyddo cig coch, Hybu Cig Cymru,  wedi cyhoeddi ymgyrch newydd sy’n annog pobl i beidio â rhoi’r gorau i fwyta cig coch – a hynny er mwyn byw yn iach.

Mae’r ymgyrch Ymatal rhag Ymatal gan HCC yn cael ei lansio ar 12 Ionawr, sef ‘Dydd Ymatal’ pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn rhoi’r gorau i’w haddunedau blwyddyn newydd.

Mae’r ymgyrch Ymatal rhag Ymatal yn cymell teuluoedd ac unigolion i beidio ag ymatal rhag  bwyta cig coch fel rhan o’u haddunedau, arferion bwyta a gofal iechyd ar gyfer y flwyddyn newydd.

Wrth esbonio mwy am yr ymgyrch, dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: ‘Mae cig coch, fel Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, yn gig naturiol sydd yn llawn o faetholion fel haearn, sinc a phrotein.  Mae'r fitaminau a'r mwynau hyn yn hanfodol er mwyn i’r corff allu gweithio, sy’n golygu eu bod yn fuddiol dros ben o ran deiet iach a chytbwys.

‘Mae cig coch sy'n dod o laswellt – fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru – hefyd yn cynnwys omega-3, sy'n hanfodol ar gyfer iechyd yr ymennydd a'r galon ac sy’n gorfod cael ei gyflenwi gan eich diet a'r bwyd rydych chi'n ei fwyta, oherwydd ni all eich corff gynhyrchu digon ohono ar ei ben ei hun.’

Bydd yr ymgyrch yn cynnwys y dietegydd Nichola Ludlam-Raine a’r arbenigwyr bwyd Hollie Woods a Llio Angharad a fydd yn tynnu sylw at fanteision iechyd cig coch o Gymru ac yn rhannu ryseitiau delfrydol o ran cydbwysedd maethol a blas. Mae'r ryseitiau'n cynnwys Pad Thai Cig Eidion Cymru tanllyd, Salad Superfood Cig Oen Cymru poeth a golwython Cig Oen Cymru Tandoori danteithiol. Bydd yr ymgyrch yn fyw ar draws y wasg, llwyfannau digidol a chyfryngau cymdeithasol o Ddydd Ymatal ymlaen.

Ychwanegodd Laura: ‘Gall defnyddwyr fod yn dawel eu meddwl hefyd fod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn dda i’r amgylchedd yn ogystal ag i iechyd pobl. Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn dod o brydferthwch cefn gwlad Cymru, lle ma arferion ffermio naturiol a thraddodiadol yn cael eu defnyddio er mwyn cynhyrchu cig coch o’r safonau uchaf o ran yr amgylchedd ac ansawdd y cig.’

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol